Part of the debate – Senedd Cymru am 1:04 pm ar 24 Mawrth 2020.
Mae'r pwerau hyn yn wirioneddol ddidostur, ac, ydyn, maen nhw'n gyrru ias i lawr yr asgwrn cefn. Mae'r pwerau sy'n cael eu caniatáu i Weinidogion y Llywodraeth ym mhob un o'r pedair gwlad yn effeithio ar ryddid sifil pob un ohonom ni, ac ni allai'r rhan fwyaf o bobl fod yn ddim ond pryderus. Ac o dan amgylchiadau arferol, ni fyddwn i hyd yn oed yn ystyried trosglwyddo pwerau o'r fath. Yn anffodus, nid yw'r rhain yn amseroedd arferol, oherwydd, mewn ychydig wythnosau, mae'r coronafeirws wedi lledaenu o amgylch y byd, gan beri risg ddifrifol i iechyd pob un ohonom ni. Mae Llywodraethau wedi eu gorfodi i wneud pethau'n gyflymach nag arfer wrth iddyn nhw geisio lleihau'r effaith y mae'r clefyd hwn yn ei chael ar eu poblogaethau.
Yma yn y DU mae pob un o'r pedair gwlad gartref wedi gweithio gyda'i gilydd ar ddull gweithredu unedig, dull gweithredu sydd wedi ei gynllunio i gyfyngu ar effaith COVID-19, wrth i'r gymuned wyddonol geisio gwellhad drwy frechlynnau a therapi posibl. Yn anffodus, nid yw rhai pobl wedi bod yn dilyn cyngor iechyd y cyhoedd, ac felly mae angen cymryd camau mwy pendant. Heddiw, gofynnir i ni roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil sy'n rhoi pwerau digynsail i Lywodraethau i gyfyngu ar ein rhyddid sylfaenol a gosod terfynau ar ein hawliau sifil. Fel arfer, ni fyddwn i na fy mhlaid yn caniatáu trosglwyddo pwerau o'r fath, ond rydym ni mewn sefyllfa ddigynsail, oherwydd bod gennym ni elyn anweledig, un nad yw'n parchu ffiniau. Mae pawb mewn perygl—nid pobl oedrannus neu fregus yn unig, oherwydd mae pobl ifanc hefyd wedi marw. Oni bai ein bod ni'n cymryd camau eithafol a phendant, bydd degau o filoedd o bobl yn marw. Dyma'r gwir plaen sy'n ein hwynebu.
Felly, rwy'n derbyn bod y pwerau hyn yn angenrheidiol er mwyn ein diogelu rhag COVID-19. A pheidiwch ag amau am funud, mae'r coronafeirws hwn yn hynod heintus ac yn farwol iawn. Rydym ni wedi ceisio gofyn a hyd yn oed dwyn perswâd ar y cyhoedd i wneud y peth iawn, ac er bod y mwyafrif helaeth yn gwrando ar y cyngor iechyd cyhoeddus, mae gormod o lawer yn anwybyddu'r rhybuddion. Yr unig ddewis arall yw i'r wladwriaeth orfodi cydymffurfiad. Allwn ni ddim caniatáu i weithredoedd lleiafrif ein rhoi ni i gyd mewn perygl.
Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar reswm a bod y Bil yn destun adolygiad bob chwe mis, oherwydd mae'r pwerau hyn yn agored i'w camddefnyddio gan y wladwriaeth, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod y pwerau hyn yn bodoli ddim ond am gyhyd â'u bod yn angenrheidiol. Mae gennyf i bryderon o hyd ynghylch cymal 76, sy'n rhoi'r pŵer i'r pedair Llywodraeth newid y dyddiad dod i ben, ac rwy'n gofyn felly i Lywodraeth Cymru gytuno i geisio caniatâd y Siambr hon cyn galw'r pŵer hwn i rym. Mae'n hanfodol bod y pwerau hyn mewn grym am y cyfnod byrraf posibl.
Fe wnaf gefnogi, gyda chalon drom, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Cefais i fy ethol i gefnogi fy etholwyr, ac, yn anffodus, y ffordd orau o wneud hynny yw gosod cyfyngiadau ar ryddid y mae pob un ohonom ni fel arfer yn ei gymryd yn ganiataol. Mae angen i ni achub bywydau a diogelu ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn gwrando ar y rhybuddion, yn gwrando ar y cyngor ac yn gweithredu er lles pawb. Dyma'r ffordd orau o atal lledaeniad y coronafeirws, a pho gynted y byddwn ni'n gwneud hynny, y cynharaf y gall bob un ohonom ni ddychwelyd i'n bywydau arferol. Diolch yn fawr.