2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 22 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:47, 22 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, diolch i Paul Davies am ei gwestiynau. Gadewch imi ddweud yn glir fod profion yn cael eu cynnal ym mhob rhan o Gymru. Mae dros 20,000 o brofion wedi'u cynnal yng Nghymru yn ystod argyfwng y coronafeirws. Mae 40 y cant o'r profion hynny ar gael i staff gofal iechyd ar y rheng flaen. Mae angen gwneud mwy i symleiddio'r broses o nodi staff gofal cymdeithasol yn benodol a chynnig profion iddynt wedyn yn y gwahanol ganolfannau sydd gennym, a dyna un o gasgliadau allweddol yr adolygiad cyflym y cyfeiriodd Paul Davies ato. Mae angen inni symleiddio'r broses honno gan barhau i ddiogelu agweddau diogelwch hanfodol y system. Mae'n bwysig iawn fod yr unigolyn iawn yno ar yr adeg iawn yn y lle iawn ar gyfer y prawf iawn. Mae'n haws dweud na gwneud yr holl bethau hynny pan fo gennych boblogaeth wasgaredig iawn, ac angen rhoi lefel benodol o sicrwydd i bawb ohonynt. Ond clywsom gan bennaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru heddiw—rhai ohonom—fod rhai o'r camau a gymerwyd ar unwaith yn cyflymu eu gallu i brofi staff gofal cymdeithasol, a bod mwy o brofion yn cael eu cynnal o ganlyniad i hynny. Cynigiodd yr adolygiad cyflym y dylem adrodd yn wythnosol ar nifer y profion sydd ar gael, nifer y profion sy'n cael eu cynnal, a'r camau sydd ar waith i gynyddu hynny bob wythnos, a dyna fyddwn ni'n ei wneud. Bydd mwy o brofion ar gael erbyn diwedd yr wythnos hon nag ar ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, a chredaf y bydd mwy o bobl yn cael y profion hynny wrth inni symleiddio'r broses atgyfeirio.

Lywydd, credaf i Paul Davies roi disgrifiad da iawn o rai o'r heriau mewn perthynas â chyfleu gwybodaeth ac agweddau eraill i'r sector cartrefi gofal, o ystyried ei natur yma yng Nghymru. Ond rydym yn gweithio'n agos gyda Fforwm Gofal Cymru; unwaith eto, hoffwn ddiolch iddynt am bopeth y maent yn ei wneud i gryfhau eu gallu i sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y rheng flaen honno. Nid oes unrhyw awgrym yn unman ein bod yn gwanhau'r canllawiau. Roeddem yn rhan o’r adolygiad cyflym o ganllawiau dan arweiniad Llywodraeth y DU sydd wedi arwain at roi hawl i nifer fwy o bobl yn y sector gofal yn arbennig i gael cyfarpar diogelu personol, ac rydym yn cydymffurfio â’r canllawiau hynny ac yn eu gweithredu yma yng Nghymru. O ganlyniad i hynny, byddwn wedi darparu 48 miliwn eitem o gyfarpar diogelu personol o storfeydd yma yng Nghymru—gyda 40 y cant o gyflenwadau ein storfeydd pandemig yn mynd i ofal cymdeithasol. Y frwydr sydd gennym yw ailgyflenwi'r stociau hynny mewn marchnad sy'n gystadleuol yn fyd-eang. Gwyddom eisoes ble mae ein stociau a faint sydd gennym wrth gefn. Rydym yn cynnal ymarferion rheolaidd i sicrhau ein bod yn cael yr adroddiadau diweddaraf o bob rhan o'r system am y storfeydd a gedwir, neu wahanol eitemau mewn gwahanol rannau o Gymru. Wrth inni ddefnyddio cyflenwadau a ddaw i Gymru o'r tu allan, rydym yn gweithredu mor gyflym ag y gallwn i sicrhau bod y storfeydd hynny'n cael eu gwasgaru i'r gwahanol ganolfannau, a'u bod wedyn yn cael eu trosglwyddo ymlaen i'r 640 practis meddyg teulu sydd gennym yng Nghymru, y 715 o fferyllfeydd sydd gennym yng Nghymru, yr oddeutu 1,000 o gartrefi gofal sydd gennym yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gweld bod hwn yn ymarfer logistaidd enfawr ac yn un sy'n cymryd cryn dipyn o amser, ymdrech ac ymrwymiad gan bobl ymroddedig sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd ac mewn llywodraeth leol ledled Cymru.