Part of the debate – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 20 Mai 2020.
Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw. Brif Weinidog, yn y gorffennol, rydych wedi sôn am yr angen am ddull cyffredin o weithredu gan y pedair gwlad yn ystod yr argyfwng hwn, ac rydych wedi cyfeirio at hynny eto heddiw. Nawr, yn amlwg, Brif Weinidog, pan ddown at ddiwedd yr argyfwng hwn, bydd angen dysgu gwersi ohono. A gaf fi ofyn a ydych chi'n teimlo fod yna unrhyw amgylchiadau mewn argyfwng cenedlaethol pan fydd yn briodol i Lywodraeth Cymru ildio pwerau'n wirfoddol yn ôl i Lywodraeth y DU?