Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 29 Ebrill 2020.
Roedd hwnna mewn gwirionedd yn gysur mawr. Mae a wnelo fy ail gwestiwn yn fwy ag iechyd. Mae gennyf nifer o etholwyr yn cysylltu â mi mewn angen dybryd am wasanaethau deintyddol, rhai mewn poen eithaf difrifol. Mae'r deintyddion yn dymuno gwneud y driniaeth, ond nid oes ganddyn nhw'r cyfarpar diogelu personol angenrheidiol i wneud hyn. Felly, pa ganllawiau—sut ydych chi'n helpu'r rhai hynny yn ein proffesiwn deintyddiaeth i allu parhau i gynnal gwasanaethau deintyddol?