Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 3 Mehefin 2020.
Rwy'n diolch i'r Blaid Geidwadol am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon i'r cyfarfod llawn, ac a gaf i adleisio'r sylwadau a wnaeth Joyce Watson ac Angela Burns ynglŷn â staff rheng flaen a'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud drwy gydol yr epidemig coronafeirws hwn? Nid ydym yn sôn am ymchwiliad i'w hymddygiad nhw; rydym yn sôn am ymchwiliad i ymddygiad llywodraethau'r DU.
Mae'n bwysig inni ddangos i'r cyhoedd ein bod ni'n barod—a defnyddio'r ystrydeb honno y mae'r gwleidyddion yn hoff ohoni—i ddysgu gwersi. Rydym ni'n cefnogi'r cynnig hwn ac yn gobeithio y bydd y Senedd yn dangos aeddfedrwydd i gydnabod yr angen am ymchwiliad, nid ar gyfer pwyntio bys, ond i geisio dod o hyd i'r hyn a wnaed yn effeithiol—ac roedd yna lawer o bethau—ond i dderbyn bod llawer o bethau eraill y gellid bod wedi eu gwneud yn well nid yn unig gan Lywodraeth Cymru , ond gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd.
Mae'n hanfodol bwysig nad ydym ni'n gwneud yr un camgymeriadau y tro nesaf, ac mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym y bydd argyfyngau o'r fath eto. Drwy gydol yr argyfwng hwn, dywedwyd lawer gwaith mae amseroedd digynsail yw'r rhain. Wel, nid yw hyn yn wir mewn gwirionedd—fe gafwyd rhybuddion mor ddiweddar â 2016. Rhybuddiodd Sefydliad Iechyd y Byd mai coronafeirws sy'n gysylltiedig â SARS a fyddai achos tebygol epidemig yn y dyfodol. Roedden nhw'n annog llywodraethau i gynllunio i gael profion diagnostig a datblygu brechlynnau. Ac eto ni wnaed dim am hynny. Fe wnaethom ni yn y DU fethu â rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod holl asiantaethau'r GIG wedi cael eu harfogi â'r diogelwch angenrheidiol y byddai ei angen arnynt.
Mae'n anffodus bod gwleidyddiaeth ar ei gwaethaf wedi ymddangos mewn rhai agweddau ar y ffordd yr ymdriniwyd â'r argyfwng hwn. Roedd yr awydd ymddangosiadol yn y Llywodraethau datganoledig i fynnu eu hawdurdod eu hunain, ar brydiau, yn ymddangos fel ystryw i elwa ar ddiffygion Llywodraeth y DU, yn hytrach na gweithredu gydag unffurfiaeth ledled y gwledydd. Weithiau, roedd yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ailgodi Clawdd Offa o ochr Cymru yn hytrach na gweithredu fel Llywodraeth ymrwymedig i'r Deyrnas Unedig.
Mae'r rhybuddion yno: fe fydd pandemigau fel hyn yn digwydd eto, ac o bosibl yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, sy'n golygu ei bod yn sylfaenol bwysig y bydd yna archwiliad o'r bôn i'r brig ynghylch pam roeddem ni mor gyndyn i baratoi er gwaethaf y rhybuddion. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny i raddau helaeth, ond mae yna lawer o feysydd lle'r ydym ni yng Nghymru hefyd wedi bod yn wan.
Mae'n rhaid ei bod hi'n amlwg i bawb na all y wlad, unrhyw wlad mewn gwirionedd, roi cyfyngiadau symud llwyr yn y modd sydd gennym ni nawr, fel yr ydym ni'n tystio iddo, ar sail reolaidd. Mae'r costau economaidd yn rhy uchel o lawer. Bydd ieuenctid y wlad hon yn talu am y pandemig hwn mewn trethi uwch am flynyddoedd i ddod, am ddegawdau efallai. Bydd yn rhaid gwrthweithio'r pandemigau hyn mewn rhyw ffordd arall.
Mae'n ffaith mai dim ond trwy wyddoniaeth y byddwn ni'n gallu osgoi canlyniadau trychinebus pandemigau ar raddfa mor fyd-eang. O gofio bod gennym ni yma yng Nghymru rai o'r cyfleusterau gorau yn y byd ar gyfer ymchwil yn y meysydd hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu'r sefydliadau hynny a rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ledled y DU fel y gallwn ni yng Nghymru aros ar flaen y gad ym maes ymchwil o'r fath.
Llywydd, gwyddoniaeth, ac nid cyfyngiadau symud, yw'r unig ateb i bandemigau feirysol.