Part of the debate – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 8 Ebrill 2020.
Hoffwn ail-bwysleisio fy niolch enfawr i'r holl weithwyr hanfodol rheng flaen sy'n parhau i wneud gwaith gwych i'n cadw ni i gyd yn ddiogel. A gaf i hefyd gyfleu fy nghydymdeimlad â'r rhai sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig hwn? Fel chithau, Prif Weinidog, anfonaf fy nymuniadau gorau at Brif Weinidog y DU ac at Alun Davies, a dymunaf wellhad buan iddyn nhw.
Nawr, Prif Weinidog, dros y penwythnos, fe'i gwnaed yn eglur gan arweinydd Plaid Lafur y DU sydd newydd gael ei ethol, Syr Keir Starmer, y bydd ei blaid yn ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU, nid gwrthwynebu er mwyn gwrthwynebu, ac nid sgorio pwyntiau gwleidyddol na gwneud gofynion amhosibl. Felly, a gaf i ailadrodd y safbwynt hwnnw a dweud y bydd fy nghyd-Aelodau a minnau yn gwneud popeth o fewn ein gallu i barhau i weithio'n adeiladol drwy gydol y cyfnod hwn?
Fe'i gwnaeth yn eglur hefyd bod craffu yn bwysig. Ac felly, yn ysbryd y safbwynt hwnnw, credaf ei bod hi'n deg gofyn pam, o'r holl faterion sy'n wynebu pobl Cymru ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) heddiw, ar adeg pan, a bod yn gwbl onest, y dylai holl adnoddau'r Llywodraeth gael eu neilltuo i fynd i'r afael ag effaith coronafeirws ar ein cymunedau? Rwy'n gobeithio, Prif Weinidog, y gwnewch chi fyfyrio ar hynny.
Nawr, hefyd dros y penwythnos, fe'i gwnaed yn eglur gan y Gweinidog iechyd, er na allai fod yn 100 y cant yn ffyddiog y byddai'r GIG yn ymdopi, ei fod yn teimlo bod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud. Fodd bynnag, fel Aelodau eraill rwy'n siŵr, rwy'n parhau i gael gohebiaeth gan etholwyr pryderus a gofidus sy'n teimlo bod pobl yn dal i ddarparu gwasanaethau rheng flaen pwysig pan nad oes ganddyn nhw gyfarpar diogelu personol digonol. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol bod rhai cleifion wedi methu â chael triniaeth ddeintyddol frys oherwydd y diffyg cyfarpar diogelu sydd ar gael ar hyn o bryd. Gwn eich bod wedi cyfeirio yn eich datganiad heddiw at y ffaith bod wyth miliwn o ddarnau o gyfarpar ychwanegol wedi eu dosbarthu, ond a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth o gyfarpar diogelu personol, a pha waith pellach sy'n cael ei wneud i hwyluso darpariaeth y cyfarpar hwn i weithwyr allweddol ar hyn o bryd?
Nawr, rwy'n deall bod gan Gymru y gallu ar hyn o bryd i gynnal tua 1,100 o brofion y dydd gyda'r nod o gyrraedd 5,000 o brofion y dydd ymhen ychydig wythnosau cyn cyrraedd hyd at 9,000 o brofion y dydd erbyn diwedd mis Ebrill. O ystyried y pwysau cynyddol ar y GIG oherwydd coronafeirws, mae'n hanfodol bod nifer y profion sy'n cael eu cynnal yn cyflymu nawr fel y gall y cyhoedd fod yn ffyddiog bod y lefelau profi mor uchel ag sy'n ymarferol bosibl. Efallai y gallech chi ddweud wrthym ni, felly, pa a yw hynny'n dal yn wir, ac a yw Llywodraeth Cymru yn dal i fod ar y trywydd iawn i gyrraedd 9,000 o brofion erbyn diwedd y mis.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ei gwneud hi'n eglur ei bod yn arallgyfeirio'r ystod o bobl y mae'n gweithio gyda nhw i gynyddu ei chapasiti, ac rwy'n deall y bu rhywfaint o ddeialog gyda phrifysgolion ynghylch y rhan y gallan nhw ei chwarae i helpu i sicrhau capasiti ychwanegol ar hyn o bryd. Felly, a allwch chi ddweud ychydig yn rhagor wrthym ni am y trafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda phrifysgolion, a sefydliadau a mudiadau eraill yn wir, am y rhan y gallen nhw ei chwarae i gefnogi'r GIG a helpu i gynyddu capasiti ac adnoddau presennol Cymru?