7. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 10:24 am ar 24 Mawrth 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 10:24, 24 Mawrth 2020

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r mesurau a gyhoeddwyd ddoe yn rhai digynsail ond hanfodol er mwyn ceisio atal coronafeirws rhag lledu ymhellach. Mae unrhyw gamau sydd yn mynd i sicrhau na fydd pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd i'w croesawu yn y cyfnod argyfyngus yma. Nid gwyliau cenedlaethol ydy hwn, ond argyfwng cenedlaethol, ac mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i gydymffurfio â'r mesurau newydd er lles ni ein hunain a'r bobl o'n cwmpas ni.