4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb economaidd i COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 1 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 4:00, 1 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Mae cynllun cadw swyddi drwy gyfnod coronafeirws Llywodraeth y DU yn helpu i gryfhau cymorth i fusnesau drwy liniaru pwysau sylweddol ar gostau sefydlog, ac mae'r cynllun cymhorthdal incwm i'r hunangyflogedig yn galluogi llawer o unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd i ymdopi â'r argyfwng gyda'r cymorth ariannol sydd ei angen arnynt yn ddirfawr. Dim ond Llywodraeth y DU, gyda'i hadnoddau, a allai fod wedi chwarae'r rôl hon, ac rwy'n croesawu'r hyn y maent wedi'i wneud. Nawr, gyda'r cynlluniau hynny wedi'u cyhoeddi, mae wedi caniatáu i ni, fel Llywodraeth Cymru, dargedu'r cyllid mwy cyfyngedig sydd gennym i gefnogi'r busnesau hynny yng Nghymru sy'n disgyn drwy'r bylchau.

Cyhoeddwyd elfen gyntaf ein cymorth gyda phecyn llawn yn ôl ar ddechrau mis Mawrth, ar 18 Mawrth. Roedd y cyhoeddiad hwnnw'n cynnwys mwy na £350 miliwn i helpu busnesau gyda'u biliau ardrethi annomestig, ac rwy'n falch o ddweud wrth yr Aelodau y bydd y rhyddhad ardrethi newydd ar gael o heddiw ymlaen. Roedd hefyd yn cynnwys grantiau busnesau bach awtomatig o £10,000 i fusnesau ar draws pob sector sy'n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o £12,000 a llai, a £25,000 ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden sy'n meddiannu safleoedd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Rwy'n hynod ddiolchgar i awdurdodau lleol a fydd yn dosbarthu'r grantiau hyn ar ein rhan. Rydym yn gobeithio y bydd busnesau'n dechrau derbyn y grantiau hyn yr wythnos hon.

Ddydd Llun, fe wnaethom gyhoeddi ein cronfa cydnerthedd economaidd £500 miliwn newydd, sy'n ceisio llenwi'r bylchau yn y cynlluniau cymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU. Bydd y gronfa hon sydd ar gyfer Cymru'n unig yn cefnogi cwmnïau o bob maint, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, gyda ffocws ar y rheini nad ydynt wedi elwa ar y grantiau coronafeirws a gyhoeddwyd eisoes gan Lywodraeth Cymru. Nawr, mae'r gronfa'n cynnwys dwy brif elfen. Yn gyntaf, cynllun benthyciadau busnes newydd Banc Datblygu Cymru sy'n werth £100 miliwn. Ac yn ail, pot grantiau argyfwng sy'n werth £400 miliwn. Gyda'i gilydd, rydym wedi ymrwymo mwy na £1.7 biliwn tuag at liniaru effaith COVID-19 ar ein heconomi.

Nawr, mae Banc Datblygu Cymru eisoes wedi derbyn dros 500 o geisiadau am fenthyciadau. Byddaf yn cyfarfod â banciau'r stryd fawr eto yfory, a byddaf yn tynnu eu sylw at yr angen i fod yn fwy hyblyg ac yn fwy ystyriol wrth ymateb i gleientiaid, yn enwedig i'r rheini sy'n hunangyflogedig neu sydd angen cymorth pontio rhwng nawr a mis Mehefin.

Ar y pwynt hwn hoffwn dalu teyrnged i staff Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru, a hefyd fy swyddogion sydd wedi bod yn gweithio ddydd a nos i ddatblygu'r cynlluniau. Mae llinell gymorth Busnes Cymru bellach wedi ymdrin â bron 4,000 o ymholiadau ers 9 Mawrth. Hoffwn hefyd roi teyrnged i'r nifer fawr o gwmnïau a phrifysgolion yng Nghymru sydd bellach yn mynd ati'n uniongyrchol i ateb heriau penodol. Mae hyn yn cynnwys cryn weithgarwch yn cynhyrchu peiriannau anadlu, sgriniau wyneb, cyfarpar diogelu personol, gwelyau, matresi a gorchuddion. Nid dibynnu ar lwybrau cyflenwi presennol yn unig a wnawn, ond adeiladu atebion amgen lle na ellir diwallu'r galw.

Hoffwn gyfeirio'n fyr at ein hymateb ar wasanaethau trên, bws ac awyr. Uchelgais Llywodraeth Cymru o hyd yw creu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig gynaliadwy, gan gynnwys trafnidiaeth gymunedol ledled Cymru, ac rwyf wedi gwneud cyfres o benderfyniadau i helpu i ddiogelu trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru. Cyhoeddwyd y rhain yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe ddiwethaf. Rwyf wedi cytuno i becyn cymorth gwerth hyd at £40 miliwn ar gyfer Trafnidiaeth Cymru dros y misoedd nesaf er mwyn inni allu rhoi sicrwydd i deithwyr rheilffyrdd yng Nghymru. Yn ogystal ag argymell bod awdurdodau lleol yn parhau i dalu o leiaf 75 y cant o werth y contract ar gyfer gwasanaethau ysgol a gwasanaethau contract i deithwyr lleol eraill, rwyf bellach wedi chwistrellu £29 miliwn o grantiau i helpu gweithredwyr bysiau drwy ansicrwydd anochel y tri mis nesaf. Ac yn olaf, ar ôl trafodaethau gydag Eastern Airways, rwyf wedi atal y gwasanaeth awyr rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn am gyfnod cychwynnol o dri mis.

Felly, i gloi, mae fy neges allweddol i fusnesau ac i weithwyr yn glir iawn: os oedd gennych fusnes da yn 2019, rydym am eich cynorthwyo i gael busnes da yn 2021; ac os oedd gennych swydd dda yn 2019, rydym am eich cynorthwyo i gael swydd dda yn 2021. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd gyda thosturi, brys a gofal i oresgyn yr heriau sylweddol sy'n ein hwynebu a dod allan ar y pen arall i'r economi decach, fwy cyfartal a mwy caredig y credaf fod pawb ohonom am ei gweld.