Part of the debate – Senedd Cymru am 4:57 pm ar 3 Mehefin 2020.
Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn dyst i benderfyniad a dycnwch pobl Cymru ac, yn arbennig, i'r nifer fawr sydd wedi bod yn barod i roi eu hunain mewn perygl er gwell, a hoffwn i ddiolch o galon i bob un ohonyn nhw. Dyma'r pandemig cyntaf gwirioneddol fyd-eang mewn mwy na chanrif, ers i ffliw Sbaen daro'r byd wrth i'r rhyfel byd cyntaf dynnu at ei derfyn, ac er bod ein byd ni sydd wedi'i gysylltu'n fyd-eang, yn wahanol iawn, mae'r awydd dwfn i fod gyda theulu a ffrindiau, i weithredu rhwydwaith cymdeithasol, yn parhau i ysgogi'r ddynoliaeth.
Mae dyfodiad technoleg wedi bod yn gymorth sylweddol, ond rydym hefyd yn bobl sydd wedi ein cyfyngu'n llai, ac nid ydym yn gyfarwydd â chyfyngiadau o'r fath gan y Llywodraeth ar ein hawliau. Mae penderfyniadau anodd wedi'u gwneud, ond rhaid inni asesu'r penderfyniadau hynny a dysgu oddi wrthynt. Rhaid rhannu arferion gorau a chynnal dadansoddiad llawn a gonest o ble'r aeth pethau o chwith, beth a gafodd ei wneud yn dda a sut y gallai pethau newid y tro nesaf y bydd hyn yn digwydd. A dyna pam mae'n rhaid inni gael ymchwiliad gwirioneddol annibynnol wedi'i arwain gan farnwr. Ein hetifeddiaeth fydd rhoi'r mesurau diogelu ar waith i'n plant ac i blant ein plant.
Y cwestiwn cyntaf y dylid ei ofyn mewn ymchwiliad yw a gafodd y cyfyngiadau symud eu gorfodi ar yr adeg iawn. Roedd yn rhaid i lawer o'r penderfyniadau gael eu pennu gan Lywodraeth San Steffan gan fod ein ffin mor dreiddadwy a bod y feirws hwn wedi llifo drwy'r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, roedd rhai penderfyniadau o fewn pwerau Llywodraeth Cymru. Dylai'r adolygiad ystyried a ddylid bod wedi caniatáu i gyngerdd y Stereophonics yn Stadiwm y Mileniwm gael ei gynnal. Daeth degau o filoedd o bobl i ganol y ddinas yn sgil y digwyddiad hwn. Er bod gêm y chwe gwlad, Cymru yn erbyn yr Alban, wedi'i gohirio, dim ond ar y funud olaf oedd hynny, unwaith eto, ar ôl i lawer o gefnogwyr deithio o rannau eraill o Gymru ac o'r Alban.
Ond yn fwy cyffredinol, pa wersi y gallwn ni eu dysgu o'r cyfyngiadau symud? A ddylem ni edrych ar gyfyngiadau symud lleol gwahanol? Ai'r rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m yw'r un fwyaf priodol? Beth yw profiad y rhai sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain? A wnaeth ein cadwyn fwyd ni ymdopi? Os na, pam? A sut, o sut, y cafodd cartrefi gofal eu hanwybyddu yn y brys i ddiogelu ein GIG?
Bydd angen i'r ymchwiliad ystyried a oedd digon o ddarpariaeth a defnydd o gyfarpar diogelu personol drwy gydol yr argyfwng. Byddem ni eisiau i'r ymchwiliad ystyried a oedd digon o gyflenwad yn gyffredinol, ar gyfer pob bwrdd iechyd, awdurdod lleol, cartref gofal preifat, cyhoeddus a gofal preswyl cymysg. Dylai'r ymchwiliad asesu a oedd y defnydd gorau wedi ei wneud o'r cyfarpar diogelu personol ac a oedd hyfforddiant digonol wedi'i ddarparu i sefydliadau prynu a staff rheng flaen, ac yn wir mae angen i'r ymchwiliad adolygu diffiniad 'staff rheng flaen'. Pwy all wadu bod fferyllfeydd wedi bod ar y rheng flaen? Ac eto, roedd eu darpariaeth cyfarpar diogelu personol yn llanast: dim cydlyniant, dim llawer o feddwl y tu ôl iddi, ac yn anodd ei chyrchu. Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae'n ymddangos ein bod mewn gwell sefyllfa o ran cyfarpar diogelu personol, ond roedd diffygion amlwg. Dim ond 24 awr o stoc oedd gan rai sefydliadau ar ôl. Mae angen inni adolygu stociau, opsiynau gweithgynhyrchu a mynediad at gyfarpar diogelu personol, ac a oes gennym ddigon i gynnal unrhyw bandemig pellach neu gyfnodau pellach o gynnydd.
Un o'n prif feysydd eraill sy'n peri pryder yw'r sefyllfa o ran profi yma yng Nghymru, ac mae hwn yn faes allweddol ar gyfer unrhyw ymchwiliad. Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd ar y cychwyn cyntaf mai'r neges allweddol yw 'profi, profi a phrofi '. Ac mae hon yn neges yr wyf i a fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi'i chefnogi erioed. Mae profi yn un o'r elfennau pwysicaf o ran mynd i'r afael ag ymlediad coronafeirws a helpu gwledydd i lacio'r cyfyngiadau symud.
Beth yw'r feirws? Ble mae e? O ble y tarddodd? Sut y neidiodd ef ffiniau? Pa effaith y mae'n ei gael ar wahanol bobl? Ydy e'n newid ac yn datblygu? Beth all ei ladd? Beth all ein diogelu rhagddo? Pam? Pam? Pam? Dyna gwestiynau nad ydym ni wedi ystyried eu gofyn eto heb sôn am eu hateb. Bydd system brofi gynhwysfawr yn darparu data i'n galluogi ni i ateb rhai o'r cwestiynau hyn, ond mae profi yng Nghymru wedi bod yn warthus.
Cafodd targedau eu gosod, eu gwadu a'u gollwng. Roedd gan y Gweinidog iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru uchelgeisiau a nodau gwahanol. Ers dechrau'r argyfwng rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael tîm profi pwrpasol ac atebol, dan arweiniad unigolyn sydd â phrofiad sylweddol o logisteg. Mae angen i'r ymchwiliad edrych ar faint yr her a gallu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni. Dylai'r ymchwiliad edrych ar beth yn union ddigwyddodd gyda'r 5,000 o brofion coll bob dydd. A oedd gan Roche gytundeb ag Iechyd Cyhoeddus Cymru neu a oedden nhw ond mewn cyfnod o drafod rhagarweiniol? Mae angen eglurder ynghylch a oedd gan Lywodraeth Cymru fargen ffurfiol erioed ynteu a oedd honiadau'r Prif Weinidog yn gwbl gywir.
Rhaid i'r ymchwiliad ganolbwyntio ar y rheswm pam, gerbron un o bwyllgorau'r Cynulliad, y gwadodd Pennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyson unrhyw wybodaeth am y targed prawf 9,000 cyn ysgrifennu at y pwyllgor yn ddiweddarach i egluro ei sylwadau. Dylai'r ymchwiliad adolygu pam y gorfodwyd y cyfyngiad o 15 prawf y diwrnod ar awdurdodau ac yna ei godi dim ond ar ôl i adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru ar 18 Ebrill nodi y gallai fod wedi lleihau'r galw. Ai hwn oedd y cam cywir? Beth oedd y syniad y tu ôl i'r terfyn? A ddylai profion fod wedi'u dechrau yn rheolaidd cyn 18 Mawrth? A oedd ffactorau rhyngwladol yn ffactor cyfrannol, fel yr oedd Lywodraeth Cymru wedi'i honni? A gafodd arbenigwyr logistaidd o'r fyddin eu defnyddio yn ddigon cynnar? A ddylai canolfannau profi fod wedi cau ar wyliau banc? Rwy'n croesawu tro pedol Llywodraeth Cymru ar 2 Mai, ond roedd yn fater o beidio gwneud digon mewn pryd.
Pam y cafodd cartrefi gofal eu hanwybyddu er gwaethaf y rhybuddion? Pam na chafodd staff a phreswylwyr eu profi'n rheolaidd? A oedd gennym ddigon o gapasiti labordai? Pam na wnaeth Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r labordai a oedd ar gael yn gynt? Pam y cymerodd ddiwrnodau i brosesu profion o'r Gogledd a'r Gorllewin? Sut y dylai'r broses hysbysu gael ei symleiddio? Mae'r rhestr yn ddiddiwedd, ond mae angen i ni ystyried profi o ddifrif. Ac mae angen i'r ymchwiliad edrych hefyd ar gasglu data oherwydd, dan bwysau—