Part of the debate – Senedd Cymru am 1:08 pm ar 24 Mawrth 2020.
Rwy'n credu bod pob un ohonom, wrth ystyried y materion hyn, yn ystyried ein gwerthoedd, ein swyddi, yn y Siambr hon, ond hefyd ein cyfrifoldebau tuag at ein teuluoedd a'r bobl yr ydym yn eu caru. Mae llawer ohonom wedi bod yn gwylio'r teledu dros yr wythnosau diwethaf ac wedi gweld yr hyn sy'n digwydd i gyfeillion ar draws y dŵr yn yr Eidal a Sbaen a mannau eraill, wedi gweld dioddefaint pobl sydd wedi dal i feirws hwn, ac wedi gweld yr hyn y mae wedi'i wneud i gymunedau a gwledydd cyfan. Mae llawer ohonom ni—siaradodd Dawn Bowden yn rymus iawn am y rhesymau dros sefyll i gael ei hethol i'r lle hwn—eisiau yr un peth yn y bôn. Rydym eisiau gofalu am ein cymunedau, ac rydym eisiau cael y gorau i'n cymunedau. Credaf fod arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies, wedi dweud yr union beth hwnnw yn ei sylwadau agoriadol.
Felly, wrth ystyried y Bil hwn, rwy'n sicr yn ystyried y sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu, ond hefyd sut yr ydym yn cyfrannu at ddatrys y mater hwn. Ac rwy'n gofyn tri chwestiwn i mi fy hun. A yw'r pwerau'n bodoli i ymdrin â hyn? A yw'r pwerau hyn yn briodol? A sut y caiff y broses o arfer y pwerau hyn ei goruchwylio? Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol nad yw'r pwerau gennym, ac nad oes gan y Llywodraeth y pwerau sy'n ofynnol eu cael i ymdrin â'r sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu. Gwelodd pob un ohonom y lluniau dros y penwythnos o bobl yn esgus ei bod yn ŵyl banc neu'n esgus ei bod yn ddiwrnod i ffwrdd. Ac rwy'n credu bod pob un ohonom wedi ein dychryn gan hynny. Gwelais adroddiadau yn fy etholaethau i fy hun, lle'r oedd tafarnau ar agor i orffen y gasgen. Yn wir, mae'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn peryglu nid yn unig y bobl yno, ond pob un ohonom yn ein cymunedau. Ac mae hefyd yn amlwg bod diffyg eglurder o ran lle mae'r pwerau, a sut mae pwerau'n cael eu gorfodi. Felly, mae'n amlwg i mi fod angen y pwerau hyn yn y Bil hwn, ac mae'r Llywodraeth eu hangen i ddarparu'r math o raglen y mae'n rhaid iddi ei darparu dros yr wythnosau nesaf.
Ac yna mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain: a yw'r pwerau'n briodol? Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n glir yn fy meddwl fy hun bod y pwerau'n briodol. Ond nid yw'r rhain yn fesurau y buaswn i wedi eu cefnogi yn y gorffennol. Mae'r rhain yn fesurau sydd, i fod yn onest, yn ffiaidd. Ac o dan unrhyw amgylchiadau eraill nid yn unig y byddwn i'n gwrthod eu cefnogi nhw, ond byddwn yn brwydro â'm holl nerth yn eu herbyn. Maen nhw'n fesurau, Dirprwy Lywydd, a dweud y gwir, y byddwn wedi pleidleisio yn eu herbyn dim ond rhai wythnosau'n ôl. Mae twf yr achosion yr ydym yn eu gweld, ac yr wyf i wedi gweld yn fy rhan i o'r byd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, lle mae mwy o achosion nag unrhyw ran arall o Gymru—. Rwyf wedi gweld ac rwyf wedi teimlo'r ofn y mae hynny'n ei greu yn ein cymunedau. Felly, mae'n briodol inni gael y pwerau hyn er mwyn diogelu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i gryfhau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i gryfhau'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n sicrhau'r amddiffyniad sydd ei angen arnom, ond hefyd i sicrhau bod pobl yn ymddwyn yn gyfrifol.
Ac felly, sut yr ydym yn goruchwylio'r pwerau hynny? O'm rhan i, rwy'n gobeithio y bydd Gweinidogion yn cyflwyno adroddiadau i'r fan hon pryd bynnag y defnyddir y pwerau hyn. Gobeithio y bydd y Gweinidogion, ac rwy'n disgwyl i'r Gweinidogion ddod i'r lle hwn i egluro pam y mae'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio, am ba hyd y'u defnyddir, beth yw amcan y pwerau, a phryd y maen nhw'n disgwyl i'r pwerau hyn gael eu dileu. Nid yw'n iawn ac nid yw'n briodol mewn democratiaeth fod y pwerau hyn ar y llyfr statud. Mae angen i'r pwerau hyn fod yn gyfyngedig, ac rwy'n ddiolchgar iawn i weld bod y Gweinidogion yma yn croesawu cyfyngiadau'r pwerau hynny. Rwy'n ddiolchgar i weld adolygiad bob chwe mis, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd ein cyd-Aelod Mick Antoniw am adrodd yn rheolaidd. Ond mae'n rhaid cael atebolrwydd a throsolwg a goruchwyliaeth seneddol briodol drwy gydol y cyfnod hwn, ac mae angen i bob un ohonom gymryd hynny o ddifrif. Ond mae hefyd angen inni edrych yn glir ar ba bwerau sy'n bodoli. Nid wyf yn argyhoeddedig bod digon o bwerau ar hyn o bryd i reoleiddio gweithredoedd yr archfarchnadoedd a gweithredoedd pobl yn yr archfarchnadoedd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny. Rwy'n pryderu'n wirioneddol am rai o'r mesurau hyn a'r hyn a wnânt i hawliau pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd, a chredaf fod angen inni oruchwylio hynny'n briodol.
Ond wrth gloi, ac wrth gefnogi'r Llywodraeth heddiw, rwyf am ddweud hyn, Dirprwy Lywydd: yr hyn sydd wedi fy synnu i dros yr ychydig wythnosau diwethaf yw nad oes gennym ddigon o ddeddfwriaeth argyfyngau sifil posibl sy'n ymarferol ac y gall y Llywodraeth ei defnyddio pan fyddan nhw'n wynebu argyfwng. Nid yw'n ddigon da nad yw'r llyfr statud yn cynnwys deddfwriaeth frys sy'n ddigonol i ymdrin ag argyfwng. Byddwn yn gobeithio, pan fyddwn wedi ymdrin â'r mater hwn, y byddwn eto wedyn yn gallu edrych ar y llyfr statud yn ei gyfanrwydd a sicrhau bod gan Lywodraethau, dan oruchwyliaeth a chyda chydsyniad, y pwerau y maen nhw eu hangen, heb fynd drwy'r broses hon, oherwydd nid oes craffu gwirioneddol yn digwydd ar y ddeddfwriaeth hon, naill ai yma nac yng Nghaeredin nac yn Belfast nac yn San Steffan. Mae'n cael ei ruthro drwodd mewn wythnos, mewn ychydig ddyddiau. Mae'r cyfyngiadau llymaf ar ein rhyddid i weithredu a'n rhyddid fel dinasyddion yn cael eu rhuthro drwy bedair Senedd mewn tri diwrnod. Felly mae angen inni gael ar y llyfr statud ddeddfwriaeth sydd wedi ei hystyried, sy'n gadarn ac sy'n rhoi'r gallu i Weinidogion a Llywodraethau weithredu lle bo angen, ond gweithredu mewn ffordd sydd ag atebolrwydd democrataidd, goruchwyliaeth a rhesymau clir yn ei hanfod. Nid yw hynny gennym ar hyn o bryd.