COVID-19: Olrhain Cysylltiadau

3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 20 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth a'r adnoddau fydd ar gael i awdurdodau lleol wrth ddatblygu'r capasiti i olrhain cysylltiadau yn dilyn cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer codi'r cyfyngiadau presennol? TQ434

Photo of Julie James Julie James Labour 2:25, 20 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn, Delyth. Rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ddatblygu a thyfu capasiti i olrhain cysylltiadau lleol. Maent yn ganolog i atal trosglwyddiad y feirws. Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt i nodi eu hanghenion o ran adnoddau, a bydd y gwersi a ddysgir o'r treialon yn amhrisiadwy wrth helpu i lunio cam nesaf ein hymateb.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Derbynnir yn eang mai'r rhan bwysicaf o unrhyw strategaeth sy'n ceisio mynd i'r afael â COVID-19 yw'r elfen brofi, tracio ac olrhain. O'i roi'n syml, mae'n rhaid inni gael y math hwnnw o gyfundrefn brofi a thracio ar waith cyn y gallwn ystyried unrhyw gamau sylweddol i godi'r cyfyngiadau presennol. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ar hynny.  

Nawr, ddydd Llun, roeddwn yn falch iawn o weld cyngor Ceredigion yn cyhoeddi ei gynllun addasu ei hun ar gyfer y sir yn sgil y coronafeirws, sy'n edrych ar y cam nesaf. Nawr, mae'r cynllun hwnnw'n cynnwys manylion am eu system olrhain cysylltiadau sydd eisoes yn weithredol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i longyfarch Ceredigion am fod yn flaenllaw yn yr ymdrechion hyn, a hoffwn eich gwahodd chi, Weinidog, i wneud yr un peth ac ystyried sut y gellid defnyddio model Ceredigion fel enghraifft i hybu arferion gorau mewn ardaloedd eraill.  

Nawr, Weinidog, nodwyd bod gan awdurdodau lleol rôl allweddol yn cyflawni cynllun profi olrhain a diogelu eich Llywodraeth yn llwyddiannus, ond maent yn dal i aros am fanylion ar lefel genedlaethol gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y bydd olrhain cysylltiadau'n gweithio ar lawr gwlad ledled Cymru ac yn hollbwysig, pa adnoddau a chymorth—yn enwedig cymorth ariannol—a fydd ar gael i awdurdodau lleol. Mae'n bosibl fod llawer o arbenigedd ym maes diogelu'r cyhoedd, sy'n amhrisiadwy erbyn hyn, wedi'i golli o fewn yr awdurdodau lleol o ganlyniad i'r cyni ariannol, felly byddwn yn croesawu eich syniadau ynglŷn â sut y gallwn sicrhau ein bod yn adfer unrhyw beth a gollwyd yn y cyswllt hwnnw.

Yn olaf, rhai cwestiynau penodol i chi, Weinidog. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â faint o bobl rydych yn rhagweld y bydd angen iddynt ymgymryd â gwaith olrhain cysylltiadau ledled Cymru? Faint o bobl y dyrannwyd y rolau hyn iddynt eisoes, a fyddant yn dod o weithlu presennol yr awdurdod lleol neu a oes proses recriwtio allanol ar y gweill i ychwanegu at hynny? Byddai'n dda gwybod hefyd pa amserlenni fydd ynghlwm wrth hyn. Ac o ran yr adnoddau technegol i gefnogi gwaith swyddogion olrhain cysylltiadau ar lawr gwlad, a yw Llywodraeth Cymru yn argymell y dylai awdurdodau lleol ac eraill ddefnyddio un ap penodol, ac a allech chi roi manylion hynny i ni, os gwelwch yn dda? Diolch.  

Photo of Julie James Julie James Labour 2:27, 20 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y gyfres honno o gwestiynau, Delyth. Rwyf am wneud fy ngorau i'w hateb. Rwy'n ymwybodol o sefyllfa Ceredigion wrth gwrs, ac mae Ceredigion wedi gweithio'n galed iawn i roi'r cynllun hwnnw ar waith. Maent ymysg y nifer o awdurdodau sy'n mynd ati'n gyflym i dyfu ac adeiladu ar yr arbenigedd olrhain cysylltiadau sydd eisoes yn bodoli yn ein hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd ac mae'n ganolog i'n strategaeth profi, olrhain a diogelu.  

Y gwir amdani yw na fydd y cynllun cenedlaethol yn gweithio oni bai ein bod yn defnyddio gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd lleol sy'n bodoli eisoes yn llawn, ac mae hynny, fel y dywedwch yn gywir, wedi cael ei ddatblygu dros flynyddoedd lawer o fewn timau diogelu iechyd ein hawdurdodau lleol a'n byrddau iechyd, ar ffurf trefniadau iechyd yr amgylchedd yn benodol. Dyna'r union ddull rydym yn ei ddilyn yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o'n hawdurdodau lleol a'u harbenigedd lleol. Rwy'n hynod ymwybodol y bydd angen ein cefnogaeth lawn arnynt a bod y goblygiadau o ran adnoddau yn debygol o fod yn uchel. Rydym wedi ymrwymo'n fawr i ddarparu'r adnoddau y maent eu hangen i wneud hynny.  

Rydym wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth agos i nodi'r goblygiadau llawn o ran cost, a bydd cyngor a chanllawiau pellach yn cael eu cyhoeddi pan fyddwn wedi cwblhau'r gwaith hwnnw. Mae pob un o'n partneriaid ymhlith y byrddau iechyd a'r awdurdodau lleol wedi ymateb gyda phenderfyniad ac ymrwymiad i roi'r cynllun olrhain ar waith, fel y nodir yn y cynllun profi, olrhain a diogelu.

Bydd Delyth yn gwybod—rwy'n gwybod am fy mod wedi cael sgwrs gyda hi am y peth—fy mod yn cael galwad ffôn reolaidd gyda'r holl arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn siarad â hwy eto. Rwy'n ymwybodol, yn yr alwad y bore yma—nad oeddwn yn rhan ohoni, ond rwy'n ymwybodol, yn yr alwad y bore yma, fod pawb wedi mynegi boddhad gyda'r sefyllfa hyd yn hyn ac yn parhau'n ymrwymedig i'r ymgysylltiad rhyngom wrth gyflwyno'r treialon olrhain cysylltiadau ar raddfa fach sydd ar y gweill mewn pedwar o'n byrddau iechyd.

Nid wyf mewn sefyllfa i ateb y cwestiwn am yr ap gan fod hynny'n perthyn i bortffolio Vaughan Gething, ond rwy'n siŵr y gallwn gael ateb i'r cwestiwn hwnnw. Fodd bynnag, gallaf ddweud hyn amdano: rydym yn benderfynol iawn o wreiddio hyn yn ein cymunedau lleol ac yn eu gwybodaeth a'u harbenigedd lleol. Bydd yr ap, rwy'n siŵr, yn cynorthwyo yn hynny o beth, ond yn sicr nid dyna fydd yr unig ateb.    

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:29, 20 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Mark Isherwood. Mae angen agor y meic.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:30, 20 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Dyna ni. Iawn, diolch. Gan atgyfnerthu'r datganiad gan arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod tracio ac olrhain achosion o'r coronafeirws yng Nghymru yn dasg anferthol, ac y byddai angen adnoddau ychwanegol sylweddol ar gynghorau ar gyfer y gwaith hanfodol, dywedodd arweinwyr awdurdodau lleol y Ceidwadwyr Cymreig wrthyf ddoe eu bod yn gofyn am eglurder gan Lywodraeth Cymru ar ei rhaglen 'Profi Olrhain Diogelu' a'r ymrwymiad i roi adnoddau llawn i hyn. Wrth ddatgan ei bod am i'r rhaglen fod yn weithredol erbyn diwedd mis Mai, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y byddai hyn yn galw am adnoddau sylweddol a dywedodd y byddai angen tua 1,000 o staff ar y cychwyn, gan gynnwys pobl sy'n gweithio i awdurdodau lleol. Ar y cyd â swyddogion diogelu'r cyhoedd y cyngor a fydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, a phartneriaid ym maes iechyd, bydd angen naill ai recriwtio neu adleoli aelodau eraill o staff nad ydynt yn staff clinigol. Sut ydych chi'n ymateb felly i'r datganiad gan arweinwyr awdurdodau lleol yn dweud y bydd rhai awdurdodau lleol yn cael eu llethu os nad yw Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'n llwyr i ariannu ei strategaeth 'Profi Olrhain Diogelu'?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:31, 20 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am hynny, Mark. Fel y dywedais, rydym yn gweithio'n agos iawn â holl arweinwyr yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae pob un ohonynt yn cefnogi'r alwad arnaf i yn ymuno â hwy o leiaf unwaith yr wythnos, a llawer mwy o weithiau na hynny ar adegau. Fel y dywedais, rydym yn datblygu cyfres o gynlluniau peilot a fydd yn archwilio agweddau allweddol ar y cynllun penodol hwn: agweddau allweddol ar olrhain â llaw, sgriptiau, niferoedd, rolau'r gweithlu, gofynion hyfforddi, casglu data, llif gwybodaeth, materion cyfreithiol posibl, gan gynnwys cynllunio senarios a gofynion cyswllt risg uchel. Felly, rydym yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i ddeall holl oblygiadau hynny, ac i ddeall beth yw eu gofynion o ran adnoddau. Ac fel y dywedais wrth ymateb i Delyth yn gynharach, rydym yn gwbl ymwybodol fod angen iddynt gael cefnogaeth lawn yn hynny, ac rwyf wedi dweud hynny'n glir iawn wrth yr arweinwyr.

Mae Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn llygad ei le—mae'n dasg enfawr—ond rwy'n falch iawn o ddweud bod ein hawdurdodau lleol i gyd wedi camu i'r adwy ac yn gweithio'n galed iawn gyda ni a chyda'r awdurdodau peilot i wneud yn siŵr ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i gyflawni'r cynllun hynod bwysig hwn i Gymru.