3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 29 Ebrill 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:31, 29 Ebrill 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o glywed, Gweinidog, eich bod yn siarad o blaid amodau gwaith a chyflogau gwell i nyrsys a gweithwyr gofal, gan fod hynny'n gywair gwahanol iawn i'r un yr oeddech yn siarad ynddo wrth ateb fy nghwestiynau ychydig fisoedd yn ôl, pan oeddwn yn codi pryderon am newidiadau arfaethedig ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i rotâu nyrsio yn y gogledd, a fuasai, wrth gwrs, ar draul amodau gwaith nyrsys y fan yna. Felly, a ydych chi'n dweud nawr y byddwch yn cefnogi'r nyrsys a'r undebau, a ddim yn dweud wrthyf mai mater i'r bwrdd ydyw, ac nid mater i Lywodraeth Cymru?