Part of the debate – Senedd Cymru am 11:02 am ar 10 Mehefin 2020.
Lywydd, fel yn yr wythnosau diwethaf, bydd fy adroddiad yn canolbwyntio ar faterion nad ydynt wedi’u cynnwys yn y datganiadau i ddod gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.
Lywydd, mae nifer yr achosion newydd o'r feirws yng Nghymru yn parhau i ostwng, ynghyd â nifer y derbyniadau i ysbytai ac i ofal critigol. Nodwyd 42 o achosion newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddoe. Erbyn hyn, mae 40 o gleifion mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru yn dioddef o coronafeirws, i lawr o’r nifer uchaf o 164 ym mis Ebrill. Mae nifer y derbyniadau newydd ar gyfer coronafeirws wedi gostwng o dros 1,000 yr wythnos, ar ei uchaf, i 710 yr wythnos diwethaf. Mae'r tueddiadau hyn yn galonogol, ac unwaith eto rwy'n diolch i bobl yng Nghymru am eu hymrwymiad a’u hundod dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.
Er hynny, Lywydd, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddoe y bu cyfanswm o 2,240 o farwolaethau'n ymwneud â coronafeirws yng Nghymru ym mhob lleoliad hyd at 29 Mai. Nifer y marwolaethau a adroddwyd ddoe gan Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd naw, wrth i’r duedd barhau tuag at i lawr. Ond mae pob un o'r rheini'n unigolion â bywydau y gallent fod wedi’u byw. Bydd colled fawr ar ôl pob un ohonynt. Ac mae'n hanfodol o hyd fod pob un ohonom yn parhau i ddilyn y rheolau i ddiogelu ein hunain ac eraill.
Lywydd, adroddais yr wythnos diwethaf ar y penderfyniadau a wnaed fel rhan o'r adolygiad diweddaraf o'r rheoliadau, i lacio rhai o'r cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Byddwn yn eu llacio ymhellach, cyn gynted ag y bydd yn ddiogel i wneud hynny, ond dim ond pan fydd yn ddiogel i wneud hynny.
Rydym wedi cymryd y camau gofalus hyn a gefnogir gan ein system brofi, olrhain a diogelu, a roddwyd ar waith yr wythnos diwethaf. Fel rwyf wedi’i ddweud, mae nifer yr achosion o coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru'n parhau i ostwng. Yr wythnos diwethaf, y nifer uchaf ar unrhyw ddiwrnod unigol oedd 82, a’r isaf oedd 35. Arweiniodd yr achosion hyn at 651 o bobl ar gyfer gwaith dilynol gan y timau olrhain cysylltiadau, ac o’r 651 hynny, maent eisoes wedi llwyddo i gysylltu â 619 ohonynt a’u cynghori.