Part of the debate – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 20 Mai 2020.
Yn y gyllideb atodol, a gaiff ei chyhoeddi yr wythnos nesaf, byddwn yn dyrannu mwy na £2.4 biliwn i gefnogi ein hymdrechion COVID-19. A bydd hynny'n cynnwys: bron i £0.5 biliwn ychwanegol i'r gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol i sicrhau bod ganddynt y cyllid y maent ei angen i ddiogelu iechyd pobl Cymru; £1.3 biliwn ychwanegol i'r gyllideb ar gyfer yr economi a thrafnidiaeth, gan ddarparu lefel hollol ddigynsail o gymorth i'r economi a phecyn o fesurau sy'n fwy sylweddol nag unman arall yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn cynnwys y gronfa cadernid economaidd gwerth £500 miliwn, sydd ei hun yn cynnwys £400 miliwn mewn refeniw a £100 miliwn mewn cyllid cyfalaf wedi'i addasu at ddibenion gwahanol. Gyda llai nag wyth wythnos ers ei lansio, mae'r gronfa eisoes wedi darparu gwerth mwy na £87 miliwn o fenthyciadau o’r banc datblygu i fwy na 1,300 o fusnesau a grantiau gwerth mwy na £100 miliwn i fwy na 6,000 o fusnesau.
Mae'r gyllideb hefyd wedi darparu £0.5 biliwn ychwanegol i'r gyllideb tai a llywodraeth leol, gydag awdurdodau lleol yn cyflwyno elfennau allweddol o’r ymateb i COVID-19, megis parhau i ddarparu prydau ysgol am ddim, mwy o gefnogaeth i gartrefi gofal a recriwtio a rheoli gwirfoddolwyr. Lywydd, mae'r cyllid hwn hefyd yn cynnwys ein cefnogaeth i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden, ar ffurf rhyddhad ardrethi busnes, a'r grantiau £10,000 a £25,000 sy'n dilyn. Diolch i ymdrechion enfawr ein hawdurdodau lleol, mae bron i 51,000 o grantiau eisoes wedi'u talu, ar gost o £621 miliwn, ac mae'r cymorth hwn yn achubiaeth hanfodol i’r holl fusnesau cymwys ledled Cymru. Lle bynnag y bo modd, rydym wedi canolbwyntio’r gefnogaeth hon ar fusnesau sydd â phencadlys yng Nghymru, ac rydym wedi ei gwneud yn glir na fydd busnesau sydd wedi’u lleoli mewn hafanau treth yn gymwys i gael cymorth ariannol COVID-19 gan Lywodraeth Cymru.
Lywydd, mae effaith ein buddsoddiadau i'w theimlo ledled Cymru, ac yn enwedig ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed. Rydym wedi darparu £40 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim, gan gyrraedd oddeutu 60,000 o blant yng Nghymru. Rydym wedi darparu £24 miliwn i gefnogi gwirfoddoli a’r trydydd sector. Mae dros 17,500 o wirfoddolwyr newydd wedi'u recriwtio yng Nghymru yn ystod yr argyfwng hwn, mwy na dwbl y nifer flaenorol, ac oherwydd bod gennym system genedlaethol eisoes ar gyfer gwirfoddolwyr, rydym wedi gallu gwneud defnydd cyflym o'r parodrwydd enfawr hwnnw i helpu. A hyd yn hyn, mae 7,000 o wirfoddolwyr wedi'u defnyddio i helpu'n uniongyrchol yn y frwydr yn erbyn coronafeirws.
Un o'r pethau y mae'r gwirfoddolwyr hyn wedi bod yn ei wneud yw helpu i ddarparu bwyd a meddyginiaethau i bobl yn y grŵp a warchodir. Erbyn hyn mae 130,000 o bobl ar y rhestr o bobl a warchodir, gyda bron i 13,000 wedi'u hychwanegu gan feddygon teulu ers i'r system ddechrau. Darparwyd £15 miliwn i sicrhau bod blychau bwyd ar gael i bobl yn y categori a warchodir a dosbarthwyd miloedd o flychau i'r unigolion hynny, ac mae archfarchnadoedd wedi sicrhau bod 77,000 o slotiau danfon i'r cartref ar gael ar gyfer y grŵp hwnnw.
Lywydd, mae miloedd o bobl yn gweithio yn ein system gofal cymdeithasol yng Nghymru; maent wedi bod ar flaen y gad yn yr ymdrech genedlaethol i achub bywydau. Rydym wedi neilltuo £32 miliwn i ddarparu taliad o £500 i'r 64,000 o bobl sy'n darparu gofal personol mewn gwasanaethau gofal preswyl a chartref.
I'r rhai tlotaf yn ein cymdeithas, mae'r gronfa cymorth dewisol wedi darparu help pan fetho popeth arall yma yng Nghymru, byth ers i Lywodraeth y DU ddiddymu’r gronfa gymdeithasol. Yn ystod yr argyfwng coronafeirws, mae'r gronfa wedi dod yn achubiaeth bwysicach fyth i lawer o deuluoedd. Hyd yma, mae 13, 679 o daliadau gwerth mwy na £850,000 wedi’u gwneud, ac mae £11 miliwn wedi’i ychwanegu at y gronfa yn yr wythnosau diwethaf fel y gallwn barhau i gynnig y cymorth hanfodol hwn.
Lywydd, mae capasiti ein gwasanaeth iechyd wedi trawsnewid dros yr wyth wythnos diwethaf: crëwyd 368 o welyau ychwanegol drwy ysbytai maes, gyda 4,666 arall ar gael os oes angen; ar 18 Mai, roedd 220 o welyau gofal critigol ychwanegol ar gael drwy ymdrechion enfawr ein staff; mae capasiti profi wedi cynyddu i dros 5,300 y dydd, ac mae 11,000 o brofion yn cael eu cynnal bob wythnos—bydd y capasiti’n cynyddu ymhellach yn yr wythnosau i ddod; ac mae 98.4 miliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol wedi’u dosbarthu ers 9 Mawrth, ac mae ychydig llai na 30 miliwn ohonynt wedi mynd i staff mewn cartrefi gofal a gofal cartref.
Ein cysylltiadau tramor a'n gallu i wneud pethau yn y wlad hon sydd wedi ein galluogi i ddarparu cymaint o'r cyfarpar hwn. I grybwyll un enghraifft yn unig, mae cwmni gweithgynhyrchu Hardshell yn creu ffatri newydd yng Nghaerdydd i gynhyrchu hyd at filiwn o fasgiau wyneb sy'n gwrthsefyll hylif bob dydd ar gyfer gweithwyr rheng flaen yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Ac oherwydd yr ymdrech enfawr hon gan ein gwasanaethau cyhoeddus a'n pobl ledled Cymru, rydym wedi llwyddo i ddiogelu ein GIG ac achub bywydau.
Mae nifer y marwolaethau, gyda’i holl dorcalon personol, yn parhau i godi, ond dangosodd nifer y marwolaethau a gofnodwyd yng nghyhoeddiad wythnosol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddoe fod y ffigur hwnnw wedi gostwng ym mhob un o’r tair wythnos flaenorol. Ac wrth inni symud i fyd lle mae cyfyngiadau symud yn cael eu codi'n ofalus ac yn raddol yma yng Nghymru, bydd angen inni addasu ein dull o weithredu. Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newidiadau i brofion mewn cartrefi gofal ac yn y gymuned ehangach. Rydym yn symud i system ehangach o wyliadwriaeth rhag lledaeniad y feirws, y tu hwnt i weithwyr allweddol a lleoliadau allweddol, drwy'r strategaeth 'Profi Olrhain Diogelu' a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Lywydd, rwyf wedi amlinellu ehangder a dyfnder gweithgarwch Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig. Mae ein dull wedi bod yn unigryw wrth adeiladu ar ein model partneriaeth gymdeithasol, ac wrth gynorthwyo'r rhai sydd â'r angen mwyaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar fesurau sy'n galw am ddull cyffredin, a byddwn yn cyhoeddi rheoliadau'n ymwneud â mesurau rheoli ffiniau yn fuan. Er nad yw ffiniau yn fater sydd wedi'i ddatganoli, mater i Weinidogion Cymru yw rheoliadau iechyd cyhoeddus sy'n ymwneud â gweithredu'r mesurau hyn yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried y trefniadau cywir ar gyfer gweithredu yma, o fewn y system ar gyfer y DU gyfan.
Lywydd, hoffwn orffen drwy grybwyll effaith y feirws ar blant a phobl ifanc yng Nghymru. Yr wythnos diwethaf, lansiwyd arolwg newydd yn gofyn i bobl rhwng saith a 18 oed am eu safbwyntiau yn ystod y pandemig coronafeirws. Mae 'Coronafeirws a Fi' yn gofyn am eu hiechyd, eu haddysg, yr effaith ar agweddau cymdeithasol ar eu bywydau, ac anghenion grwpiau penodol. Bydd deall profiad pobl ifanc yn hanfodol i'n gwaith wrth inni ddechrau llacio’r cyfyngiadau symud, ac wrth inni gynllunio ar gyfer dyfodol ein heconomi a'n cymdeithas yng Nghymru ar ôl COVID-19. Mae dyfodol pob un ohonom wedi bod yn y fantol yn yr argyfwng hwn, ond mae hynny wedi bod yn arbennig o wir i’n plant a’n pobl ifanc. Byddwn yn parhau i adrodd i'r Senedd ar yr holl gamau rydym yn eu cymryd i'w cefnogi hwy a'r gymdeithas ehangach yma yng Nghymru. Diolch yn fawr.