Part of the debate – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 8 Ebrill 2020.
Dim ond ar y mater o olrhain, profi ac olrhain cysylltiad, lle ceir, yn amlwg, amrywiaeth o safbwyntiau a gwahaniaeth barn ymhlith gwyddonwyr, epidemiolegwyr ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus, o gofio bod demograffeg Cymru yn wahanol—ac, yn wir, mae Gweinidogion wedi cyfeirio at hyn—a fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru gomisiynu ei modelu annibynnol ei hun, neu ofyn i SAGE a'r gwahanol is-bwyllgorau wneud modelu penodol ar y mater o ba un a ddylem ni yng Nghymru, wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau symud, fabwysiadu'r polisi hwn, polisi De Corea o brofi ac olrhain?
O ran cyfarpar diogelu personol, a gaf i ddweud y cysylltwyd â ni heddiw gan un perchennog cartref gofal diobaith, sy'n ceisio archebu cyfarpar diogelu personol gan y prif gyflenwr ar gyfer cartrefi gofal yn y DU, dim ond i gael gwybod y rhoddwyd y cyflenwadau hyn iddyn nhw i'w dosbarthu gan Public Health England, ac felly bod yn rhaid eu neilltuo ar gyfer cartrefi yn Lloegr yn unig? A allwch chi wneud ymholiadau brys, Prif Weinidog, i gadarnhau a yw hynny'n gywir?
A hefyd, o ran y sefyllfa economaidd y cyfeiriwyd ati'n gynharach, mae'n amlwg yn destun pryder darganfod bod y cynllun benthyciadau busnes gwerth £100 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru wedi ei danysgrifio'n llawn bellach ar ôl wythnos. A allwch chi ddweud pryd a sut yr ydych chi'n bwriadu ei ymestyn?
Ac yn olaf, o ran penwythnos gŵyl banc y Pasg ac anfon y neges gywir, fel yr wyf i'n siŵr y byddwch chi fel Prif Weinidog yn ei wneud, a ydych chi'n credu y byddai'n ddefnyddiol i Lywodraeth y DU, fel yr ydych chi wedi ei wneud, gyhoeddi, cyn y penwythnos, eu bod nhw'n ymestyn y cyfyngiadau symud yn hytrach nag aros i'r tair wythnos ddod i ben yn bendant ddydd Mawrth nesaf, fel y byddai hynny'n anfon y neges gryfaf bosibl bod hwn yn argyfwng cenedlaethol, a nid gwyliau cenedlaethol?