Part of the debate – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 22 Ebrill 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ac a gaf fi adleisio eich sylwadau, Brif Weinidog, a chydymdeimlo â'r teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig hwn?
Wrth i bandemig COVID-19 barhau i effeithio ar deuluoedd, cymunedau a busnesau ledled y wlad, mae'n hanfodol ein bod yn gwneud ein gorau glas i nodi'r bygythiad a thrin y rheini yr effeithiwyd arnynt cyn gynted â phosibl. Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch adolygiad cyflym o system brofi Cymru yn gam hanfodol ymlaen, nid yn unig er mwyn gweld lle mae problemau'n codi gyda chynnal y profion, ond hefyd i sicrhau bod y broses o wneud hynny’n fwy effeithlon o lawer. Rwy'n sylweddoli y bydd y Gweinidog iechyd yn gwneud datganiad ar rai o'r materion hyn maes o law, ond chi, wrth gwrs, sy'n gyfrifol am strategaeth gyffredinol y Llywodraeth, felly a allwch chi ddweud wrthym pa ganfyddiadau cychwynnol a wnaed gan adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru a pha fath o amserlenni a roddwyd ar waith i wneud unrhyw newidiadau newydd i'r system? Gwyddom na chyrhaeddwyd y targed o 5,000 o brofion y dydd erbyn canol mis Ebrill, ac mae'n amlwg iawn na fydd yn agos at 9,000 o brofion yn cael eu cynnal erbyn diwedd y mis hwn fel yr addawyd yn wreiddiol. Mewn gwirionedd, gwyddom fod llawer llai na 1,000 o brofion y dydd wedi'u cynnal ar rai dyddiau. Felly, a bod yn ddi-flewyn-ar-dafod, Brif Weinidog, pam fod cyn lleied o brofion yn cael eu cynnal a pham fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei thargedau, gan ei bod yn bwysig fod ein gweithwyr allweddol ar y rheng flaen yn cael eu profi cyn gynted â phosibl er mwyn eu cadw'n ddiogel? Mae'n amlwg fod capasiti yn y system nad yw'n cael ei ddefnyddio i brofi gweithwyr allweddol ar y rheng flaen ac nad yw canolfannau profi cymunedol a chanolfannau gyrru i mewn ledled Cymru yn gweithredu'n llawn o hyd. Felly, a allwch ddweud wrthym pryd rydych yn rhagweld y bydd pob canolfan brofi ar gyfer gweithwyr allweddol ar agor fel y gallwn gael syniad o leiaf ynglŷn â phryd y bydd profion yn cael eu cynnal ym mhob rhan o Gymru?
Nawr, ar ddechrau'r pandemig hwn, codais bwysigrwydd cyrraedd y rheini sy'n byw ac yn gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol ac fe gyfeirioch chi at hyn yn eich datganiad heddiw, ac mae'n drueni na wnaed mwy yn gynharach i fynd i'r afael ag effaith coronafeirws mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Ar y pryd, fe ddywedoch chi fod her benodol yng Nghymru, gan fod y sector yn cynnwys cymaint o bobl sy’n berchen ar un neu ddau o gartrefi gofal preswyl yn unig, ac felly mae sicrhau bod negeseuon yn cyrraedd pobl yn fwy o her pan fydd gennych nifer fawr o bobl, a phobl nad ydynt o reidrwydd mor gyfarwydd ag ymdrin â gofynion â'r cwmnïau mawr, sydd wedi hen ymsefydlu a chanddynt yr adnoddau i wneud hyn. O ystyried bod preswylwyr cartrefi gofal mewn mwy o berygl o wynebu cymhlethdodau difrifol yn sgil y feirws, ac rydym bellach yn gweld mwy o achosion yn cael eu cofnodi mewn cartrefi gofal, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn awr i hwyluso cymorth i'r rheini sy'n byw, ac yn wir, yn gweithio yn y sector?
Brif Weinidog, nododd y Gweinidog iechyd yn glir ddoe fod sicrhau digon o gyfarpar diogelu personol yn fwy o flaenoriaeth na heriau profi am y coronafeirws. Nawr, fe fyddwch yn gwybod bod Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, ac eraill yn wir, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ddiogelu cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol yn ogystal â galw ar y Llywodraeth i beidio â gwanhau'r canllawiau er mwyn cuddio prinder, ac i gynnal archwiliad cyflym ar draws y byrddau iechyd i sicrhau bod cyfarpar diogelu personol yn cael ei ddosbarthu'n effeithiol i bob lleoliad gofal. Mae'n annerbyniol fod 74 y cant o staff nyrsio wedi mynegi pryderon am gyfarpar diogelu personol a bod dros hanner y staff nyrsio wedi teimlo pwysau i ofalu am glaf heb amddiffyniadau digonol. Felly, a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cynnal archwiliad cyflym o gyfarpar diogelu personol yn awr ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru, yn ogystal â chadarnhau pa gamau brys sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gan weithwyr allweddol yng Nghymru fynediad at y cyfarpar diogelu personol sydd ei angen arnynt?