Part of the debate – Senedd Cymru am 12:35 pm ar 24 Mawrth 2020.
Mae gan y Bil bum prif faes gweithredu i gefnogi'r ymateb ledled y DU a Llywodraethau cenedlaethol datganoledig. Yn gyntaf, bydd yn helpu i gynyddu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy, er enghraifft, dileu rhwystrau i alluogi staff y GIG a gweithwyr cymdeithasol sydd wedi ymddeol yn ddiweddar i ddychwelyd i'r gwaith.
Yn ail, bydd yn ysgafnhau'r baich ar staff rheng flaen. Bydd y cynigion yn y Bil yn symleiddio gwaith papur a gofynion gweinyddol er mwyn helpu i ryddhau cleifion yn gyflymach. Mae angen i ni ryddhau gwelyau ysbyty i'r rhai sy'n sâl iawn i helpu clinigwyr i ganolbwyntio ar ofal rheng flaen. Bydd hefyd yn gwneud newidiadau i ddyletswyddau gofal cymdeithasol cynghorau. Bydd hyn yn eu galluogi i flaenoriaethu pobl sydd â'r anghenion gofal mwyaf a gwneud y defnydd gorau o'r gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion.
Nod y drydedd cyfres o gynigion yw cyfyngu'r feirws a'i arafu drwy leihau unrhyw gysylltiad cymdeithasol diangen. Mae'r pwerau hyn yn canolbwyntio ar gyfyngu digwyddiadau a chrynoadau a chryfhau pwerau cwarantîn yr heddlu a swyddogion mewnfudo. Bydd hyn yn cynnwys y pŵer i gadw pobl yn gaeth a'u rhoi mewn cyfleusterau ynysu priodol os yw hynny'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
Mae rheoli, gyda pharch ac urddas, y rhai sydd wedi marw bob amser yn bwysig iawn ond yn arbennig o amlwg ar hyn o bryd. Bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd i ymateb i'r pandemig hwn yn achub bywydau. Fodd bynnag, yn anffodus, fel yr ydym ni wedi ei weld eisoes, bydd pobl yn colli anwyliaid o ganlyniad i'r clefyd hwn. Bydd y Bil yn helpu'r system rheoli marwolaethau i ymdrin â'r galw cynyddol am ei gwasanaethau. Bydd yn galluogi cofrestru marwolaethau pan na fydd pobl o bosibl yn gallu bod yn bresennol yn swyddfa'r cofrestrydd yn bersonol. Bydd yn ymestyn y rhestr o bersonau a gaiff gofrestru ac mae'n bosibl y bydd amserau gweithredu amlosgfeydd hefyd yn cael eu hymestyn.
Nod y gyfres olaf o fesurau yw cefnogi pobl yn gyffredinol drwy ganiatáu iddyn nhw hawlio tâl salwch statudol o'r diwrnod cyntaf un, hyd yn oed os ydyn nhw'n hunan-ynysu heb symptomau. Mae'r mesurau hefyd yn ceisio cefnogi'r diwydiant bwyd i gynnal cyflenwadau.
Mae rhai o'r newidiadau y mae'r Bil hwn yn eu cynnig yn ymdrin â lleddfu'r baich ar staff rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol i oedolion. Bydd rhai o'r mesurau yn helpu staff i ddychwelyd i'r gwaith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd rhai yn helpu pobl mewn cymunedau i ofalu amdanyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, eu hanwyliaid a'r gymuned ehangach.
Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi eu gosod ar 17 Mawrth a'u bod wedi dod i rym y diwrnod wedyn. Mae'r rheoliadau hyn yn cyfateb i reoliadau a gafodd eu gwneud yn Lloegr i leihau'r risgiau iechyd cyhoeddus sy'n deillio o drosglwyddo coronafeirws. Cafodd Rheoliadau Cymru eu gwneud o dan weithdrefn frys sydd wedi ei nodi yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Bydd y Bil coronafeirws, pan ddaw i rym, yn dirymu Rheoliadau Cymru a Lloegr ac yn eu disodli drwy ddarpariaethau tebyg. Mae'r rheoliadau ar waith felly fel mesur dros dro tan i'r Bil ddod i rym.
Ond un rhan yn unig yw'r Bil hwn o'r ateb cyffredinol. Nid yw pob un o'r arfau na'r pwerau sydd eu hangen i fynd i'r afael â phandemig COVID-19 wedi eu cynnwys yn y Bil. Mae rhai eisoes yn bodoli mewn statud. Mae rhai yn bodoli mewn rhai rhannau o'r DU ond nid mewn eraill. Nod y Bil hwn yw sicrhau bod modd cyflawni'r camau i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn yn effeithiol ar draws pedair gwlad y DU. Y nod yw i'r Bil gyrraedd y llyfr statud yr wythnos hon. Fodd bynnag, bwriedir i'r darpariaethau sy'n ymwneud â thâl salwch statudol gael effaith ôl-weithredol, gan fynd yn ôl i 13 Mawrth.
Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r tair Llywodraeth genedlaethol arall yn y DU, wedi penderfynu adolygu deddfwriaeth a'i diwygio lle bo angen. Fy nod i yw sicrhau bod yr ymateb yng Nghymru yn gyson ac yn effeithiol. Mae'r rhain yn fesurau eithriadol ar gyfer y cyfnod eithriadol yr ydym ni'n ei wynebu. Bydd y ddeddfwriaeth yn gyfyngedig o ran amser am ddwy flynedd, ac ni fydd pob un o'r mesurau hynny yn dod i rym ar unwaith.
Mae'r Bil yn caniatáu i bedair Llywodraeth y DU gychwyn y pwerau newydd hyn pan fo'u hangen. Mae'n bosibl cychwyn llawer o'r mesurau yn y Bil yn ôl yr angen, ac yr rwyf i'n cydnabod yr angen i gydbwyso fy nyletswydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn erbyn fy nyletswydd i barchu hawliau unigol. Yn hollbwysig, mae'r Bil yn darparu i bob un o'r pedair Llywodraeth yn y DU roi terfyn ar bwerau pan nad oes eu hangen mwyach, a bydd y penderfyniad hwnnw'n seiliedig ar gyngor prif swyddogion meddygol y pedair gwlad.
Mae'r Bil yn ddewis tryloyw i ystyried ein setliad datganoli mewn ffordd sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd camau cyflym pan a lle bo angen hynny. Rydym ni'n canfod ein hunain mewn cyfnod digynsail yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus. Rwy'n gwybod y byddaf i'n parhau i wynebu eich craffu, fel y dylwn i ei wneud. Fodd bynnag, gofynnaf i'r Aelodau a'r cyhoedd am eich ymddiriedaeth a'ch cefnogaeth barhaus i gymryd y pwerau newydd hyn. Rwy'n gofyn am y gefnogaeth honno i gymryd camau i achub cymaint o fywydau â phosibl yma yng Nghymru. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron.