2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 22 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:35, 22 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae’r coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus yn ogystal ag argyfwng economaidd. Bydd y Gweinidogion sy’n bennaf gyfrifol am y ddau faes portffolio hyn yn gwneud datganiadau y prynhawn yma am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i’r feirws. Ychydig iawn o feysydd mewn bywyd cyhoeddus sydd heb gael eu heffeithio gan y coronafeirws, a’r prynhawn yma, byddaf yn canolbwyntio ar y mesurau rydym yn eu cymryd ar draws portffolios eraill.

Lywydd, effeithiwyd ar sawl agwedd ar y maes tai, o bryderon am bobl heb gartrefi i fyw ynddynt, i bobl sy'n teithio i Gymru i'w hail gartrefi. Ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, rydym wedi darparu cyngor cynhwysfawr am y gefnogaeth sydd ar gael i denantiaid yng Nghymru, gan gynnwys gwybodaeth am fudd-daliadau, help gyda rhent, talu biliau a dyledion. Rydym wedi darparu gwybodaeth i landlordiaid ac asiantau yn y sector rhentu preifat ac arweiniad i awdurdodau lleol ynglŷn â sut y gallant barhau i orfodi safonau mewn eiddo rhent i gadw pobl yn ddiogel.

Rydym yn parhau i gael adroddiadau wythnosol gan brif gwnstabliaid ledled Cymru ar orfodi rheoliadau. Gadewch imi ddweud yn glir unwaith eto: nid yw teithio i ail gartref yn daith hanfodol, ac mae'r heddlu yng Nghymru yn atal pobl rhag ceisio gwneud hynny, a byddant yn parhau i wneud hynny.

Mewn gofal cymdeithasol, rydym wedi darparu £40 miliwn ychwanegol i gynorthwyo gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion gyda’r costau uwch y mae'r sector yn eu hwynebu. Daw'r cyllid hwn yn uniongyrchol o'n cyllideb ein hunain, ac mae'n rhan o'r gronfa ymladd gwerth £1.1 biliwn rydym wedi'i chreu i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i’r coronafeirws.

Gwn fod llawer o Aelodau wedi mynegi pryderon am bobl sydd wedi dewis taliadau uniongyrchol ac sy'n cyflogi eu cynorthwywyr personol eu hunain, ac ers i'r Senedd gyfarfod ddiwethaf, rydym wedi darparu gwybodaeth benodol i bobl yn y sefyllfa honno. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi lansio cerdyn ar gyfer yr holl weithwyr gofal cymdeithasol i helpu i'w nodi fel gweithwyr gofal hanfodol, ac felly i gael mynediad at yr help a'r cymorth sydd ar gael iddynt.

Lywydd, mae’r feirws wedi cael effaith aruthrol ar addysg a gofal plant. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau i weithwyr gofal hanfodol a rhieni plant agored i niwed ynglŷn â sut y gallant gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn yr amgylchiadau presennol, ac rydym yn gweithredu’r cynnig gofal plant estynedig i blant gweithwyr allweddol a gyhoeddwyd gan Julie Morgan ar 6 Ebrill. I lawer o bobl ifanc, mae hon yn adeg o drallod a phryder. Mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi £1.25 miliwn o gyllid ychwanegol i ddarparu cymorth iechyd meddwl ychwanegol i blant, gan helpu gwasanaethau cwnsela mewn ysgolion i ymdopi â'r cynnydd a ragwelir yn y galw. Mae'r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd diwrnod canlyniadau Safon Uwch a Safon UG yn cael ei gynnal fel y trefnwyd yn wreiddiol ar 13 Awst, ac ar 20 Awst ar gyfer TGAU—yr un dyddiadau, felly, â Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Ddoe, Lywydd, Cymru oedd cenedl gyntaf y DU i gadarnhau cyllid ychwanegol i warantu prydau ysgol am ddim i blant yn ystod y pandemig. Bydd £33 miliwn o gymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol yn y maes hanfodol hwn.

Bythefnos yn ôl, atebodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, gwestiynau yn y Senedd. Mae hi wedi parhau i gyfarfod â chynrychiolwyr diwydiant o sectorau ffermio, pysgota, coedwigaeth, amgylchedd a bwyd a diod Cymru i drafod eu heriau penodol. Mae grant newydd ar gael bellach i gynorthwyo busnesau pysgota i dalu'r costau sefydlog sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar gwch pysgota, ac mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwasanaeth ar-lein pwrpasol i baru cyflogwyr â phobl sy'n chwilio am waith yn y sector amaethyddol, y sector tir neu'r sector milfeddygol. Bydd y gwasanaeth hwnnw'n helpu i lenwi swyddi gwag dros y misoedd nesaf, gan fynd i'r afael â phrinder gweithwyr o ganlyniad i’r feirws.

Lywydd, hoffwn gloi drwy edrych tua'r dyfodol. Ddydd Iau, cytunodd pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig fod yn rhaid i'r cyfyngiadau aros gartref barhau am dair wythnos arall fan lleiaf. Nid nawr yw'r amser i afradu'r holl ymdrechion rydym wedi'u gwneud, yn enwedig gan fod yna arwyddion fod rhai ohonynt yn dechrau dwyn ffrwyth. Ond mae'n bwysig iawn pwysleisio bod bygythiad y coronafeirws ymhell o fod ar ben. Yn anffodus, bydd bywydau’n dal i gael eu colli yn y dyddiau i ddod, a gwn y bydd pob Aelod yn awyddus i gymryd eiliad i gofio’r 600 a mwy o bobl nad ydynt gyda ni mwyach, a’r galar a’r trallod y mae hyn yn parhau i’w achosi i’r rheini sydd agosaf atynt.

Nawr, ni wneir unrhyw benderfyniad i leddfu cyfyngiadau tan y bydd y dystiolaeth feddygol a gwyddonol yn glir fod yr amser yn iawn i wneud hynny. Bydd y broses yng Nghymru'n ofalus, yn bwyllog ac yn raddol. Ni ellir dychwelyd yn syth i'r ffordd o fyw roeddem yn ei mwynhau cyn i'r pandemig ddechrau. A Lywydd, pan ymwelais â’r Senedd am y tro cyntaf o dan ein trefniadau newydd, roeddem yn dal i wynebu'r pryder realistig y gallai lledaeniad y coronafeirws gyflymu yng Nghymru i’r graddau lle gallai ein GIG fod wedi cael ei orlethu. Mae’r ffaith nad yw hynny wedi digwydd yn deyrnged i'r gwaith aruthrol a wnaed mewn cyfnod mor fyr i ehangu capasiti’r gwasanaeth a'r ymdrechion y mae dinasyddion Cymru wedi'u gwneud i leihau lledaeniad y feirws yn y gymuned. Heddiw, mae nifer y cleifion yn ysbytai Cymru oherwydd y coronafeirws wedi sefydlogi ac mae nifer y derbyniadau newydd yn gostwng. Mae dros hanner ein capasiti gofal critigol estynedig ar gael o hyd. Mae mwy na 3,000 o welyau ysbyty acíwt yn yr un sefyllfa, ac mae'r ddau ffigur wedi gwella eto dros yr ychydig ddyddiau diwethaf. Oherwydd y platfform hwnnw a grëwyd, gallwn ddefnyddio'r wythnosau nesaf i baratoi; i gytuno ar set gyffredin o fesurau gwrthrychol i nodi'r pwynt lle mae'n ddiogel i ddechrau codi’r cyfyngiadau. Bydd y mesurau hyn yn dweud wrthym pryd y gallwn symud ymlaen o'r sefyllfa bresennol.

Bydd risg y bydd y feirws yn dechrau lledaenu eto. Felly, mae angen inni osod mesurau iechyd y cyhoedd cryf i gadw llygad ar y sefyllfa, fel y gallwn nodi unrhyw achosion lleol yn gyflym ac ymateb yn effeithiol. Yng Nghymru, rydym wedi cynnal gwasanaeth iechyd cyhoeddus cenedlaethol gyda phresenoldeb lleol cryf, ac mae’n rhaid inni ddefnyddio hyn fel sail i'n hymateb. Mae’n rhaid inni ddysgu hefyd o brofiad rhyngwladol. Mae rhai gwledydd yn Ewrop a thu hwnt eisoes yn codi cyfyngiadau. Byddwn yn defnyddio'r wythnosau nesaf i ddysgu o'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw’n gweithio mewn rhannau eraill o'r byd.

Lywydd, yn olaf, byddwn hefyd yn defnyddio'r cyfnod hwnnw i gynllunio ar gyfer dyfodol Cymru y tu hwnt i’r coronafeirws drwy gynnwys arbenigedd a phrofiad o'r tu allan i'r Llywodraeth. Byddwn yn sefydlu grŵp o bobl o Gymru a thu hwnt i herio ein syniadau, i gyfrannu syniadau newydd, ac felly i'n helpu i gynllunio ar gyfer adfer. Rydym wedi rhoi ein fframwaith ar gyfer gwneud hynny ar waith ac edrychaf ymlaen at drafod y cynllun hwnnw a'r llwybr hwnnw tua’r dyfodol gyda'r Senedd dros yr wythnosau i ddod.