Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 10 Mehefin 2020.
Diolch, Lywydd. Mae etholiadau'n hanfodol i'n democratiaeth a dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw beth sy'n effeithio arnynt, ac felly rwy'n hapus iawn fy mod wedi gallu clywed barn fy nghyd-Aelodau yn y Siambr heddiw. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud dau beth pwysig iawn: maent yn gohirio unrhyw isetholiadau a fyddai wedi'u cynnal rhwng mis Mawrth eleni a mis Ionawr y flwyddyn nesaf, ac maent yn gwarchod y rhai sy'n trefnu ein hetholiadau rhag erlyniad troseddol o ganlyniad i'r camau angenrheidiol y bu angen iddynt eu cymryd i ddiogelu'r cyhoedd a'u staff. Golyga hyn y bydd unrhyw isetholiadau sy'n codi rhwng 16 Mawrth 2020 a 31 Ionawr 2021 ar gyfer sedd sy'n digwydd dod yn wag yn cael eu cynnal rhwng 1 Chwefror 2021 a 16 Ebrill 2021. Y swyddog canlyniadau priodol fydd yn penderfynu ar union ddyddiad yr etholiad. Drwy ddatgymhwyso adrannau 39 a 63 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, rydym hefyd wedi sicrhau na fydd gweithred neu anwaith ar ran swyddogion canlyniadau mewn perthynas ag etholiad a oedd i fod i gael ei gynnal ond a gafodd ei ohirio yn arwain at erlyniad troseddol.
Gwnaed y rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol, gan mai dyna sy'n ofynnol o dan Ddeddf Coronafeirws 2020. Mae adran 67 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud y rheoliadau ac mae adran 67(7) yn pennu'r weithdrefn sy'n gymwys. Roedd angen datgymhwyso'r confensiwn 21 diwrnod hefyd, gan nad oedd y Ddeddf ond yn rhoi indemniad i swyddogion canlyniadau am y cyfnod rhwng 15 Mawrth a 24 Ebrill. Drwy ddatgymhwyso'r confensiwn 21 diwrnod, mae'n caniatáu inni ddwyn y rheoliadau i rym erbyn 5 Mai, gan osgoi unrhyw fwlch dianghenraid lle gallai swyddogion canlyniadau fod yn atebol am weithredu er lles y cyhoedd.
Ar adeg llunio'r rheoliadau hyn, roedd llawer iawn o bryder o fewn y gymuned etholiadol ynghylch diogelwch cynnal etholiadau. Ar 18 Mawrth, ysgrifennodd fy swyddog cyfatebol yn y DU a minnau at y gymuned etholiadol i roi ein cefnogaeth lawn i swyddogion canlyniadau a fyddai angen gohirio etholiadau cyn i Ddeddf Coronafeirws 2020 ddod i rym.
Rwy'n ystyried bod gohirio etholiadau'n fater difrifol; mae'r rheoliadau hyn wedi bod yn angenrheidiol oherwydd yr argyfwng iechyd digynsail sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Byddai'n amhosibl cynnal isetholiadau teg ac agored a cheir risgiau sylweddol i iechyd y boblogaeth. Byddem mewn perygl o ddifreinio pobl yn y grwpiau risg ac o beryglu iechyd pleidleiswyr, ymgeiswyr, ymgyrchwyr a staff etholiadol. Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i swyddogion canlyniadau ddewis y dyddiad mwyaf priodol i gynnal etholiad a ohiriwyd rhwng 1 Chwefror 2021 ac 16 Ebrill 2021. Mae'r cyfnod hwn yn caniatáu digon o amser inni gael gwell dealltwriaeth o'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol, ac i gynllunio'n unol â hynny gyda'r gymuned etholiadol ac o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol.
Mae hyn yn digwydd cyn 6 Mai 2021, pan fydd yr etholiadau cyfredol ar gyfer ethol comisiynwyr heddlu a throseddu ac etholiadau'r Senedd i fod i gael eu cynnal. Mae cynnal etholiadau'r Senedd a'r comisiynwyr heddlu a throseddu ar yr un diwrnod yn gwneud y trefniadau'n gymhleth iawn, gan y byddant yn ymwneud â dwy system bleidleisio a dwy etholfraint wahanol. Ni fyddai'n ddymunol ychwanegu isetholiadau lleol wedi'u gohirio drwy'r trefniadau cymhleth hynny, ac felly mae angen ychwanegu dyddiadau Chwefror i 16 Ebrill pan fydd yn rhaid cynnal isetholiad.
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod isetholiadau a ohiriwyd yn cael eu cynnal ar y dyddiad hwn, ond oherwydd y cymhlethdodau rwyf newydd eu nodi, nid oedd hynny'n briodol ar gyfer Cymru, ac felly cynhelir ein hisetholiadau yn gynharach. Mae caniatáu i swyddogion canlyniadau bennu'r dyddiad yn caniatáu iddynt ddefnyddio eu harbenigedd i ystyried ffactorau lleol i drefnu'r dyddiad mwyaf priodol, ac oherwydd bod angen y rheoliadau hyn ar frys, mae rhai o'r manylion technegol ynghylch sut y caiff yr oedi hwn ei reoli wedi'u neilltuo ar gyfer cyfres ddiweddarach o reoliadau.
Ysgrifennais at y gymuned etholiadol ar 5 Mai yn nodi'r rhesymeg sy'n sail i'r rheoliadau cyfredol a beth fyddai'n cael ei gynnwys yn yr ail gyfres. Bydd y rhain yn cynnwys nifer o faterion, megis pleidleisiau post a fwriwyd yn flaenorol, treuliau ac iawndal am etholiadau gohiriedig.
Rwy'n parhau i weithio'n agos iawn â'r gymuned etholiadol a gweinyddiaethau eraill yn y DU ar reoli'r etholiadau gohiriedig hyn a sicrhau y gellir cynnal etholiadau'n ddiogel ac yn deg. Diolch, Lywydd.