Part of the debate – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 8 Ebrill 2020.
Gaf i ategu'r hyn y dywedodd y Prif Weinidog ac estyn ein dymuniadau gorau ni i gyd, wrth gwrs, i Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, a hefyd i bawb arall sy'n sâl ar hyn o bryd? Gobeithio y caiff Alun Davies, wrth gwrs, wellhad buan. A gaf i hefyd ddiolch i chi, Brif Weinidog, am y cyfle i mi gael fy mriffio y bore yma gan y prif swyddogion sydd yn arwain yr ymateb i'r argyfwng?