3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ymateb i'r Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 8 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:10, 8 Ebrill 2020

Diolch am y datganiad. Dwi hefyd eisiau talu teyrnged i'r rheini oll sy'n gweithio o fewn y sector bwyd i sicrhau bod bwyd yn ein cyrraedd ni, o'r fferm i'r fforc, fel maen nhw'n ei ddweud. Rŷm ni'n gwerthfawrogi eu hymdrechion nhw, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i fi, Weinidog, os caf i, fynegi siom ynglŷn â'r datganiad, achos dŷn ni prin wedi cael unrhyw beth newydd yn y datganiad yna. Yr hyn rŷm ni wedi'i gael, i bob pwrpas, yw ailadrodd cyhoeddiadau rŷch chi wedi'u gwneud yn flaenorol.

Yr unig beth newydd rŷch chi wedi'i gyhoeddi, i bob pwrpas, yw'r cyhoeddiad rŷch chi wedi'i wneud ynglŷn â drafft rheoliadau NVZ. Wrth gwrs, rŷch chi'n ymwybodol bod hwn yn un o'r pynciau mwyaf dadleuol rŷch chi wedi bod yn ymrafael ag ef ers blwyddyn a mwy, ac mae'n destun gofid a phryder mawr i'r sector. Felly, pam eich bod chi wedi dewis nawr ar gyfer gwneud cyhoeddiad o'r fath? Mae yna rannau helaeth o'r sector ar eu gliniau, fel rŷm ni wedi clywed, ac dwi'n ofni y byddai'n cael ei weld fel rhywbeth antagonistic, fel rhywbeth calon galed, fel rhywbeth creulon. Dwi dal ddim yn deall y rhesymeg ynglŷn â pham nawr. Dwi'n deall mai drafft yw e; dwi'n deall ei fod e ddim yn dod i rym, ond mi fydd y canfyddiad allan yn y wlad yn un, dwi'n meddwl, bydd yn gadael pobl yn crafu pennau ar adeg pan ddylem ni i gyd fod yn ffocysu ar y gwaith sydd angen ei wneud. Oherwydd, mae pwysau aruthrol, fel rŷch chi'n gwybod, ar y sector yn y cyd-destun sydd ohoni.

Dŷch chi ddim wedi dweud dim byd ynglŷn â chefnogaeth fusnes yn eich datganiad. Rŷch chi wedi ymhelaethu ychydig eiliad yn ôl, ond does yna ddim eglurder wedi bod ers wythnosau lawer ynglŷn ag a ydy ffermwyr yn mynd i allu cael mynediad i ryw fath o gymorth busnes. Mae yna ddryswch wedi bod ynglŷn ag a ydy pobl yn gymwys ar gyfer yr hyn sydd wedi'i gyhoeddi. Rŷm ni heddiw, am y tro cyntaf, wedi clywed awgrym efallai eich bod chi yn ystyried rhyw gynllun bespoke. Dwi'n meddwl y byddwn i wedi gwerthfawrogi clywed rhywbeth tebyg i hynny cyn heddiw.

Fel rŷm ni wedi clywed, mae galwadau wedi bod am sicrhau neu ring-fence-io 15 y cant o'r [Anhyglyw.] ar gyfer rhyw fath o top-up i BPS. Mae yna alwadau hefyd, yng nghyd-destun llaeth, wrth gwrs, wedi bod i chi ystyried talu ffi safonol y litr i ffermwyr sy'n gorfod gwaredu eu llaeth. Dwi hefyd wedi clywed nifer o leisiau yn galw am gymryd y gor-gynhyrchiad o laeth allan o'r farchnad trwy, er enghraifft, annog a chynorthwyo proseswyr llaeth i gynhyrchu mwy o gaws, ac i roi ychydig o'r caws yna i mewn i storfeydd. Mae yna nifer o opsiynau posibl, ond dwi'n clywed dim oddi wrthych chi ynglŷn â pha rai o'r rhain ŷch chi yn eu hystyried, os ydych chi o gwbl. Byddwn i wedi gobeithio y byddwn ni wedi cael peth o'r wybodaeth yna heddiw.

Dwi'n nodi eich bod chi'n dweud ychydig am brofion TB yn eich datganiad chi. Wrth gwrs, y realiti yw mi fydd mwy a mwy o ffermwyr yn gorfod hunan-ynysu, mi fydd llai a llai o filfeddygon ar gael i fynd i wneud y profion yma, ac felly, fel y bydd amser yn mynd yn ei flaen, bydd mwy a mwy o ffermydd yn gorfod cael eu cloi i lawr. Felly, pa ystyriaeth ŷch chi'n rhoi i ryw fath o gonsesiwn sy'n seiliedig ar risg? Yn amlwg, dŷn ni ddim eisiau lledaenu TB, ond dŷn ni ddim chwaith eisiau lledaenu COVID-19 trwy orfodi pobl neu i gael pobl i ddod i brofi ar eu ffermydd. Felly, dwi ddim yn clywed oddi wrthych chi sut ŷch chi'n mynd i geisio taro'r cydbwysedd yna.

Rŷch chi'n iawn pan ŷch chi'n dweud bod y sector pysgodfeydd angen cymorth. Yn sicr, maen nhw wedi bod yn aros i glywed oddi wrthych chi. Dŷn ni'n gwybod, er enghraifft, bod pysgotwyr yn Iwerddon erbyn hyn yn cael €350 yr wythnos gan y Llywodraeth, ac yn Ffrainc, €300 yr wythnos. Mae pysgotwyr yn yr Alban yn mynd i dderbyn 50 y cant o'u henillion blynyddol cyfartalog am o leiaf y tri mis nesaf. Allwch chi esbonio pa fath o gynllun rŷch chi'n sôn amdano fe? Ydy e ar hyd y llinellau hynny? Jest inni gael rhyw well syniad na'r hyn rŷm ni wedi clywed hyd yn hyn.

Dwi'n ymwybodol mai'r Dirprwy Weinidog llywodraeth leol sy'n gyfrifol am lwybrau cyhoeddus, ond mae hwn yn rhywbeth, wrth gwrs, sydd yn pwyso ar feddyliau nifer o deuluoedd amaethyddol. Fyddwn i ddim, wrth gwrs, yn dadlau y dylid cau pob llwybr cyhoeddus, ond mae yna rai etholwyr, enghraifft, wedi cysylltu â fi sydd â phobl fregus yn byw yn eu cartrefi nhw—pobl sydd â'r risg fwyaf pe bai nhw yn cael COVID-19—mae yna lwybrau cyhoeddus yn pasio heibio eu tai nhw, heibio neu ar draws buarth y fferm, yn agos i'r tŷ. Oni allwch chi sicrhau bod yna elfen yn cael ei chyflwyno lle mae yna achosion tebyg yn medru cael eu delio â nhw mewn ffordd fwy cyson ar draws Cymru, yn hytrach nag, fel rŷn ni wedi clywed, ar ffurf digon random ac ad hoc fel y mae hi ar hyn o bryd? Diolch.