Part of the debate – Senedd Cymru am 11:35 am ar 10 Mehefin 2020.
Wel, Lywydd, mae yna awdurdodau sydd â chyfrifoldebau yn y maes hwn—yr awdurdod lleol, yr awdurdod tân; byddant yn darparu adroddiadau ar y digwyddiadau y mae Llyr Gruffydd wedi cyfeirio atynt, a bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried yr adroddiadau hynny ac yna'n penderfynu pa gamau pellach y gallai fod eu hangen. Rwy’n derbyn y pwynt a wnaeth yn ei frawddeg olaf, ynghylch argaeledd offer ansawdd aer symudol, a byddaf yn edrych i weld a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i wella'r sefyllfa honno.