Part of the debate – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 20 Mai 2020.
Wel, Lywydd, nid dyna fyddai fy null i o fynd ati. Lle rydym yn cytuno â'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, fel rydym wedi'i wneud mewn llawer iawn o'r hyn a ddigwyddodd dros y misoedd diwethaf, gallwn arfer ein pwerau mewn ffordd sy'n gyson â'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill. Yn sicr, nid oes angen ildio pwerau; mater o sut ydych chi'n dewis eu harfer yn unig ydyw.