Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 22 Ebrill 2020.
Un o'r bylchau mwyaf sydd wedi mynnu ein sylw yw'r microfusnes nad yw'n gofrestredig ar gyfer TAW. Nawr, y rheswm pam ein bod wedi cynnwys y maen prawf penodol hwnnw yng ngham 1 y gronfa cadernid economaidd oedd er mwyn osgoi twyll sylweddol, oherwydd ei fod yn ein galluogi i wirio cyfeiriad busnes, bodolaeth busnes. Wrth symud ymlaen, mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno model y buom yn ei ystyried, sef bwrsari yn y bôn. Efallai mai dyna fydd yr opsiwn y byddwn yn ei ddewis. Ond mae un peth yn sicr: rydym eisiau mynd i'r afael â'r rhan arbennig honno o'r economi.
O ran unig fasnachwyr sydd wedi dechrau gweithio'n ddiweddar a rhai o'r bylchau eraill y tynnodd Russell George sylw atynt, mewn sawl ffordd, mae'r rhain yn faterion lles a allai alw am sylw swyddogion sy'n ymwneud â'r gronfa cymorth dewisol, ac ar draws adrannau, rydym yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio cronfa cymorth dewisol estynedig i gau rhai o'r bylchau hyn.
Bu'n rhaid inni sefydlu torbwyntiau ar ryw bwynt ar gyfer lefel y grantiau y byddai busnesau'n eu cael. O ran tapro rhyddhad ardrethi yn y dyfodol, mae'n rhywbeth y byddaf yn sicr yn ei drafod gyda fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog cyllid yn bennaf. A byddwn yn rhannu llongyfarchiadau Russell George i gyngor Powys, sydd wedi bod ar flaen y gad yn gyson, o wythnos i wythnos, yn trosglwyddo grantiau i fusnesau. Yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf, o fewn yr wythnos gyntaf rwy'n credu, llwyddasant i weinyddu 2,000 o grantiau, ac roedd hynny'n drawiadol iawn.
Mae Llywodraeth y DU wedi nodi y bydd yn cyhoeddi perfformiad holl gynghorau Lloegr, ac o gofio bod hynny'n debygol o ddigwydd yn fuan iawn dros y ffin, credaf ei fod yn gwneud synnwyr inni ystyried hynny yma, ond rwyf hefyd wedi gofyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi tabl cynghrair, os mynnwch, o gefnogaeth y stryd fawr i'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws, fel y gallwn wirio pa rai o'r banciau sy'n camu i'r adwy a pha rai sy'n gwneud cam â'u cwsmeriaid.
Gallai cam nesaf cynllun benthyciadau COVID-19 Banc Datblygu Cymru ddenu arian gan Lywodraeth y DU. Rydym yn sicr wedi gofyn amdano ac mae'r banc datblygu ei hun wedi gwneud cais i fod yn fenthyciwr cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Byddai hynny'n cynnig cyfle enfawr o ran gallu darparu mwy o arian yn gynt i fusnesau Cymru. Mae'n ffaith syfrdanol fod Banc Datblygu Cymru, yn wahanol i'r hyn sy'n digwydd gyda'r cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws, wedi ein sicrhau y bydd yn gallu trosglwyddo arian i bob un o'r ymgeiswyr llwyddiannus erbyn diwedd y mis hwn. Bydd yn eithaf trawiadol os llwyddant i gyflawni hynny.
Wrth inni ystyried yr ailosod a'r adfer, bydd cyfleoedd enfawr yn codi. Wrth gwrs, bydd rhai sectorau'n crebachu, bydd rhai sectorau'n newid yn sylweddol, ond bydd llawer o gyfleoedd hefyd, ac rydym eisiau gwneud yn siŵr fod y mecanweithiau cymorth gennym yn eu lle. Mae cryn dipyn o feddwl ar hyn o bryd ynglŷn â sut y gallwn groesawu a manteisio ar y cyfleoedd sy'n dod i'r amlwg a fydd yn cael eu sbarduno'n bennaf gan newid mewn ymddygiad.
Mae Russell George wedi nodi un sector penodol a fydd yn galw am gyfnod hwy o gymorth—yr economi ymwelwyr. Rwyf eisoes wedi mynd ar drywydd pryder Gweinidog Llywodraeth y DU ynghylch y sector twristiaeth a sectorau ac is-sectorau eraill a fydd yn debygol o fod angen rhagor o gymorth yn y misoedd i ddod, yn enwedig mewn perthynas â'r cynllun cadw swyddi.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o lawer o sgyrsiau a gafodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ar sail y DU i archwilio pa gymorth ar draws y sector y gellid ei gynnig ar draws Prydain a Gogledd Iwerddon. Pan fyddwn yn dechrau ymadfer wedi cyfnod y coronafeirws, rwy'n credu hefyd y bydd angen ystyried pa brotocolau sydd angen eu cyflwyno er mwyn ailgychwyn yr economi ymwelwyr yn ddiogel ar draws Cymru. Gallai'r protocolau hynny, pe baent yn cael eu hardystio, roi sicrwydd i gwsmeriaid ac i ymwelwyr fod busnesau'n cydymffurfio â gofynion ôl-COVID-19 er mwyn gweithredu'n llwyddiannus, ac rwy'n credu mai dyna'r ffordd fwyaf diogel o ailgychwyn gweithgarwch yn y sector pwysig hwn.