Part of the debate – Senedd Cymru am 11:02 am ar 24 Mawrth 2020.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am y sylwadau hynny? Ac a gaf fi ddiolch iddo'n arbennig am y ffordd, dros y penwythnos, y gallodd roi gwybodaeth i mi, i'n helpu ni gyda'r penderfyniadau yr oeddem yn eu gwneud, ac i'w profi yn erbyn rhai o'r amgylchiadau ar lawr gwlad mewn rhannau o Gymru? Wrth gwrs, rhaid i gyflogwyr gadw at y rheolau. Gwelsom enghraifft yn gynharach heddiw o gwmni chwaraeon, mae'n debyg, yn credu ei fod yn wasanaeth hanfodol; rwy'n credu ei fod wedi ei berswadio yn y cyfamser nad yw hynny'n wir. Ond mae'r rheolau'n glir, ac ni ddylai unrhyw gyflogwr roi pwysau ar rywun nad yw'n weithiwr allweddol i ymddwyn fel petai yn un.
Cytunaf yn llwyr â'r sylw a wnaeth Alun Davies am yr hunan-gyflogedig. Mae'n annheg bod rhai pobl yn cael y diogelwch y mae Llywodraeth y DU wedi'i gynnig—ac rwy'n croesawu'n llwyr yr hyn a wnaeth y Canghellor yr wythnos diwethaf, drwy roi cymhorthdal cyflog i bobl sydd wedi'u cyflogi ond nad ydyn nhw'n gweithio am y tro. Mae arnom ni angen i'r hunangyflogedig gael math tebyg o warant. Mae ein cyd-Aelod, Jane Hutt, yn gweithio'n glos iawn gyda'r trydydd sector, a chyda mentrau cymdeithasol hefyd, i ddysgu am y problemau sy'n wynebu'r sector hwnnw, ac i weld pa gymorth arall y gallem ni ei gynnig iddyn nhw.
Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr Aelod dros Flaenau Gwent am bwysigrwydd llywodraeth leol, wrth gwrs. Mae'r grant cynnal refeniw ar gael—gall awdurdodau lleol ddibynnu ar hynny wrth drefnu eu harian. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw gweithio gyda nhw i symleiddio'r gyfundrefn grantiau'n sylweddol, fel ei bod yn haws i awdurdodau lleol symud arian rhwng gwahanol ffynonellau grant, ac i fod yn llai caeth nag y byddem fel arfer o ran defnyddio arian at ddibenion penodol, lle mae anghenion mwy brys na'r dibenion hynny. Ac rwy'n credu y bydd y penderfyniad a wnaeth y Cynulliad hwn ddegawd yn ôl, i gynnal system budd-dal y dreth gyngor yma yng Nghymru, yn sylfaen dda i ni. Ac eto, nid yw'n gynllun goddefol—mae elfen o hawl iddo. Os yw eich incwm yn hyn a hyn, a'ch bod yn cyrraedd y trothwy, byddwch yn cael help gyda'r dreth gyngor yma yng Nghymru.
Rwy'n pendroni dros y sylw a wnaeth Alun Davies am yr her o gyfathrebu, ac mae'n her, a chredaf fod darlledwyr lleol yn ymateb i'r her honno'n eithaf da y rhan fwyaf o'r amser. Pan ydych chi'n gwrnado ar ddarlledwr cenedlaethol ac yn ei glywed yn cyfeiliorni am y cyfrifoldebau, fel maen nhw wedi eu dosbarthu ar hyn o bryd ar draws y Deyrnas Unedig, rwy'n gwneud fy ngorau i beidio â gadael i fy mhwysedd gwaed godi. Ond, weithiau, maen nhw'n gwneud cawlach llwyr o bethau, ac, felly, yn camarwain pobl sy'n eu clywed nhw, fel ei bod yn anodd peidio â theimlo'n ddig yn ei gylch.
Yn olaf, o ran sylw Jenny, mae Caerdydd yn wynebu heriau penodol iawn o ran ei phoblogaeth ddigartref yn y cyd-destun hwn. Dyna pam y gwnaethom ni gyhoeddi'r £10 miliwn yn gynnar i'w cynorthwyo i wneud hynny. Gwn fod gan yr awdurdod lleol gynlluniau; maen nhw wedi dynodi adeiladau newydd y maen nhw'n gobeithio y gallan nhw eu defnyddio'n gyflym i helpu'r boblogaeth honno. Ond, o ystyried natur y feirws, pa mor agored i niwed yw'r boblogaeth a'r anhawster sy'n bodoli weithiau i ddarparu cymorth mewn ffordd y gallan nhw dderbyn y cymorth hwnnw, rwy'n gwybod bod pob awdurdod lleol yn gwneud ei orau i ymateb i amgylchiadau cymhleth a beichus iawn.