Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 13 Mai 2020.
Diolch am hynna. Felly, dim ond er mwyn eglurder, rwyf eisiau cadarnhau mai'r nifer yw 10,000 o brofion erbyn diwedd Mai, oherwydd dywed eich dogfen:
Byddwn yn parhau i gynyddu'r gallu hwn dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod, o bosibl i gynifer â 10,000 o brofion y dydd, ac rwy'n credu bod angen yr eglurder hwnnw arnom ni, o ystyried y llanast yr ydym ni wedi'i weld dros yr wythnosau diwethaf.
Hoffwn droi yn gyflym at achosion o niwed nad ydynt yn gysylltiedig â COVID, ac yn enwedig at ddiagnosis a thrin cyflyrau critigol fel canser. Rydych chi'n sôn am achosion o niwed nad ydynt yn gysylltiedig â COVID yn eich datganiad. Nawr, roeddem ni eisoes ar ei hôl hi ar gynifer o agweddau cyn y pandemig. Mae pobl yn cysylltu â mi oherwydd bod angen triniaeth ymchwiliol arnyn nhw, ni allan nhw ei chael, maen nhw'n meddwl bod canser arnyn nhw, neu maen nhw wedi cael gwybod efallai bod canser arnyn nhw. Maen nhw'n poeni'n fawr, ac maen nhw'n gweld bod ysbytai dan lai o bwysau nag yr oeddem ni i gyd yn credu y bydden nhw, ac felly mae'r bobl hyn yn dioddef poen meddwl dirdynnol, ddim yn siŵr beth sy'n digwydd a phryd y gallan nhw gael y driniaeth honno.
Deallaf fod y byrddau iechyd yn gweithio ar hyn, ond pryd fydd y gwasanaethau'n dechrau? A allwch chi roi amserlen fras inni? A ydym yn siarad am ychydig wythnosau neu ychydig o fisoedd? Ac a allwn ni ailgychwyn y rhaglen sgrinio, megis ar gyfer canser y fron, gan nad yw hynny'n digwydd mewn ysbytai—uned symudol yw honno? A allwn ni ddefnyddio unedau symudol sefydliadau fel Tenovus i roi a gweinyddu triniaethau mewn gwirionedd? Oherwydd, unwaith eto, dylai'r mathau hynny o feysydd fod yn hawdd eu cadw fel parthau gwyrdd. Pa gynlluniau sydd gennych chi i ymdopi â'r gwaith sydd wedi cronni, a sut ydych chi'n bwriadu ymgysylltu â'r cyhoedd i sicrhau eu bod yn dychwelyd at y gwasanaethau hanfodol hyn i gael y driniaeth y mae ei hangen yn ddirfawr arnyn nhw?