Part of the debate – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 20 Mai 2020.
Lywydd, rwyf am ddechrau gydag effaith y feirws ar ein cyllid. Mewn ychydig fisoedd ers i gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 gael ei phasio yn y Senedd, mae'r gyllideb wedi cynyddu mwy na 10 y cant. Rydym wedi symud yn gyflym i ddyrannu'r cronfeydd hynny, ynghyd ag addasu cyllidebau presennol at ddibenion gwahanol ac ailalinio cyllid Ewropeaidd. Rydym wedi darparu £40 miliwn—mae’n ddrwg gennyf—. Rydym wedi ailalinio cyllid Ewropeaidd i ateb y dibenion brys sy'n ein hwynebu.