3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 22 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:59, 22 Ebrill 2020

Gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y diweddariad ac am ein sgyrsiau rheolaidd ni? Rydw i'n falch gallu gofyn y cwestiynau mewn fforwm gyhoeddus fel hyn. Gaf i gymryd y cyfle yma hefyd i ddiolch i'r holl weithwyr allweddol hynny mewn iechyd a gofal a meysydd allweddol eraill sydd yn gweithio mor, mor galed ar ein rhan ni gyd ar hyn o bryd?

Yn gyffredinol, dwi'n meddwl bod yna nifer o feysydd sydd dal yn sefyll allan: diffyg profion; pryderon am offer diogelwch neu PPE yn dal yn broblem wirioneddol ar lawr gwlad, ac ymhlith y rheini sydd ar y rheng flaen, wrth gwrs. Dydyn ni ddim yn profi digon. Does yna ddim cynlluniau i brofi digon, a does gan wasanaethau, yn enwedig y gwasanaethau gofal, dwi'n meddwl, ddim yr hyder y buaswn i'n licio eu gweld nhw yn ei gael yn ein cyflenwadau, wrth inni edrych ar yr wythnosau sydd o'n blaenau ni.