Part of the debate – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 22 Ebrill 2020.
Gadewch imi ganolbwyntio ar ychydig o'r materion allweddol hynny, felly. Rwy'n meddwl bod llawer o ddryswch o hyd ynglŷn â phrofi. Fel y gwyddoch, Weinidog, rwy'n dal i fod heb fy argyhoeddi gan safbwynt Llywodraeth Cymru ar brofi. Cawsom wybod eto heddiw fod ychydig dros 20,000 o bobl wedi cael eu profi yng Nghymru hyd yn hyn, ond i roi hynny yn ei gyd-destun: o dan y targedau gwreiddiol, byddem wedi profi 20,000 ers bore Llun. Nawr, ni fyddech wedi dewis y targedau gwreiddiol—8,000 y dydd a mwy erbyn hyn—allan o unman; byddent wedi bod yn seiliedig ar gyngor. Gwyddom mai cyngor Sefydliad Iechyd y Byd yw bod profi yn rhan allweddol o'r frwydr yn erbyn coronafeirws, felly a allwch egluro pa newid a fu yn y cyngor a roddir ichi ar werth profi, oherwydd rydym wedi mynd o'r targed o 8,000 neu 9,000 y dydd i tua 1,000? Rydych newydd ddweud funud yn ôl ei fod yn 1,800 heddiw. Nawr, mae'n gapasiti o 1,800 heddiw; roedd yn llai na 1,000 o brofion ddoe, felly mae angen inni wybod beth sy'n cael ei ddweud yn wahanol wrthych.
Ddoe, dywedwyd wrthym fod llai o ledaeniad nag a feddyliom: oes, ond mae hynny oherwydd y cyfyngiadau symud, oherwydd cadw pellter cymdeithasol effeithiol; mae'n gweithio'n well nag yr oeddem wedi'i ofni o bosibl. Nid yw'n gwneud y firws yn llai heintus, felly onid oes angen inni gael profion cymunedol effeithiol ar waith cyn y gallwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud? Yn wir, oni ddylem ddweud na allwn roi'r gorau i'r cyfyngiadau symud? Ni allwn gael gwared ar y cyfyngiadau i raddau sylweddol hyd nes y bydd gennym brofion cymunedol ar waith, ac mae angen cynllun i wneud hynny. Nid yw'n ymddangos bod gennym un, neu nid wyf wedi fy argyhoeddi bod gennym un, felly a all y Gweinidog gysoni'r anomaledd hwnnw i ni? Sut y gallwn ddatblygu ein profion yn barod ar gyfer llacio'r cyfyngiadau heb fod gennym lwybr i'w ddilyn ar gyfer cynyddu niferoedd y profion?
A dywedodd y Prif Weinidog heddiw nad oes gennym broblem capasiti. Os nad oes gennym broblem capasiti, pam eich bod chi, yn gwbl briodol, yn rhoi £50 miliwn tuag at gynyddu capasiti? Yn ôl yr hyn a welaf i, nid ydym yn cyrraedd y capasiti hwnnw'n ddigon cyflym. Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn ymwneud â'r ffaith nad oes digon o bobl yn mynd i gael profion. Wel, beth am gael polisi sy'n annog pobl i wneud hynny, fel model profi cymunedol sy'n tyfu, fel ein bod yn adeiladu tuag at roi'r gorau i'r cyfyngiadau? Mae pob un ohonom am iddo ddigwydd cyn gynted â phosibl, ond ni allwn ei wneud hyd nes ein bod yn gwybod bod yr amser yn iawn.
Gadewch imi droi at gyfarpar diogelu personol: pryder gwirioneddol. Dau beth sydd angen i ni ei wybod, wrth gwrs: fod gennym ddigon o gyfarpar diogelu personol ar y silffoedd yn awr, a'r wythnos hon a'r wythnos nesaf ar gyfer y rhai sydd eu hangen. O'r hyn rwy'n ei ddeall, rwy'n meddwl ein bod yn weddol agos ati ar y funud, sy'n beth da, er fy mod yn dal i glywed am broblemau, yn enwedig yn y sector gofal. Yn y tymor hwy, fodd bynnag, y pryderon a glywaf yw bod diffyg hyder yn yr hyn sydd ar ei ffordd yn yr wythnosau nesaf, faint ohono, ac yn hollbwysig, beth yw'r amserlenni cyflenwi er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd y mannau lle mae ei angen. Nawr, a allwn ddisgwyl cael y math hwnnw o gynllun manwl? A chyda'r fyddin, yn ôl yr hyn a ddeallaf, wedi bod yn cynorthwyo gyda'r adolygiad o ddosbarthiad, a ellir rhannu canlyniadau'r adolygiad hwnnw fel ffordd o roi hyder i bobl?
Mae gennyf ddiddordeb mewn gwybod hefyd—ac rwyf wedi gofyn i'r Gweinidog droeon—lle rydym arni o ran gallu cyrchu ein cyfarpar diogelu personol ein hunain yn rhyngwladol, yn ogystal â bod yn rhan o'ch cydymdrechion pwysig ar draws y DU. Rydym yn gwybod y cefndir: cyflenwyr yn Lloegr yn gwrthod gwerthu cyfarpar diogelu personol i gartrefi gofal yng Nghymru; awyrennau'n llawn o gyfarpar diogelu personol yn glanio yn yr Alban; archeb fawr ar ei ffordd i Ogledd Iwerddon, ond nid oes unrhyw beth tebyg i hynny'n digwydd yma. Felly, os ydym yn cyflwyno archebion o'r fath ein hunain, a chael ein cyflenwadau ein hunain—o Tsieina, er enghraifft—mae hynny'n wych; mae'n newyddion da. Efallai y gallwn ofyn ichi rannu manylion yr archebion hynny heddiw. Ond rydym hefyd yn clywed am Lywodraeth y DU yn dweud wrth y gweinyddiaethau datganoledig, 'Ni chewch chi gaffael drosoch eich hunain yn rhyngwladol mwyach.' Efallai y gallwch ddweud wrthym a ydych wedi cael cyfarwyddyd o'r fath.
Y trydydd maes i holi yn ei gylch yn fyr: a gaf fi ofyn pa waith sy'n cael ei wneud ar gyfarpar diogelu personol i'w ddefnyddio gan y cyhoedd? Rwy'n credu bod tystiolaeth gynyddol y gallai gwisgo masgiau fod yn ddefnyddiol er mwyn arafu'r trosglwyddiad pan fydd rheoliadau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu llacio. Felly, yn ychwanegol at gyfarpar diogelu personol at ddefnydd proffesiynol, pa gynlluniau sy'n cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru ar gyfer caffael neu gynhyrchu neu ddosbarthu masgiau at ddefnydd y cyhoedd, oherwydd mae'n ddigon posibl y bydd pawb ohonom eu hangen yn fuan?
Ac yn olaf—cwestiwn gennyf fi hefyd ar ddata. Rydym yn cael y data dyddiol ar farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID mewn ysbytai, ac mae oedi yn y broses o gofrestru marwolaethau. Rydym wedyn yn aros i weld ffigurau marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID yn y gymuned hefyd, sy'n awgrymu, rwy'n credu, fod tua thraean yn fwy yn marw'n uniongyrchol o COVID o ran cyfanswm nag y mae'r ffigurau dyddiol swyddogol o ysbytai yn ei ddangos. Ond ar ben hynny, mae gennym y marwolaethau trasig sy'n digwydd—marwolaethau nad ydynt yn rhai COVID, ond marwolaethau na fyddent wedi digwydd yn ôl pob tebyg oni bai am y cyfyngiadau presennol: pobl ddim yn mynd am driniaeth amserol, ddim yn mynd at y meddyg ac yn y blaen. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cymharu cyfraddau marwolaeth yn awr â'r cyfraddau marwolaeth arferol, a chanfod fod y ffigur bron yn ddwbl yr hyn y byddem fel arfer yn ei ddisgwyl ar draws y DU ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn. Dyna 8,000 yn fwy yn yr wythnos lawn gyntaf o Ebrill. Felly, a allwch ddweud wrthym gydag unrhyw hyder beth gredwch chi yw'r ffigurau cyfredol ar gyfer nifer y marwolaethau yng Nghymru ar hyn o bryd, ac a ydym yn gallu asesu, drwy'r data hwnnw, y camau y gellid eu cymryd i achub bywydau?