Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 22 Ebrill 2020.
Diolch am eich datganiad, Weinidog, ac am ymdrechion parhaus eich adran i helpu i frwydro yn erbyn y clefyd hwn—clefyd sydd wedi lladd bron 200,000 o bobl ym mhob rhan o'r byd. Mae pob un o'r rheini'n annwyl i rywun, ac mae fy nghalon yn gwaedu dros bawb sydd wedi dioddef colled dan law'r lladdwr anweledig hwn. Heb ymdrechion ein GIG, arwyr gofal cymdeithasol a gwirfoddolwyr, byddai llawer iawn mwy ohonom yn dioddef o'r golled honno.
Weinidog, yn ogystal â'n staff gofal cymdeithasol amser llawn, mae gan ofalwyr—cyflogedig a di-dâl—ran hanfodol i'w chwarae yn ystod yr argyfwng hwn. Yn anffodus, nid yw'r rhan hanfodol hon yn cael ei chydnabod bob amser. Mae un etholwr sydd wedi cysylltu â mi wedi dweud wrthyf eu bod yn aml yn cael eu gorfodi i gerdded chwe milltir adref ar ôl gofalu am rywun oherwydd bod trafnidiaeth gyhoeddus wedi'i neilltuo ar gyfer gweithwyr allweddol. Er ei bod yn dangos dogfennau sy'n dweud ei bod yn ofalwr ac yn weithiwr allweddol, gwrthodwyd caniatâd iddi ar fwy nag un achlysur i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod gofalwyr yn weithwyr allweddol ac a wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog trafnidiaeth i sicrhau y caiff ein gofalwyr eu cydnabod yn briodol fel gweithwyr allweddol hanfodol, oherwydd heb eu hymdrechion byddai ein system iechyd a gofal yn cael ei llethu?
Weinidog, mae Llywodraeth y DU hefyd wedi lansio'r bathodyn CARE er mwyn ei gwneud hi'n bosibl i ymdrechion y rhai sy'n gweithio mewn gofal cymdeithasol gael eu cydnabod a'u gwobrwyo. Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau tebyg?
Rwy'n falch o weld bod ein cartrefi gofal yn cael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol, er bod prinder o hyd yn y system drwyddi draw. Rwy'n derbyn bod hon yn broblem fyd-eang. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i wella cynhyrchiant domestig a'i gwneud yn haws dod â chyflenwadau i mewn. Cysylltodd cwmnïau cludo nwyddau â mi i ddweud eu bod yn pryderu ynglŷn â lefel y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â chludo cyfarpar diogelu personol. Er fy mod yn derbyn bod yn rhaid cael archwiliadau i sicrhau effeithiolrwydd cyfarpar diogelu personol, does bosibl na allwn wneud mwy i symleiddio'r prosesau yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn.
Weinidog, rhaid inni hefyd sicrhau ei bod mor syml â phosibl i gwmnïau a sefydliadau weithgynhyrchu cyfarpar diogelu personol. Rwyf wedi cysylltu â gwneuthurwr gwisgoedd priodas yn lleol sy'n dymuno gwneud gwisgoedd a masgiau ar gyfer y GIG. Felly, Weinidog, pa gamau rydych yn eu cymryd i'w gwneud yn haws i gwmnïau o'r fath gyfrannu, ac a wnewch chi ystyried pa gamau y gallwch eu cymryd i symleiddio'r broses, megis darparu templedi, ac ati, yn enwedig ar gyfer masgiau wyneb?
Ceir tystiolaeth gref sy'n awgrymu, pan roddir y gorau i'r cyfyngiadau symud yn y pen draw, y bydd y cyhoedd ar adegau, wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er enghraifft, yn dal i wisgo masgiau wyneb i helpu i gyfyngu ar ledaeniad coronafeirws. Ond ni allwn wneud hynny oni bai bod cyflenwadau digonol o fasgiau wyneb ar gael. Felly, Weinidog, a oes gennych gynlluniau ar y gweill ar gyfer cynyddu'r cyflenwadau hyn?
Ac yn olaf, Weinidog, mae'n rhaid i ni gynllunio, yn amlwg, ar gyfer llacio'r cyfyngiadau presennol yn y pen draw, ac rwy'n ddiolchgar fod Llywodraeth Cymru yn recriwtio pobl i helpu gydag olrhain cysylltiadau ac wedi mabwysiadu'r ap olrhain symptomau. Fodd bynnag, nid oes gan bawb ffôn clyfar, felly pa gynlluniau sydd gennych i wella'r broses o olrhain symptomau ar gyfer y rhai sydd heb ffôn clyfar at eu defnydd?
Diolch ichi, unwaith eto, Weinidog, am eich ymdrechion parhaus.