Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 1 Ebrill 2020.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Credaf fod ei eiriau olaf, ynglŷn â thosturi, brys a gofal, yn rhai da. Weinidog, rydych wedi cydnabod y rhai sy'n rhedeg ein busnesau bach, a chredaf, yn yr un modd ag y canmolwn y rhai sydd wedi bod yn gweithio yn y GIG a'r diwydiant gofal, y dylem hefyd roi teyrnged i'r rheini sy'n rhedeg ein busnesau ar hyn o bryd ac sy'n ceisio parhau mewn cyfnod anodd iawn.
Os caf yn gyntaf grybwyll mater a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach, mae'n fater i'r Gweinidog cyllid mewn gwirionedd, ond mae'n cyffwrdd â'ch briff chi hefyd, sef yr arian ychwanegol hwn. Rwy'n credu mai tua £1 biliwn a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar gyfer swyddi a chefnogi swyddi. Rwy'n deall bod cyfran dda o'r arian hwnnw'n dod o'r UE, o gronfeydd yr UE a glustnodwyd yn wreiddiol ar gyfer cefnogi swyddi presennol, ond mae hwnnw yn awr yn mynd i gael ei ailgyfeirio i—. Mae'n ddrwg gennyf, roedd hwnnw'n cefnogi swyddi newydd yn wreiddiol; mae'n mynd i gael ei ailgyfeirio yn awr i gefnogi swyddi sy'n bodoli'n barod. Roeddwn yn meddwl tybed—. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da, gyda llaw. Rwy'n meddwl tybed, yn nes ymlaen, beth fydd y sefyllfa o ran naill ai talu'r arian hwnnw yn ôl neu ddadlau'n llwyddiannus o blaid ei ddefnyddio yn y ffordd gywir, felly mae'n debyg fod honno'n drafodaeth y bydd yn rhaid i chi ei chael gyda'r Gweinidog cyllid. Mae'n ymddangos i mi ar hyn o bryd ei bod yn ddoeth ailgyfeirio cyllid gymaint â phosibl i gynnal cyflogaeth, fel y bydd swyddi yno pan ddown allan o hyn a busnesau bach a chanolig sy'n gallu cyflawni'r gwaith o ailadeiladu'r economi.
Fe sonioch chi am gefnogaeth, fframwaith ar gyfer cefnogi busnesau. Yn amlwg, mae hynny'n hynod o bwysig. Nid yn unig y mae'n bwysig fod gennym fframwaith ar gyfer cefnogi busnesau, mae hefyd yn bwysig fod gennym fframwaith y mae busnesau'n ymwybodol ohono ac yn gallu ei ddefnyddio'n hawdd. Rwy'n siŵr nad wyf ar fy mhen fy hun—gydag Aelodau Cynulliad eraill, a gallaf eu gweld yn ysgwyd eu pennau, Weinidog—nid wyf ar fy mhen fy hun yn meddwl hynny. Mae nifer o fusnesau wedi cysylltu â mi ac nid ydynt wedi bod yn ymwybodol yn y lle cyntaf o ble y gellir dod o hyd i'r cymorth hwnnw. Yn y sefyllfa hon yn fwy na'r un arall, mae'n sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, felly mae angen iddynt wybod yn union ble mae'r llwybrau cymorth hynny mor gyflym â phosibl, felly os gallwch ddweud wrthym beth rydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y fframwaith hwnnw'n cael ei gyfleu i fusnesau a'u bod yn gwybod yn union ble mae'r pwyntiau cyswllt hynny ar y cyfle cyntaf, fel bod modd cael gafael ar y cymorth.
Rydych chi wedi sôn—wel, soniwyd am archfarchnadoedd wrth y Gweinidog iechyd, ond rwy'n tybio ei fod yn rhan o'ch cylch gorchwyl chi hefyd. Cefais ddau e-bost gan etholwyr heddiw yn holi am sefyllfa unigolion sy'n cael eu gwarchod a'r ffaith nad oes cofrestr debyg yng Nghymru i'r un sydd ar gael ar lefel y DU ar gyfer cofrestru gydag archfarchnadoedd i wneud yn siŵr fod nwyddau'n cael eu darparu i'w cartrefi. Mae pobl yn poeni am hynny. Gwn fod y Prif Weinidog wedi sôn amdano'n gynharach a bod y Gweinidog iechyd wedi sôn amdano, felly tybed a hoffech chi ddweud rhywbeth hefyd am unrhyw drafodaethau a gawsoch gydag archfarchnadoedd—maent yn rhan fawr o'n heconomi—am yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod unigolion sy'n cael eu gwarchod a theuluoedd sy'n cael eu gwarchod yn cael gofal yn y ffordd orau sy'n bosibl.
Os caf droi at ail ran eich datganiad, roedd yr ail ran yn ymwneud â thrafnidiaeth. Mae gennyf gwestiynau i chi am y diwydiant bysiau. Rydych wedi gofyn i awdurdodau lleol barhau i dalu o leiaf 75 y cant o werth y contract ar gyfer gwasanaethau ysgol a gwasanaethau contract eraill i deithwyr lleol. A allwch gadarnhau nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar awdurdodau lleol i wneud hynny? Ac a ydych chi'n ymwybodol o unrhyw rai nad ydynt yn bwriadu dilyn eich cyngor a'ch arweiniad? Rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni ei osgoi yw loteri cod post ledled Cymru, ac rwy'n deall nad yw rhai awdurdodau lleol o leiaf yn chwarae eu rhan yn hyn o beth a'u bod yn dweud, pan fo'n anodd, os nad yw'n ddyletswydd statudol i ddarparu'r cymorth hwnnw ar y cychwyn, a oes angen iddynt wneud hynny?
Rydych chi'n gofyn i'r diwydiant bysiau, yn rhesymol, i adrodd yn wythnosol, gan ddangos sut y mae pob bws wedi cyflawni ei rwymedigaethau o ran terfynau ar nifer teithwyr, cadw pellter cymdeithasol ac yn y blaen. Rwy'n deall hynny'n llwyr ac yn meddwl bod hwnnw'n syniad da. Fodd bynnag, unwaith eto, deallaf fod rhai awdurdodau lleol yn gofyn am fanylion personol ymlaen llaw cyn i'r cyllid gael ei ryddhau. Nid wyf yn credu bod hynny yn ysbryd y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych ddoe, felly tybed a allech roi rhywfaint o eglurhad ynglŷn â sut yn union y bwriadwch i'r broses adrodd honno ddigwydd.
Yn olaf, gyda bysiau, mae'n ymddangos bod yr Adran Drafnidiaeth yn Lloegr yn mynd i ddarparu cymorth ychwanegol i'r diwydiant bysiau yno—o leiaf dyna fy nealltwriaeth i. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau neu a allech gael unrhyw drafodaethau gyda'ch cymheiriaid yn Lloegr, ac yn wir y Gweinidog cyllid, i weld a fydd unrhyw symiau canlyniadol dan fformiwla Barnett i Gymru os yw'r arian hwnnw ar gael yn Lloegr. Mae honno'n elfen bwysig inni ei deall yma. Hefyd, a fyddech yn bwriadu i hynny fynd tuag at drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru?
Yn olaf un, fe sonioch chi ar ddiwedd eich datganiad, Weinidog, ein bod mewn cyfnod digynsail, ac fe sonioch chi am hedfan a maes awyr Caerdydd. Felly, os caf wisgo fy het Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ychydig, roedd eich datganiad ysgrifenedig ddoe yn cyfeirio at atal y cyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn. Beth yw eich asesiad o'r effaith ar deithwyr a Maes Awyr Caerdydd, o ystyried bod y rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus wedi'i hatal am dri mis? Rwy'n meddwl yn arbennig am deithwyr y soniwn amdanynt sydd angen teithio o'r gogledd i'r de i wneud gwaith hanfodol. Tybed a oes gennych unrhyw ffigurau mewn perthynas â'r rheini? Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y byddwn yn amlwg yn edrych arno yn y tymor hwy, a chyda'r diwydiant awyrennau yn y sefyllfa y mae ynddi, efallai fod hyn yn is i lawr ar eich rhestr o flaenoriaethau ar hyn o bryd. Ond fel rwy'n dweud, gan fod hyn yn rhywbeth rydym wedi edrych arno yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth yw'r sefyllfa gyda Maes Awyr Caerdydd a pha asesiad a wnaethoch.
Yn olaf oll, fe sonioch chi am y £40 miliwn ar gyfer y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru, ac mae hynny i'w groesawu. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda darparwr y fasnachfraint reilffyrdd ynglŷn â ble y gallai'r arian hwnnw fynd i gefnogi'r diwydiant yn y tymor byr? Yn amlwg, nid yw cadw pellter cymdeithasol yn rhywbeth y gellir ei wneud yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus, felly rwy'n credu ein bod i gyd yn deall bod anawsterau ar hyn o bryd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus. Ond rwy'n siŵr ein bod i gyd yn cytuno â chi, pan ddown allan o'r argyfwng hwn, ein bod am sicrhau bod ein sector trafnidiaeth gyhoeddus, a'n heconomi ehangach yn wir, ar y sail orau bosibl i oresgyn yr heriau a dod allan o hyn, fel bod yr economi ar sylfaen gadarnach o lawer nag y mae i'w gweld arni heddiw oherwydd yr holl bwysau dealladwy sydd arni.