2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 8 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 8 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Heddiw, rydym ni'n nesáu at ddiwedd y cyfnod cychwynnol o dair wythnos y rheolau aros gartref. Unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i bobl ledled Cymru am yr undod a ddangoswyd o ran cydymffurfio â'r cyfyngiadau gwbl angenrheidiol hyn. Mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth—y camau y mae pob un ohonom ni'n eu cymryd i gyfyngu cysylltiad ag eraill ac aros gartref a gweithio gartref pryd bynnag y bo hynny'n bosibl—mae hynny i gyd yn helpu i arafu lledaeniad y feirws ac i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed.

Ond, oherwydd y bwlch amser rhwng rhoi'r mesurau hyn ar waith a gweld eu canlyniadau, rydym ni'n gwybod y bydd pethau'n dal i waethygu cyn iddyn nhw wella. Bydd mwy o bobl yn mynd yn sâl, bydd angen i fwy o bobl gael eu derbyn i'r ysbyty, a bydd mwy o deuluoedd ledled Cymru yn wynebu'r sefyllfa dorcalonnus o golli rhywun y maen nhw'n ei garu.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos 291 o achosion ychwanegol yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm a gadarnhawyd i 3,790—er ein bod ni'n gwybod y bydd nifer gwirioneddol yr achosion yn uwch. Yn anffodus iawn, mae cyfanswm y marwolaethau yn 212 erbyn hyn, pob un o'r rheini yn unigolyn, pob un yr ydym ni'n galaru ei absenoldeb yn awr.

Ddoe, ychydig wedi hanner nos, daeth diwygiad i'r rheolau aros gartref hynny i rym, gan ymestyn y ddyletswydd cadw pellter cymdeithasol i bob gweithle. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob gweithle sy'n parhau i fod ar agor yng Nghymru gymryd pob cam rhesymol i gadw pellter o 2m rhwng pobl i leihau lledaeniad coronafeirws. Y gweithlu yw'r ased mwyaf mewn unrhyw weithle, ac mae'r rheoliadau hyn yn tanlinellu'r ymrwymiad i ddiogelu iechyd a llesiant y gweithwyr hynny trwy bob mesur rhesymol.

Llywydd, bu cyfres o ddatblygiadau yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yr wythnos hon, o feddygon a gofalwyr yn dychwelyd i greu ysbytai maes. O ran profion, rydym ni wedi gweld datblygiad canolfannau profi drwy ffenestr y car yng Nghymru a phrofion i staff gofal cymdeithasol. Wrth i'n gallu i gynnal mwy o brofion gynyddu, byddwn yn cyflwyno hynny i fwy o bobl a grwpiau proffesiynol, gan gynnwys yr heddlu a staff carchardai, fel y nodir yn ein cynllun profi cenedlaethol i Gymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon.  

Llywydd, mae sicrhau bod gan staff iechyd a gofal cymdeithasol y cyfarpar diogelu personol iawn i wneud eu gwaith yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd canllawiau cyfarpar diogelu personol newydd ar gyfer y DU gyfan, ac mae'r rhain wedi symleiddio y dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol ac ymestyn ei ddefnydd hefyd. Bydd y canllawiau newydd yn cynyddu'r hyn a gaiff ei gymryd o'n stociau cyfarpar diogelu personol. Hyd yma, rydym ni wedi cyflwyno dros wyth miliwn o eitemau ychwanegol o'n stociau pandemig i'r GIG ac i awdurdodau lleol, ac mae hynny yn ogystal â'r cyflenwadau sydd gan y GIG ei hun fel rheol.    

Rydym ni'n gweithio gyda Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau cyflenwad parhaus o gyfarpar diogelu personol, ond rydym ni hefyd wedi gofyn i fusnesau Cymru newid eu llinellau cynhyrchu arferol i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol ar gyfer Cymru, ac rydym ni wedi cael ymateb gwych gan gwmnïau yng Nghymru hyd yn hyn. Ymhlith eraill, mae'r Bathdy Brenhinol a Grŵp Rototherm yn cynhyrchu feisorau a gwarchodwyr wyneb a fydd yn cael eu gwisgo gan staff iechyd, ac mae distyllfa gin, In The Welsh Wind, yn cynhyrchu hylif diheintio dwylo a gymeradwywyd gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Gan droi at yr economi, rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud, gyda llawer o ddiolch i'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, yn cynorthwyo busnesau bach yn ystod y pandemig. Yn y 10 diwrnod ers agor ein cynllun grant ar gyfer y busnesau llai hynny, mae ein hawdurdodau lleol wedi gwneud mwy na 17,700 o ddyfarniadau ac wedi talu £229 miliwn. Mae'r ffigur hwnnw'n codi bob dydd, a hoffwn ddiolch o galon i'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol am y cymorth y maen nhw wedi ei roi i sicrhau bod y cymorth hwn yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf. Yn yr wythnos ddiwethaf, cadarnhawyd cymorth i Faes Awyr Caerdydd gennym ni hefyd, a byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y gronfa cydnerthedd economaidd o £500 miliwn yr wythnos nesaf.

Llywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i chi a'r Pwyllgor Busnes am gytuno y gellir defnyddio'r Cyfarfodydd Llawn hyn ar gyfer deddfwriaeth sy'n flaenoriaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau, er enghraifft, i nodi deddfwriaeth Ewropeaidd allweddol y bydd angen ei dwyn gerbron y Senedd.

Llywydd, hoffwn orffen drwy edrych ymlaen. Mae'r tair wythnos o gyfyngiadau aros gartref y darparwyd ar eu cyfer mewn deddfwriaeth, ac yr ydym ni i gyd wedi eu hwynebu, yn dod i ben yr wythnos nesaf. Mae'n rhaid i mi fod yn eglur gyda phob Aelod: ni fydd y cyfyngiadau hyn yn dod i ben bryd hynny. Ni fyddwn yn taflu i ffwrdd yr enillion yr ydym ni wedi eu gwneud a'r bywydau y gallwn ni eu hachub, trwy gefnu ar ein hymdrechion ar yr union adeg y maen nhw'n dechrau dwyn ffrwyth.

Ers i ni gyfarfod ddiwethaf, rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU, a heddiw gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae mwy o waith i'w wneud o ran adolygu'r rheoliadau ac o ran cael y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf; bydd union natur yr hyn a fydd yn dilyn y drefn bresennol yn cael ei chytuno yn ystod y dyddiau nesaf.

Ond mae'n rhaid i mi sicrhau peidio â gadael dinasyddion Cymru gydag unrhyw amheuon: nid yw'r ymdrechion yr ydym ni i gyd yn eu gwneud ar ben eto. Ni fyddan nhw ar ben yr wythnos nesaf. Cyn y gellir codi'r cyfyngiadau a dechrau dychwelyd i normalrwydd, mae mwy i ni i gyd ei wneud. Diolch i bob un o'r miloedd ar filoedd o bobl hynny yng Nghymru sy'n gwneud eu cyfraniad bob un dydd ac a fydd yn parhau i wneud hynny dros y dyddiau i ddod. Gyda'n gilydd, rydym ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, rydym ni'n diogelu ein gwasanaeth iechyd gwladol a gyda'n gilydd, rydym ni'n achub bywydau.