Part of the debate – Senedd Cymru am 10:31 am ar 24 Mawrth 2020.
Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ac am y ffordd y mae hi a phobl eraill yn ei phlaid hi wedi cydweithio yn adeiladol gyda ni yn y cyfnod argyfwng sydd o'n blaen ni. Dwi'n cytuno yn llwyr â hi—dyna'r neges y mae'n bwysig i ni ei rhoi i bobl: pan nad yw pobl yn y gwaith, nid gŵyl banc yw e. Rŷn ni'n wynebu argyfwng yn iechyd cyhoeddus, ac mae'n bwysig i bobl ymateb i'r argyfwng yn y ffordd y maen nhw'n mynd at bethau bob dydd yn eu bywydau nhw.
Mae nifer o gwestiynau gan Siân. Ar bobl sy'n hunan-gyflogedig, rŷn ni'n disgwyl cael rhywbeth o Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dŷn ni ddim yn siŵr os rŷn ni'n mynd i glywed heddiw neu yn ystod yr wythnos, ond lan iddyn nhw yw e. Does dim cyllid gyda ni. Roedd Paul Davies yn sôn am y galw am y cyllid sydd gyda ni am wasanaethau cyhoeddus a phethau pwysig. Does dim digon o arian yn ein cyllid ni i roi cynllun yn ei le. Rŷn ni'n edrych ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rŷn ni wedi clywed oddi wrthyn nhw—maen nhw'n gweithio yn galed yn y Trysorlys i dreial i gynllunio mwy o help i bobl yn y sefyllfa yna.
O ran beth oeddwn i'n ei ddweud ddoe am caravans, yn y rheoliadau a lofnodais i amboutu 9.30 neithiwr, yn y rheoliadau yna mae mesurau yn eu lle, pwerau i awdurdodau lleol gydweithio gyda'r heddlu i fynd ar ôl y sefyllfa newydd. Rŷn ni wedi cydweithio yn agos gyda'r bobl yn y sector hefyd, ac maen nhw'n awyddus i fynd ar ôl beth rŷn ni wedi'i ddweud a chydweithio gyda ni.
Bydd Vaughan Gething yn gallu ymateb ar y cwestiynau ar PPE, ond jest i ddweud, Dirprwy Lywydd, rhoddais i awdurdod i weision sifil ddoe i fynd at y Ministry of Defence yn swyddogol ac i greu cytundeb newydd rhyngom ni a'r fyddin yma yng Nghymru i gael yr help, y cymorth y maen nhw'n gallu ei roi, ac maen nhw'n awyddus i'w roi i ni hefyd. Cymorth yn y maes cynllunio: mae lot o bethau lle maen nhw'n gallu gwneud i'n helpu ni yn logistics, fel maen nhw'n ei ddweud, ond pobl eraill.
Yn y maes addysg, y ffordd orau i fi o ddelio â free school meals yw i roi arian i'r teulu drwy'r child benefit.