2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 29 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:13, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae fel llithro'n ôl nid 20 mlynedd, ond 120 mlynedd. Mae fel pe byddai'r Aelod wedi ysgrifennu'r cofnod enwog hwnnw yn Encyclopaedia Britannica, 'Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr', oherwydd yr ateb i'w gwestiwn yw: pe byddwn i'n cytuno ag ef, beth fyddai pwynt Cynulliad Cenedlaethol Cymru? Beth fyddai pwynt Cymru o gwbl? Oherwydd ei ddadl yn llwyr yw y dylem ni wneud yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud mewn mannau eraill.

Roedd yn anghywir pan ddywedodd, ar y cychwyn, bod Senedd y DU wedi pennu cyfres o reolau yr oeddem ni'n gwyro oddi wrthyn nhw rywsut. Yr hyn a wnaeth Senedd y DU oedd rhoi'r grym i Gymru, i'r Alban, i Ogledd Iwerddon, ac ar wahân i Loegr, wneud rheolau a rheoliadau ar gyfer gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, a dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud. A lle mae gennym ni ofynion sy'n wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig—ac rwy'n anghytuno'n llwyr â'r Aelod pan fydd yn cyflwyno Lloegr yn gyson fel y maen prawf y dylid barnu popeth yr ydym ni'n ei wneud yn ei erbyn—pan fyddwn ni'n gwneud pethau'n wahanol i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, rydym ni'n gwneud hynny oherwydd anghenion ac amgylchiadau Cymru.

Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gyflwyno rheolau yn ymwneud â meysydd carafanau a gwersylla. Pam wnaethom ni hynny? Oherwydd ein bod ni'n clywed y neges mor uchel ac eglur o dde-orllewin a gogledd-orllewin Cymru o bobl yn teithio i'r rhannau hynny o Gymru ac yn achosi perygl i iechyd y cyhoedd iddyn nhw eu hunain ac i bobl eraill. Pam yr ydym ni'n dweud, 'Dylech ymarfer corff unwaith y dydd'? Oherwydd bod Gweinidogion ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys, bydd yn falch o glywed rwy'n siŵr, Gweinidogion Lloegr, yn dweud yn gyson wrth bobl, 'Gadewch eich cartref unwaith y dydd ar gyfer ymarfer corff. ' 'Unwaith y dydd' yw'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud; 'unwaith y dydd' yr ydym ni'n ei olygu; 'unwaith y dydd' yw'r hyn y mae ein rheoliadau yn ei ddweud.

O ran y rheol dau fetr, yr wyf i'n credu yr oedd yn cyfeirio ati, yna rwy'n credu y bydd honno'n ased i fusnesau yng Nghymru, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei weld yng ngweddill y byd yw nad yw gwrthdroi rheoliadau, agor pethau a oedd wedi cau yn ystod cyfyngiadau symud, yn rhoi dim sicrwydd y bydd pobl yn dod i ymgymryd â'r gweithgareddau hynny. Gallwch agor canolfan siopa, ac os nad yw pobl yn credu ei bod hi'n ddiogel i fynd yno, ni fydd neb yn dod. Gallwch agor gweithleoedd eto, ac os yw pobl sy'n gorfod gweithio yno yn credu nad yw eu hiechyd a'u llesiant wedi eu hystyried a'u diogelu, byddan nhw'n amharod i fynd i'r fan honno hefyd. Mae ein rheol dau fetr, y mae busnesau cyfrifol yng Nghymru wedi bod yn glynu ati yn fodlon iawn, yn anfon neges at weithwyr yng Nghymru y bydd eu hiechyd a'u llesiant wedi eu hystyried, eu cynllunio a'u rhoi ar waith pan ddaw'n amser i ddychwelyd i'r gweithle, ac y bydd hynny'n gwneud y busnesau hynny'n fwy tebygol o lwyddo na phe na byddem ni wedi gweithredu yn y modd hwnnw.