Part of the debate – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 8 Ebrill 2020.
Wel, unwaith eto, Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y cwestiynau yna. A gaf i ymuno ag ef i atgyfnerthu'r neges yr ydym ni wedi ei hanfon dros y ddau benwythnos diwethaf ac yr ydym ni eisiau ei hanfon eto yn y termau mwyaf eglur posibl? Cyn penwythnos y Pasg, mae'r cyngor aros gartref yn eich golygu chi; nid yw'n gyngor i rywun arall, i rywun arall ei ddilyn, mae'n gyngor i bob un ohonom ni ac mae'n rwymedigaeth ar bob un ohonom ni i ddilyn y cyngor hwnnw. Ac nid yw taith i ail gartref yn daith hanfodol, a phan fydd yr heddlu yng Nghymru yn stopio pobl sy'n gwneud hynny, byddan nhw'n cymryd camau gorfodi yn eu herbyn.
Nawr, mae gennym ni alwad gyda'r prif gwnstabliaid cyn y penwythnos ac yn syth ar ôl y penwythnos i wneud yn siŵr eu bod nhw'n barod ar gyfer y gwaith pwysig iawn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud ac yna cael adroddiad ganddyn nhw ar sut y gwnaethon nhw gyflawni eu cyfrifoldebau. Ddydd Llun yr wythnos hon, yr adroddiadau gan bob un o'r pedwar prif gwnstabl oedd, er y bu digwyddiadau ledled Cymru gyfan, eu bod nhw'n wasgarog yn hytrach nag wedi'u trefnu, nad oedden nhw, ym marn y prif gwnstabliaid, yn gyfystyr ag affráe yn erbyn y lefelau syfrdanol o ufuddhad y mae dinasyddion Cymru wedi ei ddangos i'r rhwymedigaethau yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu, a phan yr oedden nhw wedi dod ar draws digwyddiadau, roedd y pwerau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd—gan gynnwys blociau ffyrdd, er enghraifft, yn ogystal â dirwyon—roedd y gyfres o gamau gorfodi honno yn dal yn ddigonol iddyn nhw allu ymdrin â'r troseddau a welsant. Ac fe'i gwnaed yn eglur gennyf unwaith eto yn y trafodaethau hynny gyda phrif gwnstabliaid, pe byddai'r farn honno'n newid ac mai eu cyngor i Lywodraeth Cymru fyddai bod nhw angen cyfres gryfach o gamau gorfodi, y byddem ni'n gwneud hynny ar unwaith. Ar hyn o bryd, eu cyngor i ni oedd bod yr hyn sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd yn ddigonol i ymateb i'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu a byddaf yn cael fy llywio gan y cyngor hwnnw.
Hyd yn oed yn y cyfnod anodd iawn hwn, mae gwaith yn parhau i geisio cryfhau band eang lle nad yw cystal ag yr hoffem iddo fod, ac rwy'n cydnabod y cyd-destun y nododd Paul Davies pam mae hynny'n arbennig o bwysig. Nid yw manylion y gwaith ychwanegol sy'n cael ei wneud gen i, ond rwy'n hapus i gyflenwi hynny, wrth gwrs. O ran cymorth i fusnesau, rwy'n credu bod dwy swyddogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni. Un yw, gan ein bod ni'n cymryd rhan, bob dydd, mewn is-grwpiau o'r system COBRA, rydym ni'n gallu cyfleu yn uniongyrchol i Weinidogion Llywodraeth y DU y bylchau yn y ddarpariaeth y mae pobl yn eu canfod wrth i'r mesurau sydd i'w croesawu yn fawr gan Lywodraeth y DU gael eu gweithredu’n ymarferol. Nid yw'r feirniadaeth o gwbl i awgrymu, wrth i syniadau symud o fod ar bapur i gael eu cyflwyno ar lawr gwlad, y bydd rhai anawsterau yn dod i'r amlwg yn y ffordd y mae'r pethau hynny'n digwydd.
Mae ein cysylltiad wyneb yn wyneb uniongyrchol yn rhoi cyfle i ni gyflwyno'r pwyntiau hynny ar ran busnesau Cymru yn uniongyrchol i Ganghellor y Trysorlys, sy'n cadeirio rhai o'r cyfarfodydd hyn, ac yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, sy'n cadeirio rhai o'r cyfarfodydd hyn. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n falch iawn o'i wneud—bod yn llais uniongyrchol i fusnesau Cymru o ran helpu Llywodraeth y DU i wella darpariaeth ymarferol y cynlluniau y mae wedi eu rhoi ar waith.
Yr wythnos nesaf, pan fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiadau am y £400 miliwn o gymorth busnes sy'n weddill yr ydym ni'n bwriadu ei ddarparu yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar fylchau mewn cymorth sydd eisoes ar gael fel arall wedi bod yn brawf allweddol i ni o ran llunio'r pecyn hwnnw. Rydym ni'n gwneud hynny mewn trafodaethau ag eraill—Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac yn y blaen. Er ei fod yn anodd, o ystyried maint yr angen sy'n bodoli, ein nod yw canolbwyntio £400 miliwn yn y ffordd a awgrymodd Paul Davies, fel bod ei effaith yn glanio yn y mannau hynny lle nad yw mathau eraill o gymorth ar gael ar hyn o bryd.