Part of the debate – Senedd Cymru am 10:11 am ar 24 Mawrth 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad y bore yma? Ac a gaf i hefyd ddiolch i chi am y sesiynau briffio rheolaidd yr ydych chi wedi eu darparu i mi dros yr wythnosau diwethaf yn ystod y cyfnod digynsail hwn? Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, mae'n rhaid i ni roi ein gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu fel ein bod ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd i frwydro'r feirws hwn. A gaf i hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n helpu i'n cadw ni'n ddiogel yn ystod yr argyfwng hwn ac i atgoffa pobl i aros gartref er mwyn achub bywydau ac i amddiffyn ein GIG?
Wrth i fygythiad y coronafeirws barhau i dyfu, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ail-flaenoriaethu ei chyllid ar frys nawr, i sicrhau bod ei hadnoddau yn cael eu gwario'n effeithiol yn ystod yr argyfwng hwn. A allwch chi gadarnhau felly, Prif Weinidog, bod Llywodraeth Cymru yn ail-flaenoriaethu ei chyllid ar frys? Ac efallai y caf i hyd yn oed awgrymu y dylech chi ystyried cyhoeddi cyllideb frys wrth symud ymlaen, fel y gellir ail-ganolbwyntio cyllid y Llywodraeth ar wasanaethau hanfodol. Oherwydd, fel y gwyddoch, dros y penwythnos, mae nifer o awdurdodau lleol wedi gofyn am gymorth ariannol ychwanegol i frwydro'r feirws hwn.
Nawr, wrth i ledaeniad y feirws barhau i ddatblygu, mae'n hanfodol bod yr holl gyllid yn cael ei roi ar gael i sefydliadau a chynlluniau sy'n cynorthwyo unigolion a busnesau sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar y dyraniadau cyllid y mae'n eu rhoi i sefydliadau trydydd sector a, phan fo angen hynny, ei bod yn dargyfeirio cyllid oddi wrth gyrff nad ydyn nhw ar y rheng flaen o ran darparu gwasanaethau allweddol ar yr adeg benodol hon, oherwydd bydd hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi targedu pob un geiniog y gall ei thargedu i gynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan COVID-19, yn hytrach na pharhau i ariannu cynlluniau nad ydyn nhw er lles y cyhoedd ar hyn o bryd.
Ac a allwch chi gadarnhau felly, Prif Weinidog, y bydd pob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn asesu eu ffrydiau ariannu ar frys ac yn dargyfeirio'r holl adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng coronafeirws a'i effaith ar Gymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd y bydd unrhyw arian a ddosberthir i sefydliadau trydydd sector yn cael ei ddosbarthu i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau allweddol yn unig ar hyn o bryd?
Nawr, ar hyn o bryd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo'r bobl hynny sy'n gweithio i frwydro yn erbyn y coronafeirws, gan gynnwys sicrhau eu bod nhw'n gallu cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol, fel gofal plant. Nawr, ddydd Iau diwethaf, darparodd Llywodraeth y DU ganllawiau cynhwysfawr ar bwy yw ein gweithwyr allweddol, a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru lythyr hefyd i ysgolion yn gofyn iddyn nhw nodi plant pobl sy'n rhan o'r ymateb uniongyrchol i'r argyfwng coronafeirws. Fodd bynnag, rwy'n deall bod rhai awdurdodau lleol wedi anwybyddu hyn a'u bod yn hytrach wedi dewis cyfyngu eu darpariaeth ysgolion i'r rhai ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau brys, yn groes i'r canllawiau a gyhoeddwyd.
Felly, a ydych chi'n rhannu fy marn i, Prif Weinidog, ein bod ni angen cymaint o gymorth â phosibl i bawb sy'n gweithio gyda ni i frwydro yn erbyn COVID-19, a bod angen i ni sicrhau bod eglurder yn y negeseuon a roddir i'r cyhoedd? Ac, o dan yr amgylchiadau hynny, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ac arweinyddion ysgolion ynghylch sicrhau eu bod nhw'n gwneud darpariaeth ysgol a gofal plant i'r rhai sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng a chynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan coronafeirws? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa waith cynllunio y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar sut y gellir cynorthwyo gweithwyr allweddol yn y tymor canolig a'r hirdymor fel y gallan nhw fod yn ffyddiog y bydd y ddarpariaeth honno'n parhau i fod ar gael tra byddan nhw'n gweithio i fynd i'r afael â'r feirws a chynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio.
Nawr, wrth gwrs, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, Prif Weinidog, mae hwn yn gyfnod digynsail a dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar iawn i staff y GIG sy'n gweithio'n galed ac sydd ar y rheng flaen yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth iechyd a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Mae'n gwbl hanfodol bod y staff hynny hefyd yn cymryd pob rhagofal posibl i gadw eu hunain yn ddiogel. Pan allwn ni, mae'n rhaid i ni ystyried recriwtio gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod parhad gwasanaeth yn parhau, ac rwy'n falch bod llawer o weithwyr iechyd proffesiynol bellach wedi ateb y galwadau i ddychwelyd i gynorthwyo'r GIG yn ystod yr argyfwng hwn.
O dan yr amgylchiadau, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod y gweithwyr iechyd proffesiynol hyn sydd wedi ymddeol ac, yn wir, y rhai sydd wedi gadael i ddilyn gyrfaoedd eraill ac sydd bellach yn dychwelyd yn gallu dychwelyd mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl?
Nawr, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi y bydd fferyllfeydd hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr wythnosau nesaf i gynorthwyo cymunedau, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o swyddogaeth fferyllwyr cymunedol ar yr adeg hon, a sut y gellir defnyddio eu cyngor arbenigol? A pha drafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda byrddau iechyd lleol i lacio rheolau, er enghraifft, ynghylch materion fel cyflwyno presgripsiynau, a phresgripsiynau amlroddadwy yn enwedig, i'r rhai hynny nad ydyn nhw'n gallu mynd i feddygfa yn bersonol erbyn hyn i gasglu eu presgripsiynau?
Mae miloedd o fusnesau ledled Cymru yn pryderu yn naturiol am yr effaith y mae'r feirws yn ei chael ar eu busnes ar hyn o bryd ac y gallai barhau i'w chael ar eu busnes. Wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi cael gohebiaeth gan fusnesau a'r hunangyflogedig sy'n dweud wrthym ni eu bod nhw'n cael trafferth yn deall yn well sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eu busnes ac, yn hollbwysig, sut i gael gafael ar y cymorth hwnnw cyn gynted â phosibl. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa waith monitro y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o waith Busnes Cymru i sicrhau ei fod yn cael y cymorth priodol i fusnesau yng Nghymru yn brydlon? Pa gymorth penodol sy'n cael ei roi ar gael i'r busnesau hynny nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes ar hyn o bryd ond sydd angen cymorth o hyd i sicrhau parhad eu busnesau?
Nawr, gofynnais i chi yr wythnos diwethaf am gyflenwadau a phrinder bwyd, ac wrth i'r feirws barhau i ledaenu mae sgil-effeithiau ar y gallu i gael cyflenwadau hanfodol i'r rhai sydd eu hangen nhw. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda chynrychiolwyr y trydydd sector ac awdurdodau lleol i drafod y ffordd orau o gael cyflenwadau i'r rhai mwyaf agored i niwed, ond ceir pryderon dilys iawn o hyd ymhlith elusennau lleol ledled Cymru sy'n cynorthwyo cymunedau i gael cyflenwadau bwyd i bobl.
Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa fesurau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael y cyflenwadau sydd eu hangen arnyn nhw mewn gwirionedd? Pa drafodaethau y mae Gweinidogion y Llywodraeth wedi eu cael gyda manwerthwyr am y rhan y gallen nhw ei chwarae o ran darparu cyflenwadau hanfodol i elusennau lleol a sefydliadau cymunedol?
Felly, gan ddweud hynny, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch unwaith eto i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y bore yma? Edrychaf ymlaen at gael diweddariadau pellach ganddo ac, yn wir, gan Lywodraeth Cymru yn y dyddiau nesaf ac yn yr wythnosau i ddod.