Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 3 Mehefin 2020.
A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, nad oes gennyf i wrthwynebiad i'r syniad o ymchwiliad? Rwy'n credu na ellir osgoi hynny. Fe fydd yna gwestiynau y mae'n rhaid eu gofyn, a rhai cwestiynau y bydd angen ateb arnyn nhw. Rwyf i o'r farn fod hynny'n wir am bob un o lywodraethau'r DU. Felly, nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad i gyfeiriad y cynnig, ond rwy'n amau'n gryf iawn nad hon yw'r ffordd iawn o wneud hynny.
Yn gyntaf, hyd y gwn i, nid oes gan y Senedd hon mo'r gallu i gychwyn ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, sef yr hyn yr wyf i'n credu i'r Aelodau awgrymu eu bod yn ei ddymuno. Ac nid wyf i'n credu ychwaith fod y ffaith ei fod yn nwylo'r Senedd hon yn ei gwneud yn llai, nac yn fwy annibynnol, nag y byddai pe bai yn nwylo'r Llywodraeth. Diogelir annibyniaeth yr ymchwiliad gan y barnwr neu'r sawl sy'n arwain yr ymchwiliad, nid y sawl sy'n ei sefydlu yn y lle cyntaf. Fe fyddai angen pleidlais ar y telerau a'r amodau, fe fyddai angen pleidlais ar y ffordd y byddai'r ymchwiliad yn cael ei sefydlu, ac fe fyddai yna bleidlais ar bwy fyddai cadeirydd yr ymchwiliad. Felly, nid wyf i'n credu ei bod hi'n realistig nac yn synhwyrol i hyn fod yn ffurfiol yn nwylo'r Senedd hon, er fy mod i'n derbyn y pwynt ei bod hi'n bosibl iawn y bydd angen trafodaeth yn y dyfodol rhwng y pleidiau o ran sut y gallai hyn weithio.
A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, rhaid wynebu hyn, nad dadl mo hon am gael ymchwiliad? Dadl yw hon heddiw ar gyfer gwneud a sgorio pwyntiau gwleidyddol. Fe allwn innau hefyd eistedd yn y fan hon a dweud, 'Wel, ydym, rydym yn awyddus i wybod pam oedd Llywodraeth y DU mor gyndyn i atal pobl rhag dod i mewn i'r wlad? Pam cyflwyno'r rheol cwarantin o 14 diwrnod sy'n ymddatod ar hyn o bryd? Pam mae'n iawn teithio 260 milltir os ydych chi'n gynghorydd arbennig a 60 milltir arall i roi prawf ar eich llygaid os ydych chi'n gyrru? Pam, er enghraifft, ledled y DU, neu yn Lloegr yn hytrach, y cafwyd targed dyddiol o 100,000 o brofion a gafodd ei ollwng, oherwydd na chafodd y targed hwnnw ei gyrraedd? A hyd yn oed wedyn roedd hwnnw'n cynnwys profion, wrth gwrs, a oedd wedi cael eu hanfon allan ond na chafodd eu cwblhau mewn gwirionedd.' Mae pob math o gwestiynau sy'n gofyn am atebion. Ar gyfer y dyfodol y mae hynny.
Ond gadewch imi ganolbwyntio, ar ôl gwneud y pwyntiau hynny, ar yr agweddau cyfreithiol yn y cyswllt hwn a rhai ymarferol efallai. Nid dyma'r amser i ddechrau paratoi ar gyfer ymchwiliad. Rydym ynghanol argyfwng. Nid yw'n syniad da i swyddogion fod yn ystyried sefydlu ymchwiliad ar yr un pryd ag ymdrin â'r argyfwng gwaethaf a wynebodd unrhyw un ohonom erioed. Nid dyma'r amser i ddechrau ystyried sefydlu ymchwiliad i rywbeth nad yw wedi dod i ben hyd yn oed. Mae'n rhaid ichi gadw mewn cof ei bod yn bosibl—rydym ni'n gobeithio nad felly, ond mae'n bosibl—y gwelwn ni ail benllanw ym mis Hydref. Mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n dal i ymdrin â hyn adeg y Nadolig. Ni ellir sefydlu ymchwiliad i adrodd erbyn mis Mawrth ar y mater hwn, hyd yn oed pe byddai hwnnw'n dechrau heddiw oherwydd—. Fe soniodd Adam Price am ymchwiliad Grenfell. Wel, fe ddechreuodd hwnnw ar ei waith ar 4 Mehefin 2018. Fe gymerodd 16 mis i lunio dim ond canfyddiadau rhagarweiniol i gam un. Fe gymerodd sawl mis i'w sefydlu. Nid yw'r pethau hyn yn digwydd dros nos; maen nhw'n cymryd amser maith iawn i'w sefydlu ac amser maith iawn i roi'r broses yn ei lle ac amser maith i glywed yr holl dystiolaeth. Nid oes gobaith o gwbl y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn adrodd yn ôl cyn mis Mawrth. Gellid cael rhywbeth ffwrdd â hi, ond nid ymchwiliad cyhoeddus. Ni allai unrhyw ymchwiliad a fyddai'n cyflawni'r hyn y gofynnodd yr Aelodau amdano gyflwyno adroddiad erbyn hynny. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n werth gwneud y pwynt hwnnw.
O ran cynnig y Ceidwadwyr, wel, oni bai eich bod yn barod i ohirio'r etholiadau tan ddyddiad amhenodol, yna nid oes modd gwarantu y byddai'r canfyddiadau gyda ni erbyn mis Mawrth. Ni fyddai'r un barnwr rhesymol yn ystyried llywio ymchwiliad fel hwn pan fyddai rhywun y dweud wrtho, 'Bydd yn rhaid ichi gyflwyno eich tystiolaeth a llunio adroddiad mewn dau fis, i bob pwrpas.' Ni wnaiff hynny ddigwydd. Gadewch inni fod yn realistig: nid hon yw'r ffordd iawn. Er y cynhelir ymchwiliad rywbryd—nid wyf i'n amau hynny—nid oes unrhyw ffordd o allu gwneud hynny cyn mis Mawrth.
Fe fyddwn i'n annog y Ceidwadwyr yn y Cynulliad i beidio â chwarae gwleidyddiaeth yn hyn o beth. Rydym wedi gweld eu ASau nhw'n gwneud hynny—llythyr arall ddoe. Fe aeth hynny i lawr yn wael, credwch chi fi. Dro ar ôl tro, rwyf wedi clywed pobl yn dweud, 'Beth sydd a wnelo hyn â nhw?' a 'Pam maen nhw'n canolbwyntio ar hynny ac nid ar ymdrin â'r feirws?' Os ydyn nhw'n dymuno ysgrifennu eto, wel eu busnes nhw yw hynny. Ond, credwch chi fi, ni wna hynny unrhyw les o gwbl iddyn nhw.
Yr ail fater yw—rwy'n edrych ar y cloc, Llywydd—os bydd ymchwiliad o dan y Ddeddf Ymchwiliadau yng Nghymru yn unig, yna bydd yn rhaid iddo fod yn cydredeg ag ymchwiliad sy'n digwydd yn y DU. Cofiwch, nid wyf yn credu bod y pŵer yn bodoli, hyd yn oed ar ran Llywodraeth Cymru, i orfodi tystion o'r tu allan i'r meysydd datganoledig: yr heddlu, yr Asiantaeth Ffiniau, yr holl bobl hynny y byddai unrhyw ymchwiliad yng Nghymru yn awyddus i glywed ganddyn nhw, ond a fyddai'n gallu penderfynu, ar gyfarwyddyd o Lundain, i beidio â rhoi tystiolaeth, ac ni fyddai dim y gallem ni ei wneud yn ei gylch. Mae'n anochel, yn fy marn i, er mwyn cael y darlun llawnaf posibl, fod yn rhaid cael ymchwiliadau yn cydredeg yn Lloegr neu'r DU ac yng Nghymru ar yr un pryd er mwyn cael y math o atebion y byddai pobl yn awyddus i'w clywed.
Felly, i mi, mae'n rhaid dweud, nid oes gobaith cael unrhyw fath o ganfyddiadau erbyn mis Mawrth, hyd yn oed pe gallai ymchwiliad o'r fath ddechrau yfory nesaf, trwy ryw ryfedd wyrth. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw tryloywder. Yr hyn sy'n bwysig yw bod ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ryw adeg—nid wyf i'n amau hynny—ond mae'n rhaid iddo fod yn ymchwiliad llawn a phriodol ac nid yn rhyw fath o lys cangarŵ ar ras, oherwydd nid yw pobl Cymru yn haeddu dim llai na hyn.