Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 13 Mai 2020.
Diolch i Angela Burns am y gyfres o gwestiynau. Ceisiaf eu hateb i gyd yn fyr. Oes, mae gennym ni gyfarwyddwr, uwch was sifil, sydd â'r grym i oruchwylio, nid yn unig o fewn y Llywodraeth ond mae angen i Lywodraeth Cymru gydlynu ac arwain y system i sicrhau bod y rhaglen profi, olrhain, diogelu yn gweithio mewn gwirionedd a bod pawb yn ymrwymo iddi ac yn deall y swyddogaethau a'r cyfrifoldebau amrywiol a fydd gan wahanol rannau ein system.
Felly, mae hynny'n mynd i ddwyn ynghyd nid yn unig Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ein hymddiriedolaethau eraill, ein byrddau iechyd a llywodraeth leol, ac mae hynny'n gweithio'n dda. Rwyf wedi fy nghalonogi'n fawr gan y ffordd y mae byrddau iechyd a llywodraeth leol wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd ar y cam cynllunio ar gyfer symud ymlaen a chyflawni'r rhaglen hon. Ond ni fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheoli'r rhaglen gyfan. Maen nhw wedi darparu llawer o'r syniadau a pheth o'r trosolwg clinigol. Maen nhw wedi darparu'r dystiolaeth o ran iechyd y cyhoedd am yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn gyffredinol. Dyma'r agwedd weithredol nawr, ac nid nhw fydd yn arwain agwedd weithredol y system. Dyna eto pam yr ydym wedi gofyn i uwch was sifil arwain hynny, i fod yn gyfrifol am hynny ac, wrth gwrs, fi yn y pendraw sy'n goruchwylio yr hyn sy'n digwydd.
O ran yr oddeutu 10,000 o brofion yr ydym yn disgwyl eu cael, rwyf eisiau i'r rheini fod ar gael erbyn diwedd mis Mai. Mae hynny wedi'i nodi yn y ddogfen 'Profi Olrhain Diogelu'. Dyna pryd yr wyf eisiau i ni gael y math hwnnw o allu. Fel y dywedaf, mae hynny'n gyfuniad o'r gallu sydd gennym ni eisoes yng Nghymru ynghyd â chyfran o'r trefniadau ar gyfer y DU gyfan. Felly, rwy'n bur ffyddiog y bydd hynny ar waith erbyn diwedd mis Mai, pan fyddwn ni eisiau cyflwyno hyn ar sail ehangach.
Ond bydd ein defnydd o'r profion hynny, wrth gwrs, yn dibynnu ar le yr ydym ni arni o ran faint y mae'r cyhoedd yn symud o gwmpas. Os oes llacio pellach ar y cyfyngiadau symud a phobl yn symud yn fwy rhydd, mae'n bosib y bydd mwy o gyswllt, hyd yn oed gyda'r rheolau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Felly, ar bob cam, efallai y bydd angen mwy o brofion arnom ni, ac yn enwedig wrth inni gyrraedd cyfnod yr hydref pan fydd y ffliw ac annwyd a mathau eraill o salwch sy'n aml yn debyg i symptomau coronafeirws yn cylchredeg yn ehangach hefyd. Dyna pryd y mae'n rhaid i ni ragdybio a rhagweld newid yn y galw.
Daw hynny'n ôl at eich sylw am staff hefyd, oherwydd mae'r ffigur cychwynnol yn y ddogfen o 1,000 o staff yn dod o gynlluniau y mae byrddau iechyd a llywodraeth leol eisoes yn cydweithio arnynt, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y ffordd y mae'r awdurdodau lleol ar draws Cymru, o wahanol deyrngarwch gwleidyddol, wedi gweithio gyda byrddau iechyd ar gynllunio ar gyfer hyn. Rydym ni'n defnyddio'r adnoddau sy'n bodoli mewn llywodraeth leol—y staff nad ydyn nhw o anghenraid yn gweithio. Mae rhai ohonyn nhw eisiau mwy o bethau i'w gwneud ac mae hwn yn faes lle gallwn ni helpu'r bobl hynny i weithio, a chynnwys pobl yn eu cartrefi eu hunain yn dibynnu ar yr ateb digidol.
Felly, dyna'r sylw cychwynnol, ond, unwaith eto, efallai na fydd angen 1,000 o bobl yn aros am alwadau ar 1 Mehefin arnom ni, ond dyna'r ffigur yr ydym wedi ei nodi gyda'r math o niferoedd staff y bydd eu hangen arnom ni. Ac rydych chi'n iawn—mae'n amcan bras o'r niferoedd yn yr Alban, ond bydd yn rhaid i ni farnu'r dystiolaeth ar hyd a lled y rhaglen a'r hyn y byddwn ni ei angen a pha un a oes angen mwy o bobl arnom ni. Mae honno'n sgwrs weithredol y mae llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd ac, yn wir, fy swyddogion yn ei chael.
O ran eich sylw am Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, nid yw'r gwasanaeth yn bwriadu adeiladu ei systemau ei hun o fewn ychydig wythnosau; mae'n ymwneud mewn gwirionedd â'r hyn y maen nhw'n ei gaffael a'r gwaith y maen nhw'n helpu i arwain arno, ond i sicrhau bod y system ddigidol honno'n gweithio ac yn gallu integreiddio â systemau eraill sydd gennym ni yng Nghymru. Felly, mae ganddyn nhw swyddogaeth bwysig iawn yn ein helpu i wneud hynny'n iawn.
Mae hi hefyd yn bwysig, rwy'n credu, i gydnabod yr hyn a ddywedais yn gynharach am raglen brofi Llywodraeth y DU. Rydym ni bellach mewn sefyllfa lle mae'r materion trosglwyddo data yn cael eu datrys, ac mae hynny'n rhoi llawer mwy o gysur i mi, oherwydd o'r blaen gallem fod wedi cael profion ond heb ddeall beth oedd y canlyniadau, felly bydden nhw wedi bod yn gyfyngedig iawn, iawn o ran eu defnyddioldeb. Rydym ni bellach mewn sefyllfa well o lawer, ac felly bydd hynny'n ddefnyddiol.
Mae gennym yr un problemau gyda'r ap NHSX sy'n cael ei ddatblygu hefyd, oherwydd os yw'n gweithio, os byddwn yn datrys yr holl faterion preifatrwydd ynglŷn â phwy sy'n berchen ar y data a sut y caiff hynny ei ddatrys—ac rwy'n credu ein bod yn weddol agos ati yn hynny o beth, yna, byddwn eisiau i Gymru allu manteisio ar hynny, ond, unwaith eto, sicrhau y caiff y problemau trosglwyddo data hynny eu datrys.
O ran y sgwrs â llywodraeth leol a'r sector gwirfoddol ehangach am gefnogi pobl, mae honno yn sgwrs yr ydym yn ei dechrau. Rwyf wedi cael cyfres adeiladol iawn o sgyrsiau cyflym—ac mae hwn yn ddatblygiad polisi cyflym iawn, ynghyd â'r gwaith o'i roi ar waith, yr ydym yn ymdrin ag ef—ond maen nhw yn cydnabod, fel y gwnawn ni, os bydd gennym ni grŵp o bobl sy'n cael eu cefnogi nawr, a'u bod yn cylchredeg yn ehangach, yn gwneud mwy o bethau yn y dyfodol, os byddwn ni wedyn yn gofyn iddyn nhw hunanynysu eto, bydd angen eu cefnogi. Bydd angen i ni gael timau symudol i gynorthwyo'r bobl hynny y gall fod angen iddyn nhw ynysu fwy nag unwaith. Ond mae diben hyn yn wirioneddol bwysig. Mae niwed yn cael ei achosi drwy'r cyfyngiadau symud, a bydd niwed posib yn cael ei achosi os byddwn yn gofyn i bobl hunanynysu eto yn y dyfodol. Ond mae a wnelo hynny â chydbwyso'r niwed hwnnw, ac fel y clywsoch chi yn natganiad a chwestiynau'r Prif Weinidog wedyn, os aiff y gwerth R i fyny i 1.1 dros gyfnod o dri mis, dyna filoedd o farwolaethau ychwanegol a fydd yn digwydd yng Nghymru, a rhaid inni gadw mewn cof y cydbwysedd anodd y mae'n rhaid i ni ei tharo. Ond yn sicr, ni fyddaf yn cymryd agwedd ddi-hid a allai beryglu bywydau miloedd o ddinasyddion Cymru, a byddaf wrth gwrs yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.