Part of the debate – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 22 Ebrill 2020.
[Anghlywadwy.]—am y camau diweddaraf wrth i'r Llywodraeth ymateb i'r argyfwng coronafeirws.
Rydym wedi parhau i gyhoeddi cymorth ariannol i gefnogi unigolion ac i helpu gwasanaethau i ymateb i'r argyfwng. Rydym yn dal ati i gydweithio'n agos gyda phartneriaid yn llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd a'r holl wasanaethau cyhoeddus eraill i sicrhau bod pob cymorth angenrheidiol mewn lle. Rydym yn ddiolchgar iawn i bobl Cymru am ddilyn y cyngor pwysig i amddiffyn iechyd pawb. Rydym hefyd yn dechrau cynllunio am y dyfodol pan fyddwn yn dod allan o'r sefyllfa bresennol. Byddwn yn edrych yn ofalus ar y dystiolaeth cyn gwneud unrhyw newidiadau. Byddwn yn tynnu i mewn syniadau i'n helpu ni gyda'r gwaith pwysig yma.