Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 3 Mehefin 2020.
Mae'n rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus sy'n annibynnol. Mae'n ddyletswydd arnom oherwydd y rhai a fu farw ac i'r staff rheng flaen sydd wedi rhoi eu bywydau yn y fantol yn yr argyfwng hwn. Ond, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod ar sail y pedair gwlad, gan gynnwys archwiliad trwyadl o'r ymdriniaeth yng Nghymru, ac oherwydd i'r holl benderfyniadau cychwynnol allweddol gael eu gwneud ar sail y pedair gwlad. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud droeon, fe ddechreuwyd ar y cyfyngiadau symud ar yr un pryd ac mae eisiau inni ddod â'r cyfyngiadau hynny i ben gyda'n gilydd os oes modd, ac yna fe ddylem ddysgu'r gwersi gyda'n gilydd hefyd.
Y cwestiwn cyntaf y dylai unrhyw ymchwiliad cyhoeddus edrych arno yw pam na ddigwyddodd y cyfyngiadau symud yn gynharach. Fe fydd y lluniau hynny o ŵyl Cheltenham wedi eu serio ar feddyliau'r cyhoedd am flynyddoedd i ddod. Fel y dywedodd Angela Burns, yng Nghymru, roedd gennym gyngerdd mawr gan y Stereophonics, ac yng Ngwent, gêm rygbi fawr rhwng y Dreigiau a Benetton ychydig ddyddiau cyn y cyfyngiadau symud. Roeddem yn gallu gweld yr hyn a oedd yn digwydd yng ngweddill Ewrop, ac mae'n amlwg bod newid cyfeiriad wedi digwydd, ond yn rhy hwyr yn fy marn i. Mae'r cwestiynau hyn a rhai eraill yn haeddu atebion, ac atebion gwirioneddol o ran hynny, nid y math yr ydym ni'n gyfarwydd â gweld Matt Hancock yn eu rhoi yn y sesiynau briffio dyddiol i'r wasg.
Rydym ni ymhell i ffwrdd o fod yn barod i gynnal ymchwiliad priodol. Mae angen canolbwyntio heddiw, yfory ac yn y dyfodol rhagweladwy ar achub bywydau, gan leihau effaith COVID-19 ar ein cymunedau a chyflwyno normalrwydd newydd yn ddiogel yn ein bywydau ni i gyd. Yn ôl unrhyw fesur, rydym ymhell i ffwrdd o sicrhau hynny. Nid wyf i, felly, am gefnogi cynnig y Torïaid heddiw, na allasai fod yn fwy digywilydd yn ei wleidyddiaeth pe byddai wedi ei ysgrifennu mewn geiriau glas a'i selio â rhosglwm glas. Drwy nodi'r etholiad nesaf fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, rydych chi'n dweud, yn syml, eich bod chi'n dymuno gwneud hon yn frwydr wleidyddol, ac nid yn ymarfer dysgu gwirioneddol a fydd yn achub bywydau. Fe fyddai tynnu sylw oddi wrth y bobl hynny sy'n brwydro yn erbyn y pandemig ar hyn o bryd drwy eu cael nhw i mewn i sefyllfa o ymchwiliad cyhoeddus nawr, wrth i'r pandemig barhau i fod yn angheuol, yn resynus o anghyfrifol. Fe fyddai'n debyg i gadw awyrennau Spitfire a Hurricane ar y ddaear ynghanol y Battle of Britain ar gyfer trafod cynlluniau hyfforddiant peilotiaid i'r dyfodol.
Oes, mae yna bethau y gallwn ni eu dysgu wrth fynd ymlaen, ac mae gan bwyllgorau'r Cynulliad swyddogaeth hanfodol wrth graffu ar yr ymateb i'r COVID ar sail barhaus. Rwy'n falch fod y ddau bwyllgor yr wyf i arnyn nhw wedi ymrwymo i wneud hynny mewn ffordd egnïol. Nid oes dim synnwyr yn fy meddwl i fod unrhyw un yn ffoi rhag craffu. Yn wir, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wrando'n ofalus ar farn y pwyllgorau, ac anwesu ein hargymhellion ni'n wirioneddol fel cyfle i ychwanegu gwerth a gwella'r ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Un o'r unig bethau synhwyrol a ddywedodd Dominic Cummings erioed oedd ei fod ef wedi gwneud camgymeriadau'n ddyddiol yn ystod yr argyfwng hwn. Ac felly, do, fe fu camgymeriadau yng Nghymru hefyd, ac mae'n rhaid inni ddysgu oddi wrthyn nhw. Ond nid oes un foment wedi bod yn y pandemig hwn y bu i mi amau am eiliad hyd yn oed nad prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru oedd diogelwch fy etholwyr i a phawb arall yng Nghymru. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallai neb ei ddweud mewn difrif am Lywodraeth y DU, ac rwy'n credu y dylem weld y cynnig hwn heddiw am yr hyn ydyw—ymgais ryfygus i dynnu sylw oddi wrth hynny. Diolch.