7. Cynnig i ddirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 10 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 3:36, 10 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, a chyflwynaf y cynnig. Diolch, bawb, am aros i wrando ar hyn. Rwyf am ddechrau drwy wneud dau beth yn glir. Y cyntaf yw bod y rheoliadau hyn yn diogelu swyddogion amrywiol rhag atebolrwydd am beidio â chydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol arferol sy'n llywodraethu galw isetholiadau a'u cynnal. Gohiriwyd y gofynion arferol hynny gan Ddeddf Coronafeirws 2020. Mae'r rheoliadau hyn yn awr yn ceisio ymestyn y cyfnod hwnnw o ohirio a diogelu, ac felly maent yn bwysig.

Yr ail bwynt rwyf am ei wneud yw bod rheoliadau tebyg ar waith yn Lloegr sy'n ymestyn y cyfnod gohiriedig hyd yn oed ymhellach. Nid yw hynny'n bwysig, yn rhannol oherwydd nad yw fy etholwyr yng nghwm Ogwr a chanol Abertawe yn byw yn Lloegr, ac yn rhannol am nad oes etholiad Senedd yn Lloegr ym mis Mai.

Nawr, bydd yna feirniadaeth gyffredinol sy'n berthnasol i'r ddwy set hyn o reoliadau, ond mater i Aelodau Seneddol San Steffan yw herio'r rhai a wnaed ar gyfer Lloegr. Hoffwn i'r Senedd hon yng Nghymru ddeall yn llawn y rheoliadau hyn ar gyfer Cymru, diben gohirio isetholiadau am flwyddyn neu fwy, a gofyn wedyn a ydym ni fel y ddeddfwrfa yn credu bod honno'n ffordd addas o ymdrin â gohirio democratiaeth leol.

Nawr, yn fy rhanbarth i, mae dwy sedd wedi digwydd dod yn wag: un yn ward y Castell, oherwydd marwolaeth anffodus y cynghorydd uchel ei pharch, Sybil Crouch; ac un yn Nant-y-moel, o ganlyniad i garcharu cynghorydd nad oedd mor uchel ei barch, David Owen, ar ddechrau mis Mawrth. Daeth darpariaethau Deddf Coronafeirws 2020 i rym, gan ddatgymhwyso adrannau 39 a 63 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ar gyfer y cyfnod rhwng 15 Mawrth a 24 Ebrill 2020. Felly, gohiriwyd cynnydd ar y ddau isetholiad hynny.

Mae'r darpariaethau hynny fel arfer yn ei gwneud yn ofynnol i swyddog canlyniadau orchymyn etholiad, pennu dyddiad a chyhoeddi'r hysbysiadau angenrheidiol, ac maent yn golygu bod amryw o swyddogion yn agored i gollfarn ddiannod am beidio â chydymffurfio â'r gofynion hynny. Felly, roedd angen atgyweirio'r amddiffyniad i'r swyddogion hynny yn erbyn atebolrwydd am beidio â chydymffurfio, a ddaeth i ben ar 24 Ebrill, ac mae'n gwbl briodol fod swyddogion Llywodraeth Cymru am gyflwyno rheoliadau newydd yn gyflym. Felly, roeddent yn dal i adael swyddogion yn agored am 10 diwrnod da, ac yn llwyddo i dorri'r rheol 21 diwrnod ar gyfer gosod offerynnau statudol unwaith eto yn y broses o wneud hynny, ond gadewch inni fod yn hael, roedd yn adeg brysur iawn; ni chafodd neb niwed.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod yr offeryn yn llawn camgymeriadau: mae camgyfeiriadau at Orchymyn, nid rheoliadau; mae dyddiadau anghywir ynddo; cyfeirir at adrannau anghywir; ceir cyfeiriadau sy'n datgan bod darpariaethau'r Ddeddf corona wedi'u cyfyngu i ddwy flynedd, heb nodi bod y pwerau galluogi hyn—mae'n ddrwg gennyf, y pwerau ar gyfer gwneud y rheoliadau hyn—yn eithriad i'r rheol honno; ceir cyfeiriad at Gydsyniad Brenhinol, sy'n gwbl ddiystyr yn y cyd-destun arbennig hwn. Felly, fel darn o gyfraith, beth bynnag fo'r bwriad, mae'n llanast, ac ar y sail hon yn unig, efallai y dylem fod yn dadlau y dylid eu dirymu ac y dylid gosod set newydd ar unwaith—rhai sy'n gwneud synnwyr.

Ond y prif reswm pam rwy'n gofyn i chi ystyried dirymu'r rheoliadau hyn yw nad ydynt yn gymesur. Dylai'r gyfraith fod yn gymesur bob amser, ond cadarnhawyd yr egwyddor honno, er nad oedd angen unrhyw gadarnhad, mewn rheoliadau corona eraill a wnaed ychydig ddyddiau'n ddiweddarach. Felly, roedd yr egwyddor honno yn bendant ym meddwl deddfwriaethol y Llywodraeth. Felly, hoffwn glywed gan y Llywodraeth beth sy'n gymesur am ohirio unrhyw isetholiadau i bob pwrpas o fis Mawrth eleni hyd nes rhwng mis Chwefror a mis Ebrill y flwyddyn nesaf—beth sy'n gymesur ynghylch gwrthod cyfle i fy etholwyr gael cynrychiolaeth leol am bron i flwyddyn, neu'n hwy hyd yn oed, heb ymgynghori â'r cyhoedd? Ac a gawn ni gofio nad yw pob ward yn ward ag ynddi fwy nag un aelod? Sut y cytunwyd ar y dyddiadau hyn, pan na siaradodd Llywodraeth Cymru â mwy nag ychydig o bobl a oedd yn ymwneud â chyfraith a chydlyniad etholiadol? Oherwydd nid yw eu cyfleustra'n bwysicach na safbwyntiau'r Senedd hon a'r bobl rydym yn eu cynrychioli. Ac nid wyf yn credu mai'r ateb yw dweud:

'Ceisir safbwyntiau rhanddeiliaid yn adolygol fel rhan o ymgynghoriad yn y dyfodol ar ddarpariaethau atodol angenrheidiol' heb ddweud pwy neu beth sydd gennych mewn golwg.

Felly, rwy'n gofyn i'r Senedd hon feddwl yn ofalus iawn am ei hetholwyr a'r ddemocratiaeth y maent yn cael eu hamddifadu ohoni gan y rheoliadau hyn heb reswm cyfiawn ac i ddirymu'r rheoliadau hyn, sydd wedi'u drafftio'n wael ac sy'n ddiangen o ormesol. Gadewch inni ofyn i'r Llywodraeth osod rhai newydd heb y camgymeriadau, gyda chyfnodau gohiriedig byrrach, a chael memorandwm esboniadol i gyd-fynd â hynny sy'n esbonio pam y mae angen gohirio am gyfnod mor hir, ac os oes angen, i ddod yn ôl gyda set arall yn nes ymlaen, a set arall wedyn hyd yn oed o bosibl. Ond rwy'n gofyn i chi fod yn siŵr eich bod yn fodlon gadael eich etholwyr heb gynrychiolaeth am gymaint o amser. Diolch.