– Senedd Cymru am 3:36 pm ar 10 Mehefin 2020.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020. Galwaf ar Suzy Davies i gyflwyno'r cynnig hwn. Suzy.
Diolch, Lywydd, a chyflwynaf y cynnig. Diolch, bawb, am aros i wrando ar hyn. Rwyf am ddechrau drwy wneud dau beth yn glir. Y cyntaf yw bod y rheoliadau hyn yn diogelu swyddogion amrywiol rhag atebolrwydd am beidio â chydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol arferol sy'n llywodraethu galw isetholiadau a'u cynnal. Gohiriwyd y gofynion arferol hynny gan Ddeddf Coronafeirws 2020. Mae'r rheoliadau hyn yn awr yn ceisio ymestyn y cyfnod hwnnw o ohirio a diogelu, ac felly maent yn bwysig.
Yr ail bwynt rwyf am ei wneud yw bod rheoliadau tebyg ar waith yn Lloegr sy'n ymestyn y cyfnod gohiriedig hyd yn oed ymhellach. Nid yw hynny'n bwysig, yn rhannol oherwydd nad yw fy etholwyr yng nghwm Ogwr a chanol Abertawe yn byw yn Lloegr, ac yn rhannol am nad oes etholiad Senedd yn Lloegr ym mis Mai.
Nawr, bydd yna feirniadaeth gyffredinol sy'n berthnasol i'r ddwy set hyn o reoliadau, ond mater i Aelodau Seneddol San Steffan yw herio'r rhai a wnaed ar gyfer Lloegr. Hoffwn i'r Senedd hon yng Nghymru ddeall yn llawn y rheoliadau hyn ar gyfer Cymru, diben gohirio isetholiadau am flwyddyn neu fwy, a gofyn wedyn a ydym ni fel y ddeddfwrfa yn credu bod honno'n ffordd addas o ymdrin â gohirio democratiaeth leol.
Nawr, yn fy rhanbarth i, mae dwy sedd wedi digwydd dod yn wag: un yn ward y Castell, oherwydd marwolaeth anffodus y cynghorydd uchel ei pharch, Sybil Crouch; ac un yn Nant-y-moel, o ganlyniad i garcharu cynghorydd nad oedd mor uchel ei barch, David Owen, ar ddechrau mis Mawrth. Daeth darpariaethau Deddf Coronafeirws 2020 i rym, gan ddatgymhwyso adrannau 39 a 63 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ar gyfer y cyfnod rhwng 15 Mawrth a 24 Ebrill 2020. Felly, gohiriwyd cynnydd ar y ddau isetholiad hynny.
Mae'r darpariaethau hynny fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog canlyniadau orchymyn etholiad, pennu dyddiad a chyhoeddi'r hysbysiadau angenrheidiol, ac maent yn golygu bod amryw o swyddogion yn agored i gollfarn ddiannod am beidio â chydymffurfio â'r gofynion hynny. Felly, roedd angen atgyweirio'r amddiffyniad i'r swyddogion hynny yn erbyn atebolrwydd am beidio â chydymffurfio, a ddaeth i ben ar 24 Ebrill, ac mae'n gwbl briodol fod swyddogion Llywodraeth Cymru am gyflwyno rheoliadau newydd yn gyflym. Felly, roeddent yn dal i adael swyddogion yn agored am 10 diwrnod da, ac yn llwyddo i dorri'r rheol 21 diwrnod ar gyfer gosod offerynnau statudol unwaith eto yn y broses o wneud hynny, ond gadewch inni fod yn hael, roedd yn adeg brysur iawn; ni chafodd neb niwed.
Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod yr offeryn yn llawn camgymeriadau: mae camgyfeiriadau at Orchymyn, nid rheoliadau; mae dyddiadau anghywir ynddo; cyfeirir at adrannau anghywir; ceir cyfeiriadau sy'n datgan bod darpariaethau'r Ddeddf corona wedi'u cyfyngu i ddwy flynedd, heb nodi bod y pwerau galluogi hyn—mae'n ddrwg gennyf, y pwerau ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn—yn eithriad i'r rheol honno; ceir cyfeiriad at Gydsyniad Brenhinol, sy'n gwbl ddiystyr yn y cyd-destun arbennig hwn. Felly, fel darn o gyfraith, beth bynnag fo'r bwriad, mae'n llanast, ac ar y sail hon yn unig, efallai y dylem fod yn dadlau y dylid eu dirymu ac y dylid gosod set newydd ar unwaith—rhai sy'n gwneud synnwyr.
Ond y prif reswm pam rwy'n gofyn i chi ystyried dirymu'r rheoliadau hyn yw nad ydynt yn gymesur. Dylai'r gyfraith fod yn gymesur bob amser, ond cadarnhawyd yr egwyddor honno, er nad oedd angen unrhyw gadarnhad, mewn rheoliadau corona eraill a wnaed ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Felly, roedd yr egwyddor honno yn bendant ym meddwl deddfwriaethol y Llywodraeth. Felly, hoffwn glywed gan y Llywodraeth beth sy'n gymesur am ohirio unrhyw isetholiadau i bob pwrpas o fis Mawrth eleni hyd nes rhwng mis Chwefror a mis Ebrill y flwyddyn nesaf—beth sy'n gymesur ynghylch gwrthod cyfle i fy etholwyr gael cynrychiolaeth leol am bron i flwyddyn, neu'n hwy hyd yn oed, heb ymgynghori â'r cyhoedd? Ac a gawn ni gofio nad yw pob ward yn ward ag ynddi fwy nag un aelod? Sut y cytunwyd ar y dyddiadau hyn, pan na siaradodd Llywodraeth Cymru â mwy nag ychydig o bobl a oedd yn ymwneud â chyfraith a chydlyniad etholiadol? Oherwydd nid yw eu cyfleustra'n bwysicach na safbwyntiau'r Senedd hon a'r bobl rydym yn eu cynrychioli. Ac nid wyf yn credu mai'r ateb yw dweud:
'Ceisir safbwyntiau rhanddeiliaid yn adolygol fel rhan o ymgynghoriad yn y dyfodol ar ddarpariaethau atodol angenrheidiol' heb ddweud pwy neu beth sydd gennych mewn golwg.
Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd hon feddwl yn ofalus iawn am ei hetholwyr a'r ddemocratiaeth y maent yn cael eu hamddifadu ohoni gan y rheoliadau hyn heb reswm cyfiawn ac i ddirymu'r rheoliadau hyn, sydd wedi'u drafftio'n wael ac sy'n ddiangen o ormesol. Gadewch inni ofyn i'r Llywodraeth osod rhai newydd heb y camgymeriadau, gyda chyfnodau gohiriedig byrrach, a chael memorandwm esboniadol i gyd-fynd â hynny sy'n esbonio pam y mae angen gohirio am gyfnod mor hir, ac os oes angen, i ddod yn ôl gyda set arall yn nes ymlaen, a set arall wedyn hyd yn oed o bosibl. Ond rwy'n gofyn i chi fod yn siŵr eich bod yn fodlon gadael eich etholwyr heb gynrychiolaeth am gymaint o amser. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. A ydw i'n glir i siarad?
Ydych, rwy'n gallu eich clywed. Parhewch.
Diolch, Lywydd. Bu'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ystyried y rheoliadau hyn ar 18 Mai. Yn ein hadroddiad a osodwyd gerbron y Senedd, a hynny ar yr un diwrnod, codwyd un pwynt adrodd technegol a thri phwynt ar sail rhagoriaeth, ac rydym yn tynnu sylw'r Senedd atynt.
Roedd y pwynt adrodd technegol yn ymwneud ag eglurder effaith y rheoliadau. Gwneir y rheoliadau gan ddefnyddio pwerau o dan adrannau 67 a 68 o Ddeddf Coronafeirws 2020. O dan y rheoliadau, mae 'etholiad perthnasol' yn golygu:
'etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru'.
Y cyfnod perthnasol yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 16 Mawrth 2020 ac sy'n dod i ben ar 31 Ionawr 2021. Nawr, nid oedd yn glir ar unwaith a fyddai etholiad perthnasol yn destun darpariaethau gohirio yn yr amgylchiadau lle byddai'r amserlen statudol gyffredin ar gyfer cynnal etholiad o'r fath yn rhannol o fewn y cyfnod perthnasol ac yn rhannol ar ei ôl. Yn ein cyfarfod, ystyriwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r pwynt hwn ac roeddem yn fodlon â'r esboniad a roddwyd i ni, sef, os yw dyddiad a bennir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer etholiad yn dod o fewn y cyfnod perthnasol, caiff y bleidlais ei gohirio, ac os yw dyddiad yr etholiad y tu allan i'r cyfnod perthnasol, ni fydd yn cael ei ohirio.
Nodasom hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes angen gwneud unrhyw ddarpariaeth atodol bellach o dan adran 68 o Ddeddf 2020 mewn perthynas â'r rheoliadau. Fel aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, mynegodd Suzy Davies bryderon am y rheoliadau yn ystod ein cyfarfod ar 18 Mai, a chawsant eu nodi yn y cofnod cyhoeddus.
Ni fydd fy ngrŵp yn cefnogi'r cynnig i ddirymu a gyflwynwyd gan Suzy Davies heddiw. Er bod democratiaeth yn agos at galon pob un ohonom ac er ein bod yn gwneud popeth a allwn i gynnal egwyddorion democrataidd, rhaid inni ystyried y cyd-destun ehangach. Mae miliynau o bobl yn fyd-eang wedi cael eu heintio â feirws sydd wedi costio llawer o fywydau ac sy'n cael ei ledaenu drwy gyswllt wyneb yn wyneb. Mae cyfyngiadau symud ar waith drwy'r wlad. Mae bywydau ar stop ac mae llawer o bobl wedi colli eu swyddi a busnesau wedi mynd i'r wal, ac i lawer o bobl yng Nghymru, mae'r dyfodol yn ansicr. Bu'n rhaid rhoi mesurau ar waith i atal lledaeniad cynyddol coronafeirws. Sut, felly, y gallwn gynnal isetholiadau? A'r ateb yw na allwn wneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel ac yn ystyrlon. Mewn llawer o achosion mae etholiadau'n galw am gynnal trafodaethau wyneb yn wyneb, cyfarfodydd cyhoeddus, sy'n aml yn angenrheidiol i wneud dewisiadau gwybodus. Mae pleidleisio electronig yn dieithrio canran o'r cyhoedd sy'n byw mewn tlodi ac na allant fforddio cyfrifiaduron, yn ogystal â'r rheini nad ydynt yn gallu defnyddio'r offer. Felly, yn y ddwy enghraifft hon yn unig, nid yw pobl yn cael eu trin yn gyfartal ac efallai na fyddant yn gallu pleidleisio oherwydd yr anghydraddoldeb hwn. Felly, yn anffodus, mae fy ngrŵp yn credu y dylid gohirio etholiadau ar hyn o bryd, a byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn.
Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.
Diolch, Lywydd. Mae etholiadau'n hanfodol i'n democratiaeth a dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i unrhyw beth sy'n effeithio arnynt, ac felly rwy'n hapus iawn fy mod wedi gallu clywed barn fy nghyd-Aelodau yn y Siambr heddiw. Mae'r rheoliadau hyn yn gwneud dau beth pwysig iawn: maent yn gohirio unrhyw isetholiadau a fyddai wedi'u cynnal rhwng mis Mawrth eleni a mis Ionawr y flwyddyn nesaf, ac maent yn gwarchod y rhai sy'n trefnu ein hetholiadau rhag erlyniad troseddol o ganlyniad i'r camau angenrheidiol y bu angen iddynt eu cymryd i ddiogelu'r cyhoedd a'u staff. Golyga hyn y bydd unrhyw isetholiadau sy'n codi rhwng 16 Mawrth 2020 a 31 Ionawr 2021 ar gyfer sedd sy'n digwydd dod yn wag yn cael eu cynnal rhwng 1 Chwefror 2021 a 16 Ebrill 2021. Y swyddog canlyniadau priodol fydd yn penderfynu ar union ddyddiad yr etholiad. Drwy ddatgymhwyso adrannau 39 a 63 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, rydym hefyd wedi sicrhau na fydd gweithred neu anwaith ar ran swyddogion canlyniadau mewn perthynas ag etholiad a oedd i fod i gael ei gynnal ond a gafodd ei ohirio yn arwain at erlyniad troseddol.
Gwnaed y rheoliadau hyn gan ddefnyddio'r weithdrefn negyddol, gan mai dyna sy'n ofynnol o dan Ddeddf Coronafeirws 2020. Mae adran 67 yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud y rheoliadau ac mae adran 67(7) yn pennu'r weithdrefn sy'n gymwys. Roedd angen datgymhwyso'r confensiwn 21 diwrnod hefyd, gan nad oedd y Ddeddf ond yn rhoi indemniad i swyddogion canlyniadau am y cyfnod rhwng 15 Mawrth a 24 Ebrill. Drwy ddatgymhwyso'r confensiwn 21 diwrnod, mae'n caniatáu inni ddwyn y rheoliadau i rym erbyn 5 Mai, gan osgoi unrhyw fwlch dianghenraid lle gallai swyddogion canlyniadau fod yn atebol am weithredu er lles y cyhoedd.
Ar adeg llunio'r rheoliadau hyn, roedd llawer iawn o bryder o fewn y gymuned etholiadol ynghylch diogelwch cynnal etholiadau. Ar 18 Mawrth, ysgrifennodd fy swyddog cyfatebol yn y DU a minnau at y gymuned etholiadol i roi ein cefnogaeth lawn i swyddogion canlyniadau a fyddai angen gohirio etholiadau cyn i Ddeddf Coronafeirws 2020 ddod i rym.
Rwy'n ystyried bod gohirio etholiadau'n fater difrifol; mae'r rheoliadau hyn wedi bod yn angenrheidiol oherwydd yr argyfwng iechyd digynsail sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Byddai'n amhosibl cynnal isetholiadau teg ac agored a cheir risgiau sylweddol i iechyd y boblogaeth. Byddem mewn perygl o ddifreinio pobl yn y grwpiau risg ac o beryglu iechyd pleidleiswyr, ymgeiswyr, ymgyrchwyr a staff etholiadol. Mae'r rheoliadau hyn yn caniatáu i swyddogion canlyniadau ddewis y dyddiad mwyaf priodol i gynnal etholiad a ohiriwyd rhwng 1 Chwefror 2021 ac 16 Ebrill 2021. Mae'r cyfnod hwn yn caniatáu digon o amser inni gael gwell dealltwriaeth o'r argyfwng iechyd cyhoeddus presennol, ac i gynllunio'n unol â hynny gyda'r gymuned etholiadol ac o fewn y fframwaith deddfwriaethol presennol.
Mae hyn yn digwydd cyn 6 Mai 2021, pan fydd yr etholiadau cyfredol ar gyfer ethol comisiynwyr heddlu a throseddu ac etholiadau'r Senedd i fod i gael eu cynnal. Mae cynnal etholiadau'r Senedd a'r comisiynwyr heddlu a throseddu ar yr un diwrnod yn gwneud y trefniadau'n gymhleth iawn, gan y byddant yn ymwneud â dwy system bleidleisio a dwy etholfraint wahanol. Ni fyddai'n ddymunol ychwanegu isetholiadau lleol wedi'u gohirio drwy'r trefniadau cymhleth hynny, ac felly mae angen ychwanegu dyddiadau Chwefror i 16 Ebrill pan fydd yn rhaid cynnal isetholiad.
Mae Llywodraeth y DU yn mynnu bod isetholiadau a ohiriwyd yn cael eu cynnal ar y dyddiad hwn, ond oherwydd y cymhlethdodau rwyf newydd eu nodi, nid oedd hynny'n briodol ar gyfer Cymru, ac felly cynhelir ein hisetholiadau yn gynharach. Mae caniatáu i swyddogion canlyniadau bennu'r dyddiad yn caniatáu iddynt ddefnyddio eu harbenigedd i ystyried ffactorau lleol i drefnu'r dyddiad mwyaf priodol, ac oherwydd bod angen y rheoliadau hyn ar frys, mae rhai o'r manylion technegol ynghylch sut y caiff yr oedi hwn ei reoli wedi'u neilltuo ar gyfer cyfres ddiweddarach o reoliadau.
Ysgrifennais at y gymuned etholiadol ar 5 Mai yn nodi'r rhesymeg sy'n sail i'r rheoliadau cyfredol a beth fyddai'n cael ei gynnwys yn yr ail gyfres. Bydd y rhain yn cynnwys nifer o faterion, megis pleidleisiau post a fwriwyd yn flaenorol, treuliau ac iawndal am etholiadau gohiriedig.
Rwy'n parhau i weithio'n agos iawn â'r gymuned etholiadol a gweinyddiaethau eraill yn y DU ar reoli'r etholiadau gohiriedig hyn a sicrhau y gellir cynnal etholiadau'n ddiogel ac yn deg. Diolch, Lywydd.
Suzy Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Caroline Jones a'r Gweinidog am ymateb i hynny, ac yn arbennig i'r Gweinidog am y rhesymau pam na fydd etholiadau'n cael eu gohirio tan fis Mai? Ond mewn gwirionedd nid yw hynny'n rhan o'r hyn rwy'n dadlau drosto beth bynnag, ond rwy'n ddiolchgar am y diweddariad.
Yn anffodus, fodd bynnag, mae'r ddau ohonoch wedi methu'r pwynt roeddwn yn ceisio'i wneud, ac nid yw'n ymwneud â chyflwyno isetholiadau'n fuan nac yn ddim cynt. Rwy'n gofyn i'r ddeddfwrfa hon fod yn siŵr fod y Llywodraeth yn ei gwneud hi'n glir i ni pam ei bod yn eu gohirio'n fympwyol, mae'n ymddangos i mi, tan fis Chwefror. Nid oes cyfle i gyflwyno isetholiadau'n gynt na hynny, hyd yn oed pe bai coronafeirws yn dod i ben yfory, ac mae'n amlwg nad yw'n mynd i wneud hynny. Ond rydym yn gohirio rhywbeth yma am y rhan helaethaf o flwyddyn heb fod unrhyw broses ar gael i ni o gwbl i fyrhau'r cyfnod hwnnw, pe bai'r sefyllfa'n golygu y byddai isetholiadau cynharach yn bosibl. Felly, i atgyfnerthu'r pwynt hwnnw: nid wyf yn gofyn am rai cynharach, rwy'n gofyn am esboniadau gan y Llywodraeth ynglŷn â pham y mae'n rhaid inni aros am flwyddyn o nawr, pan nad ydym wedi cael unrhyw ymgynghori nac eglurhad ynglŷn â sut y cytunwyd ar y cyfnod penodol hwnnw. Ond diolch, bawb.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gallaf weld gwrthwynebiadau ac felly gohiriwn y bleidlais ar y cynnig hwn tan y cyfnod pleidleisio.