Part of the debate – Senedd Cymru am 11:50 am ar 24 Mawrth 2020.
Os caf i ddychwelyd yn fyr at y profi. Clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am ddehongliad, dehongliad y DU neu Gymru o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ond byddai o gymorth i mi pe bawn yn gallu deall ychydig mwy ynghylch sut y mae'r cyngor hwnnw'n wahanol ar gyfer Cymru a'r DU. Oherwydd mae'n bennawd, onid yw? Mae'r cyhoedd yn clywed Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud, 'Profwch, profwch, profwch'; rydym ni'n gwneud penderfyniadau i wneud pethau'n wahanol yn y fan yma. A chredaf y byddai o gymorth, nid nawr, efallai, ond os yw'r Gweinidog eisiau ysgrifennu atom, fel y gallwn ni roi esboniad i'n hetholwyr ynglŷn â pham nad ydym yn dilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd. Rydym yn gwybod y bu yn llwyddiannus iawn, er enghraifft, mae gwneud hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr Almaen.
Ac a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, eto—? Mae wedi sôn ein bod ni'n cyrraedd sefyllfa lle byddwn ni'n gallu profi gweithwyr gofal iechyd allweddol. A gaf i godi'r mater gydag ef eto, y gwn fod fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth ac eraill wedi'i godi, ynghylch profion ar gyfer teuluoedd gweithwyr allweddol? Rwy'n ymwybodol yn y rhanbarth yr wyf yn ei chynrychioli o sefyllfaoedd lle mae gennych chi ddau riant, sydd ill dau'n gweithio mewn rhannau o'r gwasanaeth iechyd, sy'n aros gartref oherwydd eu bod yn ofni bod gan eu plant rai symptomau. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried—. Yn amlwg, mae'n rhaid inni ddechrau gyda'r staff, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond a allwn ni ystyried cynnwys—. Mae'n sefyllfa annymunol iawn i'r teulu, ond mae'n wastraff ofnadwy ar adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol pan fo dau weithiwr proffesiynol â chymwysterau uchel yn gorfod aros gartref pan efallai nad oes dim byd o'i le arnyn nhw, nac ar eu teulu.
Gwn y bydd y Gweinidog yn rhannu fy mhryder ynglŷn ag iechyd a lles corfforol, ac iechyd a lles emosiynol pobl sy'n hunanynysu am gyfnodau hir. A'r pwynt penodol yr wyf eisiau ei godi gydag ef—mae fy nghyd-Aelod Leanne Wood wedi gofyn imi sôn am hyn—yw sefyllfa teuluoedd a all fod yn agored i gam-drin domestig. Gwyddom i gyd, er enghraifft, yn anffodus, pan fydd teuluoedd gyda'i gilydd am gyfnodau hir, y gall y sefyllfaoedd hyn waethygu. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog heddiw a wnaiff gynnal rhagor o drafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros y materion hyn, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio'n adeiladol gyda'r sector i roi mesurau ar waith. Dywedwyd wrthyf, er enghraifft, gan rai gwirfoddolwyr yn y sector y gallem ni ddefnyddio safleoedd gwely a brecwast gwag, gallem ddefnyddio hosteli gwag ar gyfer llety brys i bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig. Oherwydd mae'n rhaid inni dderbyn—ac rydym ni wedi gweld, ysywaeth, mewn gwledydd eraill fod y sefyllfaoedd hynny wedi cynyddu.
Roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am fferylliaeth gymunedol. Bydd yn ymwybodol bod rhai aelodau staff ar y rheng flaen yn cael profiadau eithaf erchyll, gyda phobl— fel y dywedodd y Prif Weinidog—yn mynd yn ddiamynedd, yn mynd yn ymosodol. Ac mae'n sôn bod angen i ni barchu swyddogaeth y fferyllydd cymunedol yn llawn. Tybed beth fyddai ei farn am—ac mae hwn yn benderfyniad anodd—ond mae fferyllwyr cymunedol wedi dweud wrthyf eu bod yn cael ychydig o drafferth o ran dosbarthu nwyddau, ac os oes gan bobl aelod iach yn y teulu sy'n gallu mynd allan a chasglu, byddent yn falch pe bai pobl yn cael cyngor i wneud hynny. Ond rwy'n deall efallai fod gan y Gweinidog a'r gweddill ohonom ni bryderon ynglŷn â throsglwyddo pellach yn hynny o beth, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod beth fyddai Cyngor y Gweinidog o dan yr amgylchiadau hynny.
Roedd gennyf i rai cwestiynau i'w gofyn am gyfarpar diogelu personol. Mae'r Gweinidog wedi cynnig datganiad ysgrifenedig inni, ac nid wyf eisiau peri oedi i'r Siambr drwy ofyn y rheini yn fanwl, ond rwy'n gobeithio y bydd y datganiad hwnnw'n rhoi sylw i'r materion dosbarthu. Mae perchnogion cartrefi gofal yn dweud wrthyf fod y cyfarpar diogelu yn cyrraedd Caerdydd ac yn cyrraedd Abertawe, ond nid yw'n mynd i'r ardaloedd gwledig, ac nid yw'n mynd i'r Cymoedd, yn enwedig o ystyried y sector gofal yn hytrach na'r sector iechyd. Gall hyn fod yn achos o bobl yn codi pryderon mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, fel y crybwyllodd y Gweinidog, ac efallai yr ymdriniwyd â hyn eisoes, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gall dawelu ein meddyliau.
Soniodd y Prif Weinidog, wrth ymateb i gwestiynau, am rai o'r sgiliau a fydd gan bobl sydd wedi gweithio ym maes lletygarwch, o ran glanweithdra, darparu bwyd, darparu cymorth sylfaenol. Tybed a yw'r Gweinidog wedi trafod gyda'r byrddau iechyd lleol a chyda darparwyr gofal i weld pa ddefnydd y gallent ei wneud o'r sgiliau hynny, ac yn wir, o ran rhai lleoliadau lletygarwch ar gyfer pobl pan fyddant mewn cyfnod cam-i-lawr, pryd yn y bôn yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yw gofal a chymorth—pryd nad oes angen cymorth meddygol aciwt arnyn nhw. Ac rwy'n ddiolchgar iddo am sôn am Barc y Scarlets. Roeddem yn falch iawn y buont mor barod i weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol a'r awdurdod lleol. Ac mae hefyd yn sôn yn ei ddatganiad am drafodaethau gyda lleoliadau ysbytai preifat. Tybed a allwn ni gael rhywfaint o arweiniad ynghylch pryd y gallai'r rhain gael eu cwblhau, gan fod hon yn amlwg yn sefyllfa ddwys.
Dau bwynt byr i orffen, un y gall y Gweinidog dybio o bosib ei fod braidd yn anghonfensiynol. Mae osteopathiaid wedi cysylltu â mi yn fy rhanbarth, ac mae'n amlwg na fyddant yn rhoi triniaeth i'w cleientiaid preifat. Gwyddom mai triniaeth yw osteopathi. Nid ydym yn ei ddarparu drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae'n driniaeth sydd â sail wyddonol gref. Roedd rhai o'r osteopathiaid hynny yn holi a fyddai'n bosib iddyn nhw wirfoddoli efallai i ddod i'r ysbytai i roi cymorth i staff. Dywedant fod llawer o'u cleientiaid preifat mewn gwirionedd yn staff y GIG sydd â phroblemau o ganlyniad i godi pethau. Felly, hoffwn daflu'r syniad yna i bair y Gweinidog i weld a oes grwpiau eraill o bobl sy'n gweithio mewn meysydd gofal nad ydyn nhw yn y sector cyhoeddus, ond sydd efallai'n meddu ar sgiliau y gallan nhw eu cynnig ar hyn o bryd.
Ac, yn olaf, o ran sefydliadau'r trydydd sector, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod rhai o'n cyrff trydydd sector yn hanfodol, o ran y gofal y maen nhw'n ei ddarparu a'r cyngor a'r cymorth y gallan nhw eu darparu. Bydd wedi gweld yr elusennau canser, er enghraifft, yn dod at ei gilydd. Tybed pa sicrwydd all y Gweinidog ei gynnig i'r sector hwnnw y caiff ei ddyfodol hirdymor ei ddiogelu. Clywais yr hyn a ddywedodd Paul Davies wrth y Prif Weinidog yn gynharach ynglŷn â'r angen i ariannu gwasanaethau rheng flaen ar hyn o bryd, ond wrth gwrs bydd angen y sefydliadau hynny arnom ni pan fydd yr argyfwng hwn ar ben, ac os cawn ein hunain mewn sefyllfa—. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru newid ei blaenoriaethau cyllidebol, ni fyddai neb yn amau hynny am eiliad, ond os cawn ni ein hunain yn y sefyllfa pan ddaw'r cyfnod adfer a ninnau wedi colli rhai o'r sefydliadau allweddol hynny yn y trydydd sector, oherwydd nad yw eu cyllid yn gynaliadwy, rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddem ni wedyn yn gorfod ailadeiladu'r rhwydwaith hwnnw.
Felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Yn falch iawn o'i weld yma heddiw, ac rwy'n gobeithio y gall ymateb i rai o'r sylwadau penodol yr wyf wedi'u gwneud.