Part of the debate – Senedd Cymru am 11:17 am ar 24 Mawrth 2020.
Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei ddymuniadau da personol ar y dechrau, ac mae'n dda iawn gwybod bod ei brawf ei hun wedi bod yn negyddol a'i fod yn gallu bod yma y bore yma.
Ynghylch y busnes o brofi, wrth gwrs rydym ni'n ymwybodol o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ond caiff y cyngor hwnnw ei gyfryngu ar ein cyfer gan y pedwar prif swyddog meddygol a chan y grŵp ymgynghorol gwyddonol, oherwydd mae Sefydliad Iechyd y Byd, mae'n gorff byd-eang, mae ei gyngor yn berthnasol i nifer helaeth o wledydd ac mae'n rhaid ei ddehongli wedyn yn y cyd-destun lleol. Ac rydym yn profi hynny'n rheolaidd gyda'r bobl sy'n ein cynghori. Maen nhw'n gwbl ymwybodol o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd ac maen nhw'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n rhoi'r cyngor gorau i ni o ran sut y gall yr hyn y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ddweud weithio yn y cyd-destun lleol. Bydd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn dweud mwy, rwy'n siŵr, pan fydd yn ateb cwestiynau, am y cynnydd cyflym yn nifer y profion y byddwn yn gallu eu cynnal yma yng Nghymru, ac, yn arbennig, ynghylch sylw a wnaeth Neil McEvoy, sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd ar y rheng flaen ac na allan nhw weithio oherwydd eu bod yn ynysu eu hunain—sut y gallwn ni gyflymu eu dychweliad i'r gweithle.
Rwy'n ymwybodol iawn o'r sylwadau a wnaeth yr Aelod am bobl sydd dramor. Rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom ni'n clywed gan deuluoedd yn ein hetholaethau sydd yn y sefyllfa honno. Yn ôl a ddeallaf, mae'r sefyllfa ym Mheriw wedi'i datrys a phobl yn cael eu cludo adref. Yr hyn yr ydym ni, y Llywodraeth, yn ei wneud, yw sicrhau bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn ymwybodol o amgylchiadau dinasyddion Cymru ac yn gwybod amdanyn nhw. Nid oes gennym ni, Llywodraeth Cymru, fodd sy'n caniatáu inni negodi'n uniongyrchol â llywodraethau tramor eraill—dim ond â sefydliad gwladwriaethol y byddant yn ymdrin. Ond gwnawn yn siŵr ein bod yn casglu gwybodaeth y mae Aelodau yn ei throsglwyddo i ni ac yna'n eiriol ar ran dinasyddion Cymru gyda'r rhai sydd â'r gallu i wneud y penderfyniadau hynny a'u gwneud mewn ffordd sy'n rhoi'r cymorth sydd ei ddirfawr angen ar bobl sydd wedi'u dal mewn mannau eraill.