Part of the debate – Senedd Cymru am 5:39 pm ar 20 Mai 2020.
Hoffwn gofnodi fy mod yn credu bod Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi mynegi'n glir ac angerddol iawn y sylw angenrheidiol sy'n rhaid i ni ei roi i'n rhyddid a'n hawliau sylfaenol er gwaethaf y cyfnod anodd rydym ynddo ar hyn o bryd, ac felly, mae wedi datgan fy mhryderon ynghylch y rheoliadau parhaus hyn a'r ffordd y cânt eu trin a'u cyflwyno. Mae'r prif reoliadau hyn yn destun gwelliant cyson mewn nifer o feysydd am fod Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar wyneb y ddeddfwriaeth yn hytrach nag yn y canllawiau, a chredaf fod hynny'n dderbyniol. Ond mae'n golygu ein bod ni, Senedd Cymru, bob amser yn trafod y gwelliannau ar ôl iddynt ddigwydd, ac nid yw honno'n sefyllfa gwbl foddhaol yn fy marn i. Mae craffu'n iawn ar y rheoliadau hyn yn hollbwysig, ac er bod angen i'r Senedd eu cymeradwyo er mwyn i'r rheoliadau gael eu rhoi mewn grym am fwy na 28 diwrnod, ni all fod yn dderbyniol, er enghraifft, mai gerbron y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn unig y cyflwynwyd y rheoliadau hyn ar 18 Mai. Yn fy marn i, mae hyn yn gwadu cyfle i gael proses graffu glir, ac er ein bod yn byw mewn cyfnod anodd byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i adael i'w hunain fod yn ddarostyngedig i graffu priodol, a rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn caniatáu i'r amgylchiadau rydym ynddynt danseilio'r gwaith craffu hwnnw.
Mae arnom angen mwy o eglurder ynglŷn â'r rheoliadau a'r canllawiau sy'n cyd-fynd â hwy, oherwydd mae'r rheoliadau presennol yn ddryslyd ac mewn llawer o achosion i'w gweld yn gwrthddweud eu hunain. Nid yw pobl yn gwybod beth y maent yn ei olygu. Rwy'n gwybod bod fy mlwch post yn cynnwys llu o negeseuon e-bost gan etholwyr nad ydynt yn glir ynglŷn â'r ystyr sy'n sail i'r rheoliadau. A sylwais heddiw yn yr ateb gan y Prif Weinidog i Carwyn Jones, a oedd yn ceisio sicrhau eglurder pellach ynglŷn â'r rheoliadau, a bu'n rhaid iddo roi'r eglurder ychwanegol hwnnw. Dywedodd Alun Davies hefyd fod ei etholwyr yn gofyn am eglurder, felly nid wyf ar fy mhen fy hun.
Rwy'n falch fod y rheoliadau'n gosod gofyniad am gymesuredd i'r cyfyngiadau, ond rwyf am dynnu sylw'r Senedd at rai meysydd, felly, er enghraifft, rheoliad 8, sy'n cael ei ddiwygio i ganiatáu ymarfer corff rhesymol fwy nag unwaith y dydd. Nawr, dyma enghraifft o ba mor aneglur yw'r rheoliadau hyn: beth yw lleol? Nodaf fod Llywodraeth Cymru yn datgan nad oes unrhyw ddymuniad i ddiffinio 'lleol', gan y bydd gwahanol ystyron, yn dibynnu a ydych yng Nghaerdydd neu yng nghanolbarth Cymru. Felly, mae gennym sefyllfa lle gallwch yrru i'ch cwrs golff agosaf, a allai fod 30 munud i ffwrdd, ond ni chewch fynd i bysgota os na allwch gerdded neu feicio yno. Ac os ydych chi'n gyrru 10 munud i draeth i syrffio ar eich pen eich hun, gan gadw pellter cymdeithasol, fe gewch eich ceryddu a chael dirwy gan yr heddlu o bosibl. Gallwch ymarfer corff o'ch tŷ eich hun mewn stryd orlawn sy'n ei gwneud hi'n anodd cadw pellter cymdeithasol, ond ni chewch yrru am funud neu ddwy i fynd i dir comin i fyny'r mynydd o ble rydych chi'n byw. Gallwch fwyta tra'n cerdded erbyn hyn, ond mae awdurdodau lleol wedi atal mannau picnic rhag cael eu defnyddio, felly dyna anghysondeb arall. Mae hyn i gyd yn seiliedig ar y wyddoniaeth, dywedir wrthym. 'Dyna yw'r wyddoniaeth' yw mantra Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n iawn, ond sut felly ei fod mor amwys ac anghyson, ac fel y mae'r heddlu'n dweud wrthyf, yn anodd iawn ei orfodi?
Ceir llawer o anghysonderau eraill, enghreifftiau eraill yn y rheoliadau o ddiffyg eglurder, meysydd eraill sy'n ymddangos yn anghyson, ac nid oes gennyf ddigon o amser i fynd drwyddynt i gyd. Ond digon yw dweud y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi gwelliant 2 i gyfyngiadau coronafeirws y rheoliadau diogelu iechyd. Fodd bynnag, byddwn yn ymatal ar welliant 3 y rheoliadau y cyfeirir atynt uchod. Ac rwyf am eich rhybuddio chi a Llywodraeth Cymru, Weinidog, na fyddwn yn petruso rhag pleidleisio yn erbyn gwelliannau yn y dyfodol os nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu neu'n barod i wella eglurder gwelliannau pellach, ac egluro'r rhesymeg wyddonol a chymdeithasol sy'n sail i'r newidiadau pellach hyn i ni ac i'n hetholwyr, oherwydd rydym mewn cyfnod anodd yn wir, ond mae'n rhaid i ni bob amser, bob amser, roi sylw iawn i hawliau pobl i fywyd, i ryddid, i ryddid i symud, ac mae angen i chi egluro i ni yn glir iawn, oherwydd mae pobl mewn penbleth; maent yn poeni; maent yn ofni eu bod yn torri'r gyfraith.