Part of the debate – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 20 Mai 2020.
Wel, Lywydd, gadewch i mi ddechrau drwy gytuno â rhywbeth a ddywedodd Mr Reckless, fod y pwerau rydym yn eu harfer yn eithriadol, eu bod yn lefel o ymyrraeth ym mywydau pobl na welwyd mo'i thebyg o'r blaen, ac mae'n rhaid i bopeth a wnawn gael ei brofi a'i brofi eto i wneud yn siŵr ei fod yn rhywbeth sydd ei angen i ddiogelu iechyd pobl yma yng Nghymru. Dyna lle mae'r bar i mi, ac rydym yn meddwl yn ofalus iawn am bob un o'r cyfyngiadau a rown ar waith, ac rydym wedi cael y ddadl hon ar lawr y Senedd, er enghraifft, mewn perthynas ag ail gartrefi—a ddylid cymryd camau mwy llym i atal pobl rhag meddiannu eiddo y maent yn berchen arno, ac ychydig fisoedd yn ôl ni fyddem wedi breuddwydio ystyried a ddylid eu hatal rhag gwneud hynny, ac rwyf wedi dod i'r casgliad bellach nad yw'n gymesur i wneud hynny. Felly, hoffwn roi sicrwydd iddo ein bod yn plismona'r llinell hon yn gwbl ymwybodol. Efallai y bydd ein barn yn wahanol yn y pen draw ynglŷn â lle i dynnu'r llinell, ond nid ydym yn ei wneud mewn ffordd fympwyol na difeddwl.
Rwy'n cytuno â'r hyn y mae Mr Reckless wedi'i ddweud am bobl yn dod i weld beth yw datganoli yn yr argyfwng hwn mewn ffordd nad ydynt wedi'i wneud dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nid wyf yn credu ei bod yn wir nad yw pobl yng Nghymru yn ymwybodol o ddatganoli. Mae'n sicr yn wir ei bod hi'n ymddangos bod pobl y tu allan i Gymru ac yn Llundain wedi dihuno i'r agenda ddatganoli ar ôl 20 mlynedd o gwsg. Rwy'n credu bod barn pobl yng Nghymru yn glir iawn. Mae pobl Cymru yn cefnogi'r ffordd ofalus a phwyllog rydym yn codi'r cyfyngiadau symud. Byddai'n well ganddynt fod yma gyda Llywodraeth sy'n rhoi eu hiechyd, eu llesiant, ar flaen yr hyn rydym yn ei wneud, ac nid ydynt yn edrych yn eiddigeddus ar y ffordd y mae'r pethau hyn yn cael eu gwneud dros y ffin.