2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 8 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:01, 8 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

O ran cyfarpar diogelu personol a'r amserlen ddosbarthu, mae'r prif swyddog meddygol yn cael cyfarfod wythnosol gydag Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol; rwy'n siŵr bod y Coleg Nyrsio Brenhinol yn cael ei gynrychioli yn y fan honno ac rwy'n siŵr y byddai'r prif swyddog meddygol yn hapus iawn i drafod pa un a yw amserlen ddosbarthu yn arf defnyddiol i aelodau'r colegau brenhinol. Mae ein sefydliad cydwasanaethau ein hunain yn caffael ar ran Cymru. Yn ogystal â'r cyflenwadau yr ydym ni'n eu cael trwy drefniadau newydd y DU, rydym ni wedi gallu sicrhau ein cyflenwadau ein hunain erioed. Ac yn gyffredinol, fy nghyngor i awdurdodau lleol ac eraill yw ei bod hi'n well bod yn rhan o'r ymdrech genedlaethol honno, er fy mod i'n deall bod gan lawer o sefydliadau eu cyflenwyr eu hunain a rhai trefniadau hirsefydlog y gallan nhw fanteisio arnynt. Ond rydym ni'n lwcus i gael cydwasanaethau'r GIG yma yng Nghymru—sefydliad cenedlaethol sydd ag enw da iawn a gweithlu medrus iawn, sy'n gweithio'n galed i sicrhau cyfarpar diogelu personol, gan gynnwys o dramor, gan gynnwys cysylltiadau yn Tsieina hefyd.

Gofynnodd Adam un neu ddau o gwestiynau i mi, Llywydd, am faterion clinigol, a'r unig ateb y gallaf i ei roi ar unrhyw adeg yw bod yn rhaid i mi gael fy llywio gan y cyngor clinigol gorau sydd gen i. Felly, bydd ein clinigwyr, wrth gwrs, yn edrych ar dystiolaeth ryngwladol o ymyrraeth gynnar, a pha un a oes trefnau y dylem ni eu mabwysiadu yma yng Nghymru. Maen nhw mewn sefyllfa well o lawer na mi i wneud yr asesiad hwnnw, a phan fydd ein clinigwyr yn credu bod pethau newydd y gellir eu gwneud, ac y byddan nhw'n effeithiol yn glinigol o ran ymateb i'r coronafeirws, yna wrth gwrs byddwn ni'n eu cynorthwyo nhw yn eu hymdrechion. Mae'n rhaid dweud yr un peth o ran ein dull profi, olrhain ac ynysu. Y drefn sydd gennym ni yw'r drefn a argymhellwyd i ni gan bedwar prif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig. Os daw adeg pan mai eu cyngor nhw i'r Llywodraeth yw bod angen i ni symud i gyfeiriad newydd o ran profi, yna gallwch fod yn siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd eu cyngor. Does dim y fath beth â chyngor heb ei gwestiynu. Rydym ni'n gwybod bod llawer o wahanol safbwyntiau ymhlith clinigwyr ac academyddion ac arbenigwyr eraill. Yr hyn na all Llywodraeth ei wneud, a'r hyn na all Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru ei wneud, yw dewis a dethol rhwng y lleisiau hynny sy'n cystadlu. Mae'n rhaid i ni ddibynnu ar y lleisiau uchaf a mwyaf awdurdodol sydd gennym ni, a'r pedwar prif swyddog meddygol sy'n gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd i gynghori pob un o'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yw'r rheini. Eu cyngor nhw yr ydym ni'n dibynnu arno, a'u cyngor nhw yr wyf i'n parhau i'w gymryd.

O ran awyryddion, ein pryder yw—. Mae'n gwestiwn da iawn. Ar 5 Ebrill, cyhoeddodd Vaughan Gething ddatganiad manwl yn nodi capasiti presennol, mewnwthiol, anfewnwthiol, y stoc sydd ar archeb, nifer yr awyryddion sydd eisoes wedi cyrraedd Cymru. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud wedyn, fel y gwn fod Adam Price yn ei ddeall, yw bod yn rhaid i ni gyfateb y capasiti hwnnw â thrywydd y clefyd, a chan nad ydym ni'n gwbl sicr eto pa bryd fydd y cyfnod brig hwnnw, mae ateb manwl i'r cwestiwn 'A oes gennym ni ddigon?' yn y fantol o hyd braidd. Yr hyn yr wyf i'n credu y gallwn ni ei ddweud yn hyderus yw bod y camau yr ydym ni i gyd wedi eu cymryd yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gostwng y gromlin i bwynt lle y gallwn ni fod yn llawer mwy ffyddiog y bydd y cyflenwadau ychwanegol sydd gennym ni o awyryddion yn cyfateb yn llawer agosach i'r patrwm presennol o salwch nag a fyddai wedi bod yn wir fis yn ôl pan oedd gennym ni lai o awyryddion yn y system a phatrwm gwahanol iawn o glefyd o'n blaenau.

Llywydd, cyn belled ag y mae Roche yn y cwestiwn, rwyf i wedi ateb cwestiynau am hynny am tua 10 diwrnod bellach, ac nid oes gen i ddim byd pellach i'w ychwanegu y prynhawn yma at yr hyn yr wyf i eisoes wedi ei ddweud ar y cofnod.