2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 11:05 am ar 10 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 11:05, 10 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Mae ein system yng Nghymru yn bartneriaeth rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol. Mae dros 600 o staff, sydd â phrofiad o weithio gyda'r cyhoedd, wedi'u recriwtio a'u hyfforddi gan awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Ni fydd pob un yn ymgymryd â gwaith olrhain cysylltiadau eto oherwydd y nifer isel o achosion newydd sydd wedi’u cadarnhau, ond mae'r capasiti yno i gynyddu’r gwaith os oes angen, ac mae trefniadau gofalus wedi’u gwneud yn ein system i ddiogelu data personol ac i warchod rhag twyll. Ac mae hynny oll yn bwysig gan fod hon yn system sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth, sydd wedi'i galluogi gan dechnoleg ac wedi'i staffio gan bobl leol. Bydd yn darparu’r seilwaith hanfodol i’n helpu i atal trosglwyddiad y feirws a lleihau’n raddol y cyfyngiadau ar fywyd o ddydd i ddydd yng Nghymru.

Lywydd, mae’n rhaid inni fod yn barod am gynnydd posibl mewn trosglwyddiad, oherwydd wrth i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio, bydd nifer y cysylltiadau personol yn cynyddu hefyd. Yn y cyd-destun hwnnw, rydym wedi adolygu'r dystiolaeth ar rôl gorchuddion wyneb, ac adroddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyngor newydd ddoe, yn hybu’r defnydd o orchuddion wyneb anfeddygol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Darparodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig ddoe hefyd a oedd yn nodi ein bod ar y trywydd iawn i gwblhau’r cam cyntaf mewn perthynas â phrofi’r holl breswylwyr a staff mewn cartrefi gofal yng Nghymru erbyn diwedd yr wythnos hon, a byddwn bellach yn profi pob gweithiwr mewn cartrefi gofal bob wythnos am gyfnod o bedair wythnos arall.

Lywydd, rhoddwyd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer gofynion cwarantin ar y ffin ar waith yr wythnos hon. Mae diogelwch ar y ffin yn fater a gedwir yn ôl, ond gan fod y trefniadau cwarantin yn cael eu gweithredu drwy ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd, roedd angen i Weinidogion Cymru bennu rheoliadau cyfatebol i Gymru. Pan fydd pobl yn nodi eu bod yn bwriadu gosod eu hunain dan gwarantin mewn cyfeiriad yng Nghymru, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu â hwy.

Lywydd, mewn datganiadau blaenorol, rwyf wedi ystyried effaith y feirws ar waith Llywodraeth Cymru, ar ei chyllideb ac ar feysydd eraill. Nid yw'r rhaglen ddeddfwriaethol yn eithriad, gyda gostyngiad sydyn yng ngallu'r Llywodraeth i gyflwyno ein cynigion, a heriau, yn wir, i'r ddeddfwrfa wrth gyflawni'r cyfrifoldeb i graffu ar y cynlluniau hynny o dan yr amgylchiadau presennol.

Ddoe, rhoddodd datganiad y Gweinidog Addysg wybod i’r Gweinidogion fod y Llywodraeth, yn gyndyn iawn, wedi dod i’r casgliad na fydd yn ymarferol bwrw ymlaen fel y cynlluniwyd gyda’r Bil diwygio addysg drydyddol. Bellach, bydd yn cael ei gyhoeddi fel Bil drafft ar gyfer ymgynghoriad. Byddaf yn gwneud datganiad y mis nesaf ar gynlluniau deddfwriaethol y Llywodraeth ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon.

Lywydd, cawsom dystiolaeth bwysig ddoe ar sut y mae coronafeirws yn effeithio ar fywydau plant yng Nghymru. Mae hwn wedi bod yn gyfnod anarferol i bob un ohonom, ond i blant, bydd argyfwng coronafeirws yn gyfran sylweddol o'u bywydau. Mae rhoi sylw i'w hanghenion a'u profiad yn rhan bwysig o’n hymateb i'r argyfwng.

Rhannodd dros 23,700 o blant a phobl ifanc rhwng tair a 18 oed eu barn drwy arolwg 'Coronafeirws a Fi'. Mae'r arolwg hwn yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Plant yng Nghymru a'r Senedd Ieuenctid. Tanlinellodd yr arolwg i ba raddau y mae pobl ifanc wedi bod yn colli eu teulu a'u ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn, ac i bobl ifanc yn arbennig, mae wedi tanlinellu eu gofid am eu haddysg a'u pryderon ynghylch bod ar ei hôl hi.

Fel y mae ein prif swyddog meddygol wedi egluro'n gyson, mae mwy nag un math o niwed o ganlyniad i coronafeirws. Mae’n rhaid i anghenion plant fod yn bryder gwirioneddol wrth inni geisio cydbwyso manteision diogelu rhag y feirws yn erbyn y niwed sy’n deillio o golli addysg a chyswllt cymdeithasol, ac nid oes amheuaeth y bydd y niwed hwnnw’n effeithio fwyaf ar y rhai sydd eisoes dan anfantais. O'r cychwyn cyntaf,  rydym wedi mynd ati i liniaru'r niwed hwnnw drwy gadw ysgolion ar agor i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim, a phlant gweithwyr allweddol. Ond i lawer o blant, nid ydynt wedi cael unrhyw gyswllt â'r ysgol, ac efallai bod eu profiad o ddysgu o bell wedi bod yn gymysg.

Dyna pam y mae'r Gweinidog Addysg, wrth ystyried yr opsiynau ar gyfer gweddill y tymor hwn, wedi rhoi blaenoriaeth i sicrhau y bydd pob disgybl yn cyfarfod â'u hathro mewn grwpiau bach i'w cefnogi gyda'u dysgu a'u cynlluniau ar gyfer y cam nesaf. Cadarnhaodd datganiad y Gweinidog yr wythnos diwethaf mai dychweliad graddol i’r ysgol fydd hwn. Bydd yn cychwyn ar 29 Mehefin ac yn parhau tan ddiwedd mis Gorffennaf, gan sicrhau mis llawn o addysg ar ei ffurf newydd ar gyfer yr holl ddisgyblion cyn gwyliau'r haf.

Yn olaf, Lywydd, gofynnodd arweinydd Plaid Cymru gwestiwn i mi ynglŷn â protestiadau Black Lives Matter, ac roeddwn yn ddiolchgar iddo am wneud hynny. Mae'r dicter a deimlir yn sgil marwolaeth George Floyd wedi tynnu sylw, yn gwbl briodol, at brofiad ehangach pobl dduon yn ein cymdeithas. Mae llawn cymaint o angen i ni yma yng Nghymru ag unrhyw un arall wynebu ein hanes ein hunain, cydnabod rhan cymunedau duon ynddo, a mynd i’r afael â'r gwahaniaethu systematig a’r gwahaniaethu y mae pobl dduon yn dal i'w wynebu heddiw. Nid yw hanes unrhyw un ar hyn yn berffaith: unrhyw blaid wleidyddol; unrhyw sefydliad, cyhoeddus na phreifat; nac unrhyw Lywodraeth. Yr unig beth yr hoffwn ei ddweud wrth ddinasyddion duon yma yng Nghymru heddiw yw hyn: er bod yr hanes wedi bod yn amherffaith, mae Llywodraeth Cymru yma i sefyll gyda chi, i weithio gyda chi, i ddysgu oddi wrthych wrth inni ailymrwymo i wneud gwahaniaeth go iawn yn y dyfodol. Lywydd, diolch yn fawr.