Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 1 Ebrill 2020.
Mae busnesau'n dweud wrthyf hefyd y byddent yn gwerthfawrogi rhagor o ganllawiau—a chyfarwyddyd mewn rhai achosion—ynghylch yr hyn y dylid ei ystyried yn waith hanfodol neu beidio. Soniodd Adam Price wrth y Prif Weinidog am waith adeiladu nad yw'n hanfodol, ac rwyf wedi crybwyll hyn o'r blaen, fod hwn yn faes anodd iawn i bobl gadw pellter cymdeithasol priodol, er enghraifft. Felly, a wnaiff y Gweinidog roi ystyriaeth bellach i edrych ar y pwerau sydd ganddo, gan fod y ddeddfwriaeth frys yn ei lle bellach, i ystyried rhoi cyfarwyddiadau clir, lle bo hynny'n briodol, i fusnesau ynghylch yr hyn sy'n hanfodol neu fel arall? Er enghraifft, gallai alluogi gwaith adeiladu nad yw'n hanfodol i ddod i ben os cânt gyfarwyddyd i roi'r gorau iddi, ond os mai dewis gwneud hynny y maent, gallai olygu eu bod yn torri rhwymedigaethau cytundebol ac arwain at anawsterau ariannol iddynt. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog hynny.
Tybed a allai hefyd gael sgyrsiau pellach gyda'r Gweinidog iechyd am y canllawiau sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Daeth un busnes i gysylltiad â mi i ddweud eu bod yn chwilio am gyngor ac nad oeddent yn teimlo bod digon yno i ddweud wrthynt sut y dylent gadw pellter cymdeithasol yn ddiogel. Nawr, fy nealltwriaeth i yw bod cyngor llawer mwy manwl ar gael ar wefan Public Health England, ac mae'n bosibl ein bod ni yn y broses o ddal i fyny â hynny. Ond os ydym yn disgwyl i'n busnesau weithredu'n gyfrifol yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae angen inni sicrhau—rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi—fod y cyngor a'r cymorth priodol ar gael iddynt fel eu bod yn gwybod yn union beth i'w wneud yn yr hyn sydd, wrth gwrs, fel y dywedodd y Gweinidog, yn gyfnod digyffelyb.
Nawr, rydym hefyd yn gwybod, Lywydd, fod yna lawer o fusnesau sy'n ymddwyn mewn ffordd gwbl ragorol ar yr adeg hon, busnesau sy'n rhoi pobl o flaen elw ac sy'n darparu gwasanaeth cwbl ragorol ac yn cefnogi eu staff. Ond yn anffodus, rydym hefyd yn gwybod bod yna rai busnesau nad ydynt yn gwneud hynny. Mae gennyf nifer o enghreifftiau o fusnesau, er enghraifft, sy'n pwyso ar staff i weithio pan ddylent fod yn ynysu'n gymdeithasol, er enghraifft, os nad ydynt yn anhwylus eu hunain ond bod aelod o'r teulu'n sâl neu'n agored i niwed; busnesau lle disgwylir i bobl weithio mewn amgylchiadau lle nad oes unrhyw gamau i gadw pellter cymdeithasol priodol, lle na allant wisgo a dadwisgo iwnifform yn effeithiol. Nawr, dylwn bwysleisio, Lywydd, mai lleiafrif o fusnesau yw'r rhain, ond mae'r hyn y maent yn ei wneud—rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi—yn gwbl annerbyniol.
Fel dinasyddion unigol, gofynnwyd inni ildio llawer o'n rhyddid personol ar yr adeg hon, ac rydym wedi gwneud hynny'n falch o chwarae ein rhan. Ond lle mae busnesau'n gwrthod ymateb i gyngor ac arweiniad, a wnaiff y Gweinidog ystyried pa bwerau sydd ganddo i orfodi cydymffurfiaeth ac a wnaiff ystyried defnyddio'r pwerau hynny? Os daw i'r casgliad nad oes ganddo'r pwerau hynny ei hun, a allai gael trafodaethau pellach gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod cosbau i fusnesau sy'n gwrthod cydymffurfio? Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi ein bod ni, fel cymuned wleidyddol yng Nghymru, ac yn bwysicach, y cyhoedd yng Nghymru, yn gwylio perfformiad busnesau a diwydiant ar hyn o bryd, a byddwn yn cofio'r cwmnïau rhagorol sydd wedi ymddwyn yn dda iawn a byddwn hefyd yn cofio am y rhai sydd heb wneud hynny.
O ran busnesau gwledig, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi eu bod yn wynebu heriau ac anawsterau penodol. Mae cwestiynau'n codi ynghylch yr hyn sy'n deithio hanfodol a'r hyn nad yw'n deithio hanfodol, er enghraifft. Nawr, rwy'n ymwybodol fod ei gyd-Aelod, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi datganiad o ryw fath—nid wyf yn gwybod a yw'n ddatganiad i'r wasg neu'n ddatganiad ysgrifenedig i'r Cynulliad—am gefnogaeth i'r diwydiant ffermio, ond tybed a wnaiff y Gweinidog ystyried gyda'i gyd-Aelod y posibilrwydd o gyflwyno datganiad ar yr adeg briodol i'r Senedd rithwir hon fel y gallwn graffu ar y cymorth y mae'r Llywodraeth yn ei ddarparu i fusnesau gwledig yn fwy eang, ond yn benodol i fusnesau ffermio? Rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi mai'r busnesau yw asgwrn cefn ein cymunedau llai, ac mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu diogelu.
Yn olaf, mae'r Gweinidog yn ei ddatganiad yn cyfeirio at y grantiau brys a allai fod ar y ffordd, ac mae hwn yn fater a godwyd gan David Rees yn ei gwestiynau i'r Prif Weinidog. Gwyddom nad yw rhai o'r pecynnau cymorth yn cynnwys pob un o'r rheini yr effeithir arnynt. Rwy'n credu bod David Rees wedi sôn, ac rwyf am ailadrodd hyn, am y bobl hunangyflogedig hynny, er enghraifft, nad ydynt wedi bod yn hunangyflogedig ers dros flwyddyn, ac felly nid oes ganddynt y gwaith papur sydd ei angen ar gyfer cynllun Llywodraeth y DU. A wnaiff y Gweinidog ystyried pa gymorth pellach y gellir ei roi i'r dinasyddion hynny, ac yn y tymor byr a wnaiff ystyried cyflwyno cynllun incwm sylfaenol brys i bobl yng Nghymru sy'n syrthio drwy'r bylchau? Yn yr ysbryd amhleidiol hwnnw, rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi gwneud rhywfaint o ymchwil ynglŷn â sut y gallai cynllun o'r fath weithredu yn y tymor byr, a byddwn yn hapus iawn i rannu'r gwaith rhagarweiniol hwnnw gyda'r Gweinidog a'i swyddogion, oherwydd rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi yn yr amser anodd hwn ein bod am sicrhau nad oes unrhyw ddinesydd yn cael ei adael ar ôl.