Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 22 Ebrill 2020.
Ar y pwynt olaf a godwyd gan Angela Burns ynglŷn â chasglu a defnyddio data, rwy'n hapus i adolygu'r data er mwyn inni allu bod yn fwy sicr am ei gywirdeb a sut y caiff ei ddefnyddio wedyn i fynd i'r afael â meysydd gwella a dysgu ar draws y system. Rwy'n credu ei bod bob amser yn bwynt teg i feddwl ynglŷn â sut rydym yn adolygu'r hyn rydym yn ei wneud a pham a sut y caiff gwybodaeth ei defnyddio i'n galluogi i wella.
O ran cyllid, rwyf am ailddatgan yr hyn a ddywedais ddoe: ni fydd yr un bwrdd iechyd lleol yn cael ei gosbi am y camau y maent wedi'u cymryd wrth ymateb i'r bygythiad unwaith mewn canrif y mae coronafeirws yn ei greu. Rwyf wedi siarad yn rheolaidd â chadeiryddion a phrif weithredwyr ar draws teulu'r GIG ac nid oes unrhyw un wedi tynnu fy sylw o gwbl at bryderon ynglŷn â sut y bydd y cyllid yn cael ei gysoni ar ryw adeg yn ystod y flwyddyn, ond pwynt o gywirdeb yn unig yw'r ffaith nad ydym yn sicr ynglŷn â'r symiau canlyniadol. O'r prif ddatganiadau a wneir, rhaid inni drosi'r hyn a ddaw i Gymru mewn gwirionedd.
A'r pwynt arall na all yr un ohonom ei osgoi yw'r ffaith nad ydym yn gwybod sut yn union y mae coronafeirws yn datblygu a hyd a lled y straen a'r pwysau y bydd yn eu cynhyrchu, nid yn unig mewn perthynas â'r adnoddau ychwanegol sylweddol rydym wedi'u darparu i greu rhwydwaith o ysbytai maes, ond wrth gwrs, y pwysau sylweddol a pharhaus i ddarparu cyfarpar diogelu personol a phwysau'r gost real iawn y mae hynny'n ei olygu ynddo'i hun, a chydbwyso hynny â gweithgarwch arall nad yw'n digwydd lle nad yw'r costau'n codi ond lle caiff y staff hynny eu hadleoli i raddau helaeth. Felly, nid yw'r modd y mae arian yn symud o amgylch y system yn sicr, ond i ailddatgan: ni fydd unrhyw fwrdd iechyd, nac unrhyw ymddiriedolaeth yng Nghymru, yn cael eu cosbi am y gweithgarwch y maent yn ei wneud i gadw pob un ohonom yn ddiogel.
Ar gynnal profion, rydym wedi cyrraedd 1,800 o brofion heddiw. Bob bore dydd Mawrth, byddaf yn cyhoeddi diweddariad ar y cynnydd mewn profion a'r rhagolygon, ac yn ddiweddarach heddiw, byddaf yn cadarnhau nifer o ffigurau eraill. Ond o ran yr amserlen ar gyfer profi, fy nealltwriaeth i yw y dylwn allu cadarnhau pan fyddaf wedi cyhoeddi materion heddiw—ac mae'n destun gofid i mi nad oeddwn yn gallu gwneud hyn cyn y sesiwn heddiw—fod dros 90 y cant o bobl yn derbyn eu canlyniadau o fewn deuddydd i gynnal y prawf. Rydym wedi cynnal dros 27,000 o brofion yma yng Nghymru, ac ar sail y pen o'r boblogaeth mae hynny'n golygu ein bod yn cynnal mwy o brofion na'r Alban a Lloegr. Felly, mewn gwirionedd, mae ein cyfradd weithgarwch yn cymharu â gwledydd eraill y DU. Mae'r her sy'n ein wynebu yn ymwneud nid yn unig â'r hyn rydym ei angen yn awr i sicrhau bod gweithwyr hanfodol, gan gynnwys staff iechyd a gofal cymdeithasol ar y rheng flaen, gwasanaethau brys eraill a phartneriaid eraill yn cael y prawf, ond yn amlwg, y pwynt rwyf wedi'i wneud dro ar ôl tro ynglŷn â graddau'r profi rydym ei angen cyn cefnu ar y cyfyngiadau symud er mwyn sicrhau ein bod yn profi ar raddfa lawer mwy sylweddol a gwasgariad a mynediad at y profion hynny hefyd.
Ar gyfarpar diogelu personol, hoffwn ailddatgan: rydym ymhell o fod yn llaesu dwylo neu'n hunanfodlon ynglŷn â'n sefyllfa. Rydym yn gwybod ein bod yn gweithredu gyda'r rhagdybiaeth y byddwn yn cael cyfarpar diogelu personol, ond rydym yn dibynnu ar gyflenwadau a ddaw i mewn bob wythnos i wneud yn siŵr ein bod yn ddiogel. Nid yw'r sefyllfa o ran gwisgoedd atal hylif a welsom yn Lloegr dros y penwythnos yn rhywbeth sy'n rhoi unrhyw gysur i ni am nad oeddem yn y sefyllfa honno, oherwydd gwyddom ein bod angen cyflenwadau rheolaidd i sicrhau nad ydym yn y sefyllfa honno lle mae'n rhaid inni ailystyried beth i'w wneud os nad yw'r ffynhonnell gyntaf o gyfarpar diogelu personol ar gael i ni ac i'n staff. Ni allaf roi cyfanswm y nifer o eitemau cyfarpar diogelu personol rydym wedi'u caffael y tu allan i lwybrau prynu'r pedair gwlad, ond rydym yn parhau i fynd drwy bob un o'r cyfleoedd sy'n cael eu cyflwyno i'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol. Rydym yn awyddus i edrych ar gyfleoedd unigol i gydweithio â gwledydd eraill y DU. Ac mae hynny'n dal i ddigwydd yn ogystal â'n trefniadau caffael pedair gwlad. A'r hyn rydym wedi cytuno i'w wneud yw bod yn agored gyda'n gilydd ar draws y pedair Llywodraeth ynglŷn â faint sydd gennym o bob eitem. Oherwydd y cyd-gymorth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato a ddarparwyd gennym i Ogledd Iwerddon, efallai ein bod yn disgwyl i'r cyd-gymorth hwnnw gael ei ddarparu yn y dyfodol, boed o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Felly, mae'r tryloywder rydym ei angen yn bwysig iawn i wneud i hyn weithio oherwydd mae'r farchnad rydym ynddi mor gystadleuol ac mor ansicr fel na fydd ymagwedd cenedl unigol o fudd i'n staff na'r cyhoedd. Ond rwy'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ein sgyrsiau rheolaidd ynglŷn â'n sefyllfa a'r cwestiynau y gwn eich bod yn eu gofyn mewn gohebiaeth hefyd. Rwy'n hapus i wneud hynny.